Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Mae costau ynni’n effeithio tafarndai Cymru
  • Achos Ryan Giggs: y rheithgor yn methu dod i benderfyniad
  • Cyngor yn trafod cynlluniau i agor ysgol Gymraeg newydd yn Nhredegar
  • Caryl Parry Jones yn cymryd lle Geraint Lloyd ar Radio Cymru

Costau ynni’n effeithio tafarndai Cymru

Mae perchnogion tafarndai yn poeni y byddan nhw’n gorfod cau oherwydd costau ynni uchel.

Mae chwech o fragdai mwyaf y Deyrnas Unedig wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i wneud rhywbeth “ar unwaith” am filiau ynni’r gaeaf hwn. Mae tafarndai yng Nghymru hefyd yn galw am help.

Mae arweinwyr y bragdai yn berchen ar 47,000 o dafarndai gyda’i gilydd. Maen nhw’n dweud fod tenantiaid yn rhybuddio eu bod nhw ddim yn gallu ymdopi efo’r biliau uchel.

Mae perchnogion JW Lees, Carlsberg Marston’s, Admiral Taverns, Drake & Morgan, Greene King a Bragdy St Austell wedi anfon llythyr agored at Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n galw ar y Llywodraeth i wneud rhywbeth ar frys. Maen nhw eisiau pecyn cymorth a chap ar bris ynni i fusnesau.

Biliau’n dyblu i £100,000

Mae tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon. Mae eu biliau ynni wedi dyblu eleni. Maen nhw’n disgwyl iddyn nhw godi eto pan fydd eu cytundeb ynni yn dod i ben.

John Evans ydy perchennog y Black Boy. Mae’n dweud: “Rydan ni’n talu £100,000 yn fan hyn rŵan, a fydd o’n £200,000 flwyddyn nesaf.”

“Rydan ni’n trio gweithio allan be fydd rhaid i ni wneud. Rydan ni am gau rhai dyddiau a lleihau’r oriau rydan ni ar agor.”

Ond mae John hefyd yn poeni y bydd prisiau cwrw yn codi eto hefyd.

Mae o’n credu y byddai gostwng Treth ar Werth (VAT) i’r lefel oedd yn ystod Covid yn help mawr i dafarndai.

“Mae pawb yn poeni. Os wyt ti adref mewn tŷ ti’n poeni.

“Ond pa bynnag biliau sydd gen ti adref, maen nhw’n ddeg gwaith yn fwy mewn tafarndai.”

Mae o’n credu bydd llawer o dafarndai yn cau os na fydd y Llywodraeth yn gwneud rhywbeth ar frys.

‘Dim golau ar ddiwedd y twnnel’

Eleri Pugh ydy perchennog Yr Eagles yn Llanuwchllyn, wrth ymyl Y Bala. Mae hi wedi gweld gwahaniaeth o £400 yn ei biliau mewn mis.

“Mae rhywun yn ofn gweld invoice.

“Mae o’n teimlo fel bod yna ddim golau ar ddiwedd y twnnel.”

Mae Eleri Pugh yn credu y bydd llai o bobl yn mynd i’r dafarn.

“Y peth olaf mae pobol am feddwl gwneud ar hyn o bryd ydy mynd allan am bryd o fwyd.

“Mae’n rhaid meddwl am fwydo teulu a phopeth yn gyntaf.”


Rheithgor yn achos Ryan Giggs yn methu dod i benderfyniad

Roedd yr achos llys yn erbyn Ryan Giggs wedi dod i ben wythnos yma.

Doedd y rheithgor yn yr achos ddim wedi gallu dod i benderfyniad.

Ryan Giggs ydy cyn-reolwr a chyn-chwaraewr tîm pêl-droed Cymru.

Nawr, mae disgwyl i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) benderfynu a fydd o’n wynebu achos arall. Roedd o wedi cael ei gyhuddo o ymosod ac ymddygiad oedd yn ceisio rheoli ei gyn-gariad Katie Greville.

Roedd Ryan Giggs, sy’n 48 oed, wedi’i gyhuddo o daro’i gyn-gariad gyda’i ben a tharo chwaer ei gyn-gariad yn ei hwyneb gyda’i benelin. Roedd hyn yn dilyn ffrae yn ei gartref ym Manceinion fis Tachwedd 2020.

Roedd e hefyd wedi’i gyhuddo o geisio rheoli Katie Greville yn ystod eu perthynas rhwng 2017 a 2020.

Roedd e’n gwadu’r holl gyhuddiadau.  Roedd yr achos ym Manceinion wedi para tair wythnos.

Bu’n rhaid i un aelod o’r rheithgor adael yng nghanol yr achos oherwydd salwch.

Clywodd y llys fod eu perthynas wedi dirywio yn ystod cyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd Ryan Giggs nad oedd e byth yn ymosodol tuag at Katie Greville. Dywedodd ei gyfreithwyr fod yr honiadau’n “gelwydd” ac yn “or-ddweud”.


Cynlluniau'r ysgol newydd yn Nhredegar

Cyngor yn trafod cynlluniau i agor ysgol Gymraeg newydd yn Nhredegar

Mae disgwyl i gynghorwyr ym Mlaenau Gwent drafod cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar wythnos nesaf.

Byddai lle i 210 o ddisgyblion yn yr ysgol newydd, gyda chyfleusterau meithrin a gofal plant.

Bydd y cynlluniau’n cael eu trafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Iau, Medi 8.

Mae’n debyg byddai’r ysgol yn costio tua £6.2m.

Byddai’r ysgol yn cael ei hadeiladu ar dir ar Ffordd y Siartwyr. Mae’r safle tir brown wedi cael ei ddefnyddio fel porfa i anifeiliaid ac mae maes chwarae bach yno.

Joanne White ydy’r swyddog cynllunio.

Mae hi’n dweud eu bod nhw wedi cael un llythyr yn gwrthwynebu’r cais. Roedd pryder am fwy o draffig yn yr ardal, a bod gofod agored yn cael ei golli.

Mae hi’n dweud y dylid rhoi caniatâd cynllunio i’r cais.

Os ydy cynghorwyr yn cytuno gyda Joanne White, y gobaith yw y bydd yr ysgol yn agor ym mis Ebrill 2024.

Byddai’r ysgol newydd yn Nhredegar yn dyblu nifer y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent. Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Nant-y-glo yw’r unig un ar hyn o bryd.


Caryl Parry Jones

Caryl Parry Jones yn cymryd lle Geraint Lloyd ar Radio Cymru

Caryl Parry Jones fydd yn cymryd lle Geraint Lloyd ar y shifft hwyr ar BBC Radio Cymru.

Bydd hi’n cyflwyno bob nos Lun i nos Iau rhwng 9yh a hanner nos o fis Hydref.

Mae Geraint Lloyd wedi dweud ei fod mewn “sioc ac yn siomedig” am benderfyniad Radio Cymru i ddod a’i raglen i ben. Mae wedi bod yn cyflwyno ar Radio Cymru ers dros 25 mlynedd.

Roedd 1,800 o bobl wedi arwyddo deiseb i drio achub rhaglen Geraint Lloyd.

Mae Radio Cymru wedi dweud bod rhaglen Geth a Ger ar nos Wener yn dod i ben hefyd, a rhaglen gelfyddydol Stiwdio Nia Roberts.

Bydd Caryl Parry Jones yn cyflwyno ei Sioe Frecwast olaf ar BBC Radio Cymru 2 fore Iau, Medi 29.

“Dw i wir yn edrych ymlaen at gyfnod newydd wrth i mi neidio o Radio Cymru 2 i Radio Cymru,” meddai Caryl Parry Jones.

“Ffling i’r cloc larwm a helo slipars a jim-jams a miwsig gora’r nos!”

‘Hwyl a hiwmor’

Dafydd Meredydd ydy Golygydd BBC Radio Cymru. Mae e’n dweud ei fod yn “falch iawn” y bydd Caryl Parry Jones yn cyflwyno rhaglen gyda’r nos.

“Mae Caryl yn enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar draws Cymru gyfan… mae hi wedi dod a’i brand unigryw o hwyl a hiwmor i genedlaethau o Gymry.”

Mae Dafydd Meredydd hefyd wedi diolch i Geraint Lloyd, Geth a Ger a Nia Roberts am eu gwaith a’u gwasanaeth gyda Radio Cymru.