Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…
Cyngor Gwynedd eisiau cael gwared a’r teitl Tywysog Cymru
Mae’n bosib y gall pobl Cymru gael Dydd Gŵyl Dewi i ffwrdd o’r gwaith
Lansio dau fap rhyngweithiol er mwyn cael mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg
Lansio cystadleuaeth i ddylunio het bwced cyn Cwpan y Byd
Cyngor Gwynedd eisiau cael gwared a’r teitl Tywysog Cymru
Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio yn erbyn cael arwisgiad ar gyfer y Tywysog William. Maen nhw hefyd eisiau cael gwared a’r teitl Tywysog Cymru.
Roedd 46 o gynghorwyr wedi pleidleisio yn erbyn cael arwisgiad yng Nghymru i’r Tywysog William a’r teitl Tywysog Cymru. Roedd pedwar o gynghorwyr wedi atal eu pleidlais.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn. Mae o’n credu bod y teitl yn “dal ni’n ôl”.
“Mae Cymru heddiw yn wlad fodern, ddemocrataidd, gyda Senedd sy’n rhoi llais a llwyfan i bobol Cymru yrru newid a datblygu fel cenedl,” meddai.
“Mae’r traddodiad gormesol hwn yn staen ar ein cenedl ac wedi bod ers canrifoedd.
“Mae’n rhoi’r argraff fod pobol Cymru yn eiddo i’r system, yn hytrach na bod yn ddinasyddion rhydd sy’n byw yn ein gwlad ein hunain.
“Yn fy marn i, dyma’r amser i bobl Cymru gael y cyfle i leisio barn a diddymu’r teitl sarhaus hwn.
“Nid yw’n gwneud synnwyr, yn fy marn i, fod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gynnal y teulu Brenhinol, gan gynnwys rôl Tywysog Cymru, o ystyried yr argyfwng costau byw y mae ein pobl yn dioddef ar hyd a lled y wlad.”
Ychwanegodd Elfed Wyn ap Elwyn: “Byddai’n sarhad i Gymru a’i phobol i gynnal seremoni Arwisgo yng Nghymru.”
Dywedodd ei bod yn “hen bryd” cael gwared a’r teitl Tywysog Cymru hefyd.
Mae’n bosib gall pobl Cymru gael Dydd Gŵyl Dewi i ffwrdd o’r gwaith
Mae’n bosib y gall pobl Cymru gael Dydd Gŵyl Dewi i ffwrdd o’r gwaith drwy gael gwared ar ŵyl banc arall.
Dyna beth mae Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud.
Mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael gwyliau banc eu hunain, Gŵyl Sant Andreas a Dydd San Padrig. Maen nhw hefyd yn cael y gwyliau banc mae Cymru a Lloegr yn eu cael.
Dim ond wyth o wyliau banc sydd gan Gymru a Lloegr. Maen nhw’n cael llai nag unrhyw wledydd eraill yn Ewrop. Mae gan yr Alban naw a Gogledd Iwerddon ddeg.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi gofyn “dro ar ôl tro” am gael y pŵer i wneud Mawrth 1 yn ŵyl banc, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod gwneud hyd yn hyn.
Ond mae sawl cyngor a chorff cyhoeddus yng Nghymru wedi rhoi diwrnod i ffwrdd o’r gwaith i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Maen nhw’n cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Aberystwyth a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Caerffili hefyd wedi dweud y byddan nhw’n edrych mewn i hyn.
“Yn fy marn i, byddai’n gwneud synnwyr cael gwared ar ŵyl y banc mis Mai, a chael Dydd Gŵyl Dewi fel ein gŵyl banc,” meddai Robert Buckland wrth y rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C
“Ond mae’n debyg nad fy mhenderfyniad i yw hwn; yn y bôn fe fydd hi fyny i eraill benderfynu.”
Lansio dau fap rhyngweithiol er mwyn cael mwy i ddefnyddio’r Gymraeg
Mae dau fap rhyngweithiol wedi cael eu lansio er mwyn trio cael mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
Uned Iaith Cyngor Gwynedd sydd wedi lansio’r mapiau.
Y cyntaf yw Map Gweithgareddau a Chlybiau Cymunedol Gwynedd. Mae ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd.
Mae’n rhoi gwybodaeth i bobl am weithgareddau, cymdeithasau a chlybiau ar gyfer pob oed a diddordeb yn y sir sy’n rhoi cyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r ail fap, Map Enwau Lleol, ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd hefyd.
Mae hwn wedi’i greu er mwyn creu cofnod bywo enwau llafar, anffurfiol ar lefydd. Mae hefyd yn nodi nodweddion daearyddolar draws Gwynedd.
Mae’n rhan o waith Prosiect Enwau Llefydd Cynhenid y Cyngor. Maen nhw eisiau creu adnodd sy’n hawdd ei ddefnyddio, er mwyn i grwpiau, ysgolion ac unigolion gadw rhai o’r enwau unigryw.
Mae’r map yn gadael i bobl ychwanegu pethau i’r map fel cae, stryd neu adeilad gyda disgrifiad, ac ychydig o wybodaeth neu lun.
Bydd y rhain wedyn yn ymddangos ar y map. Bydd eu lleoliadau wedi eu marcio gyda dotiau gwahanol liwiau yn ôl y math o nodwedd ydyn nhw.
‘Gwirfoddolwyr’
“Mae’r grwpiau a’r clybiau yma yn allweddoli gynnal y Gymraeg fel iaith fyw gymunedol,” meddai Gwenllian Williams, Ymgynghorydd Iaith Cyngor Gwynedd.
“Mae’r map yma yn ffordd o gydnabod a helpu rhannu gwybodaeth am y grwpiau a chlybiau yma a gwneud yn siŵr bod pobol yn gwybod lle i ddod o hyd i wahanol weithgareddau o fewn eu cymunedau.”
Lansio cystadleuaeth i ddylunio het bwced cyn Cwpan y Byd
Mae cystadleuaeth wedi cael ei lansio i ddylunio het bwced cyn Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar.
Y Mentrau Iaith sydd yn lansio’r gystadleuaeth fel rhan o’r gweithgareddau sy’n arwain at Gwpan y Byd.
Roedd y gystadleuaeth wedi dechrau ddoe (dydd Gwener, Hydref 7), ar gyfer plant a phobol ifanc hyd at 18 oed.
Bydd yr enillydd yn cael hetiau, gyda’r darlun sydd wedi ennill y gystadleuaeth, ar gyfer y dosbarth cyfan.
Bydd y Mentrau Iaith yn derbyn y dyluniadau tan 12yp ar Hydref 26. Bydd y tri beirniad – Sioned Dafydd, Geraint Lovgreen a Tim Williams – yn eu trafod cyn cyhoeddi’r enillydd ganol mis Tachwedd.
Bydd mwy o weithgareddau’n cael eu lansio yn yr wythnosau nesaf.
“Er mwyn cystadlu mae templed arbennig i’r gystadleuaeth i’r plant allu mynd ati i ddylunio,” meddai Daniela Schlick, o Mentrau Iaith Cymru.
“Rydym yn gofyn i’r rhieni dynnu llun neu wneud sgan o’r dyluniad a’i anfon atom trwy e-bost at hetbwced2022@mentrauiaith.cymru gan gynnwys enw llawn y plentyn, eu hardal a’r oedran. Mae’r templed, y manylion cyswllt a’r rheolau ar gyfer y gystadleuaeth ar gael ar ein gwefan www.mentrauiaith.cymru, ein cyfryngau cymdeithasol a gan y Mentrau Iaith yn lleol.”