Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Rishi Sunak ydy’r ffefryn i gymryd lle Boris Johnson.
  • Mae ffrae wedi codi am gynllun i adeiladu 400 o dai yn Aberdyfi.
  • Cafodd dau Aelod Seneddol eu taflu allan o Dŷ’r Cyffredin am alw am refferendwm annibyniaeth i’r Alban.
  • Mae disgwyl “Parti mawr” i ddathlu pen-blwydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn 30 oed.

Rishi Sunak
Rishi Sunak, y Canghellor

Rishi Sunak ydy’r ffefryn i gymryd lle Boris Johnson

Mae’r ornest i benderfynu pwy fydd yn cymryd lle Boris Johnson wedi cael llawer o sylw yr wythnos hon.

Y cyn-Ganghellor Rishi Sunak ydy’r ffefryn i fod yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr a’r Prif Weinidog nesaf ar hyn o bryd. Mae’n debyg mai fe ydy ffefryn Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru hefyd. Simon Hart ydy cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae e’n dweud ei fod e’n cefnogi Rishi Sunak.

Roedd y Twrnai Cyffredinol, Suella Braverman, allan o’r ras ddydd Iau (14 Gorffennaf). Roedd hi wedi gorffen yn olaf yn yr ail rownd bleidleisio.

Yn yr ail rownd roedd unrhyw ymgeisydd gyda llai na 30 o gefnwyr yn gadael y ras.

Dyma oedd y canlyniad ddydd Iau:

Rishi Sunak: 101

Penny Mordaunt: 83

Liz Truss: 64

Kemi Badenoch: 49

Tom Tugendhat: 32

Suella Braverman: 27

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd pleidleisiau eto’r wythnos nesaf. Ar ôl hynny, mae’n debyg mai dim ond dau ymgeisydd fydd ar ôl yn y ras. Mi fydd hyn cyn gwyliau’r haf sy’n dechrau ar Orffennaf 21.

Cyn hynny, bydd yr ymgeiswyr sydd ar ôl yn cymryd rhan mewn dadleuon ar y teledu ar Channel 4, ITV, a Sky News.

Yna, ar ôl Gorffennaf 22, bydd dadleuon yn cael eu cynnal ar hyd y wlad. Dyma pryd fydd aelodau’r Blaid Geidwadol yn penderfynu pwy fydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr.

Bydd y Prif Weinidog newydd yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 5. Bydd Aelodau Seneddol yn ôl yn San Steffan o’u gwyliau haf erbyn hynny.

 


Aberdyfi

 Galw ar y Goruchaf Lys i wrthod cynllun i adeiladu 400 o dai yn Aberdyfi

Mae ffrae wedi codi am gynllun i adeiladu 400 o dai yn Aberdyfi yng Ngwynedd.

Mabon ap Gwynfor ydy Aelod o’r Senedd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd. Liz Saville Roberts ydy Aelod Seneddol yr etholaeth.

Maen nhw eisiau i’r Goruchaf Lys wrthod y cynllun.

Maen nhw’n dweud bydd y cynllun ddim yn helpu pobl leol.

Roedd y cais cynllunio wedi cael ei wneud yn y 1960au. Hillside Park Ltd ydy’r cwmni sydd eisiau adeiladu’r tai. Maen nhw wedi colli apeliadau yn yr Uchel Lys a’r Llys Apêl yn barod.

Mae disgwyl i’r Goruchaf Lys wneud dyfarniad terfynol yn yr hydref.

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn dweud bod y cynllun yn “anaddas” ac “na fyddai’n dod ag unrhyw fudd i’r gymuned leol.” Maen nhw’n dweud bydd teuluoedd lleol ddim yn gallu fforddio’r tai a bod angen mwy o dai cymdeithasol yn yr ardal.


San Steffan

Taflu dau Aelod Seneddol allan o Dŷ’r Cyffredin ar ôl galw am refferendwm annibyniaeth i’r Alban

Cafodd dau Aelod Seneddol eu taflu allan o Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher (Gorffennaf 13) ar ôl galw am refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Roedd y ddau o Blaid Alba, Kenny MacAskill (Dwyrain Lothian) a Neale Hanvey (Kirkcaldy a Cowdenbeath). Syr Lindsay Hoyle ydy Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Roedd e wedi gorchymyn bod y ddau yn gadael y siambr yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Roedd Kenny MacAskill wedi cael ei glywed yn dweud “mae angen i ni gael refferendwm.” Wedyn roedd Aelodau Seneddol eraill wedi dechrau gweiddi drosto.

Roedd e wedi gwrthod eistedd i lawr ac wedi cario mlaen i siarad. Cafodd e rybudd gan Syr Lindsay Hoyle.

“Caewch eich ceg neu ewch allan,” meddai Syr Lindsay Hoyle.

Roedd Kenny MacAskill wedi codi ar ei draed eto, ac yna roedd Neale Hanvey hefyd wedi codi a dechrau siarad.

Roedd Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi gweiddi arnyn nhw.

Cafodd Neale Hanvey a Kenny MacAskill orchymyn i adael y siambr.


Sesiwn Fawr Dolgellau

 “Parti mawr” i ddathlu pen-blwydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn 30 oed

Mae disgwyl “parti mawr” yn Nolgellau wrth i’r Sesiwn Fawr ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.

Bydd 58 o artistiaid yn perfformio yn y dref dros y penwythnos (Gorffennaf 15-17). Maen nhw’n cynnwys Yws Gwynedd, Swnami, Tara Bandito a N’famady Kouyate.

Bydd sesiynau llên a chomedi ar gael hefyd yn rhad ac am ddim, a bydd gweithgareddau i blant yn ardal newydd y Pentre’ Plant.

“Mae yno wir rywbeth i bawb! Mae hi’n ŵyl gartrefol braf, a bydd croeso cynnes yn eich disgwyl yn Nolgellau,” meddai Siân Davenport, Swyddog Datblygu’r ŵyl.

“Cerddoriaeth byw, tywydd braf a chwrw da – be well?”

Mae’r Sesiwn Fawr yn trio dangos “y gorau o fyd gwerin”, ochr yn ochr â cherddorion lleol a cherddoriaeth byd, sy’n disgyn o dan bob math o genres.

Bydd cyfrol yn edrych ar hanes y Sesiwn Fawr dros y blynyddoedd, Tydi’r Sgwâr ddim digon mawr, yn cael ei lansio yn Nhŷ Siamas yn Nolgellau am 2yp ddydd Sadwrn.

Mae tocynnau ar werth ar wefan sesiwnfawr.cymru; Siop y Cymro, Gwin Dylanwad a Tŷ Siamas yn Nolgellau; Siop Eifionydd ym Mhorthmadog; ac Awen Meirion yn y Bala.