Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…
- Mae’r cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru i gyd wedi dod i ben
- Mae’r achos cyntaf o frech mwncïod wedi cael ei ddarganfod yng Nghymru
- Bydd cartrefi ar incwm isel yn y Deyrnas Unedig yn cael dros £1,000 i helpu gyda chostau byw
- Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r canwr ac actor Dyfrig ‘Topper’ Evans
- Cyhoeddi lein-yp Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron
Cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru i gyd yn dod i ben
Mae’r cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru i gyd wedi dod i ben erbyn hyn.
Mae’r newyddion wedi cael ei groesawu.
Ond mae rhybudd y dylai pobol barhau i wisgo mygydau.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i gynghori pobol i wneud rhai pethau i edrych ar ôl eu hiechyd. Mae’n cynnwys gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu brechu, a hunanynysu os ydyn nhw’n cael symptomau.
Mae’r Llywodraeth yn dweud bod y sefyllfa wedi parhau i wella dros y tair wythnos ddiwethaf. Mae’n dweud bod llai o bobol yn yr ysbyty yn cael triniaeth am y feirws.
Ond maen nhw’n rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd dan bwysau o hyd oherwydd y feirws ac achosion brys.
Mae Cymdeithas Feddygol y BMA yn dweud dylai pobol barhau i wisgo mygydau.
“Dydi Covid heb fynd,” meddai Dr Phil White wrth BBC Radio Cymru.
“Mae yna rhai achosion o gwmpas o hyd.”
Mae e’n dweud dylai pobl barhau i wisgo mygydau mewn llefydd fel meddygfeydd ac ysbytai a chartrefi henoed.
Darganfod yr achos cyntaf o frech mwncïod yng Nghymru
Mae’r achos cyntaf o frech mwncïod wedi cael ei ddarganfod yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn “monitro’r sefyllfa”.
Mae symptomau’r frech mwncïod yn cynnwys cur pen, poen yn y cyhyrau a’r cefn, nodau lymff wedi chwyddo, teimlo’n oer a blinder.
Mae brech yn datblygu, yn aml ar yr wyneb, ac wedyn yn mynd i rannau eraill o’r corff.
Fel arfer, dydy’r frech mwncïod ddim yn lledaenu’n hawdd rhwng pobol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag asiantaethau iechyd y cyhoedd yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.
Eluned Morgan ydy Ysgrifennydd Iechyd Cymru. Mae hi’n dweud bod y person sydd a’r frech mwncïod yn cael triniaeth. Maen nhw’n trio dod o hyd i bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad ag e.
Mae’r frech mwncïod fel arfer yn digwydd yng Ngorllewin a Chanol Affrica. Mae achosion yn y Deyrnas Unedig yn brin iawn fel arfer, meddai Eluned Morgan.
Ond mae nifer o achosion wedi bod yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd o gwmpas y byd yn ddiweddar.
Cartrefi ar incwm isel yn y Deyrnas Unedig yn cael help o dros £1,000
Bydd miliynau o gartrefi yn y Deyrnas Unedig yn cael help o dros £1,000 eleni. Dyma beth mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi dweud.
Mae hyn yn cynnwys taliad costau byw gwerth £650.
Mae’r arian yn rhan o gytundeb gwerth £15bn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd yn helpu pobol ar incwm isel sy’n cael problemau oherwydd y cynnydd mewn costau byw.
Bydd taliadau ar wahân o £300 i bensiynwyr a £150 i bobol sy’n cael budd-daliadau anabledd.
Bydd help hefyd ar gyfer biliau ynni o fis Hydref ymlaen. Bydd yr arian yn cael ei ddyblu o £200 i £400, ac ni fydd yn rhaid talu’r arian yn ôl.
Simon Hart ydy Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Mae o’n dweud bydd yr arian yn helpu i “leihau’r pwysau ar filoedd o bobol ar draws Cymru.”
Ond mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn dweud bod angen rhoi mwy o help.
Mae’n croesawu’r help ychwanegol i bobol ar incwm isel, ond yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy.
Teyrngedau i’r canwr ac actor Dyfrig ‘Topper’ Evans
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r canwr ac actor Dyfrig ‘Topper’ Evans.
Roedd e wedi marw ar ôl salwch byr.
Roedd yn 43 oed.
Roedd y DJ Gareth Potter yn ffrind agos iddo. Mae e’n dweud bod Dyfrig “mor dalentog, mor hwylus” ac y bydd e’n ei “gofio am byth”.
Cafodd Dyfrig ei eni ym Mhenygroes a’i addysgu yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Roedd yn aelod o gast gwreiddiol Rownd a Rownd. Roedd e’n chwarae’r cymeriad Arwel neu ‘Ari Stiffs’.
Roedd e wedi bod mewn llawer o gyfresi S4C wedyn, fel Emyn Roc a Rôl, Gwlad yr Astra Gwyn, Talcen Caled, Tipyn o Stad ac Y Gwyll/Hinterland.
Roedd e hefyd yn ganwr a gitarydd y band Topper gyda’i frawd Iwan. Roedd e hefyd yn canu ar ben ei hun ac yn cael ei adnabod fel ‘Dyfrig Topper’.
Roedd e wedi dod yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2019 gyda’r gân ‘LOL’.
Dywedodd Alun Ffred Jones ei fod yn “drist iawn, iawn colli rhywun mor ifanc.”
Cyhoeddi lein-yp Maes B
Mae’r lein-yp ar gyfer Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni wedi cael ei gyhoeddi.
Am y tro cyntaf erioed, bydd Eden yn brif artistiaid un o nosweithiau Maes B.
Roedd yn rhaid gohirio hanner yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 oherwydd tywydd gwael. Cafodd yr ŵyl ei chanslo yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig.
Mae Maes B yn ôl gyda thri llwyfan eleni.
Bydd dau lwyfan ar gyfer bandiau byw ac un ar gyfer DJs. Fe fyddan nhw’n chwarae cerddoriaeth tan oriau mân y bore.
Mae’r lein-yp yn cynnwys artistiaid fel Gwilym, Sŵnami, Los Blancos, Lloyd + Dom James, Tara Bandito, Eädyth, Kim Hon, a’r Cledrau hefyd.
Lein-yp
Llwyfan 1 nos Fercher: Gwilym / Sŵnami / Alffa / Hana Lili
Llwyfan 2 nos Fercher: Los Blancos / Papur Wal / Dienw
Llwyfan 1 nos Iau: Breichiau Hir / CHROMA / Kim Hon / Tiger Bay
Llwyfan 2 nos Iau: 3 Hwr Doeth / Lloyd + Dom James / skylrk
Llwyfan 1 nos Wener: Eden / Tara Bandito / Eädyth / Mali Haf
Llwyfan 2 nos Wener: Y Cledrau / Elis Derby / Cai
Llwyfan 1 nos Sadwrn: Adwaith / Mellt / Hyll / Stafell Fyw ac Enillwyr Brwydr y Bandiau 2022
Llwyfan 2 nos Sadwrn: HMS Morris / SYBS / Pys Melyn