Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Ffrae ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio rhoi llyfr hanes ar gyfer y Jiwbilî i ysgolion.
  • Mae Wrecsam wedi cael Statws Dinas.
  • Mae arolwg yn cael ei gynnal yn Ynys Môn i edrych ar y ffordd mae pobol yn defnyddio’r Gymraeg yno.
  • Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych wedi cael eu dadorchuddio.
  • Mae cwmni gwneud telynau yn dod i ben ar ôl 18 mlynedd.

Ffrae am lyfr hanes ar gyfer y Jiwbilî

Y Frenhines Elizabeth II

Mae ffrae wedi bod am lyfr hanes ar gyfer y Jiwbilî Frenhinol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio rhoi’r llyfr i bob ysgol yng Nghymru. Ond mae ysgolion yn gallu gofyn am gopi os ydyn nhw eisiau un.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae e’n dweud bod hyn yn “sarhad ar y Frenhines”.

Roedd y llyfr wedi cael ei gomisiynu gan Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fe fydd tua 211,000 o gopïau dwyieithog yn cael eu rhoi i blant mewn 3,000 o ysgolion yng Nghymru.

Mae’r llyfr yn dweud beth ydy’r Frenhiniaeth, rôl brenin neu frenhines a pham eu bod yn bwysig. Mae hefyd yn dweud beth yw’r jiwbilî a hanes 70 mlynedd y Frenhines ar yr orsedd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r hanesydd Dr Elin Jones beth oedd hi’n meddwl am y llyfr.

Roedd Dr Elin Jones wedi dweud bod y llyfr ddim yn trafod digon am ieithoedd a diwylliannau brodorol Prydain. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio rhoi copi o’r llyfr i bob disgybl.

Bydd llyfr Dr Elin Jones, Hanes yn y Tir, yn cael ei roi i ysgolion Cymru i’w helpu i ddysgu am hanes Cymru.

Ond mae Andrew RT Davies yn dweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn “drist” a bod y llyfr yn “ffordd syml o rannu stori” teyrnasiad y Frenhines gyda phlant.

Geirfa

Ffrae – row

Sarhad – insult

Brenhiniaeth –monarchy

Gorsedd – throne

Diwylliannau brodorol – native cultures

Ieithoedd – languages

Terynasiad – reign


Wrecsam yn cael Statws Dinas fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî

Mae Wrecsam wedi cael Statws Dinas. Mae’r dref wedi cael y statws fel rhan o’r dathliadau ar gyfer y Jiwbilî.

Mae Wrecsam yn un o wyth lle yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael y statws. Maen nhw’n cynnwys Bangor yng Ngogledd Iwerddon, Caer Colun (Colchester), Dinas y Garrai (Doncaster) a Milton Keynes yn Lloegr, Douglas ar Ynys Manaw, Dun Pharlain (Dunfermline) yn yr Alban, a Stanley ar Ynysoedd y Malfinas (Falklands).

Dyma’r nifer fwyaf o lefydd i gael Statws Dinas ar yr un pryd. Roedd yn rhaid iddyn nhw ddangos pam eu bod nhw’n haeddu’r Statws. Roedd trefnwyr y gystadleuaeth yn dweud bod statws dinas yn hwb fawr i economi’r ardal.

Roedd Cyngor Wrecsam wedi gwneud cais am statws dinas tair gwaith o’r blaen. Ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus yn 2000, 2002 a 2012. Roedd rhai pobol yn y dref wedi protestio yn erbyn penderfyniad Cyngor Wrecsam i wneud cais am Statws Dinas y tro yma. Roedd tua 100 o bobol wedi bod yn protestio ym mis Rhagfyr. Ond roedd y Cyngor sir wedi penderfynu cario ymlaen gyda’r cais.

Simon Hart ydy Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae o wedi croesawu’r newyddion.

“Mae gan Wrecsam hanes rhyfeddol a dyfodol cyffrous, ac rwyf wrth fy modd o’i gweld yn derbyn Statws Dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines,” meddai.

Mae Wrecsam wedi cael llawer o sylw ar draws y byd ar ôl i’r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Geirfa

Dathliadau – celebrations

Haeddu – deserve

Llwyddiannus – successful


Arolwg am ddefnyddio’r Gymraeg ym Môn

Logo Cyngor Ynys MônBydd pobol sy’n byw yn Ynys Môn yn cael cymryd rhan mewn arolwg sy’n edrych ar yr iaith Gymraeg ar yr ynys.

Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei chomisiynu i wneud y gwaith ymchwil.

Roedd Menter Iaith Môn a Chyngor Sir Ynys Môn wedi cael £250,000 ar gyfer yr arolwg gan Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig. Mae pawb yn cael cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys siaradwyr rhugl a dysgwyr.

Elen Hughes ydy Prif Swyddog Menter Iaith Môn

Mae hi’n dweud mai dyma’r tro cyntaf i’r fenter wneud prosiect ymchwil fel hyn ym Môn.

Mae Elen Hughes yn dweud y bydd y data yn helpu nhw i gynllunio eu gwaith dros y blynyddoedd nesaf.

Mae hi eisiau i gymaint o bobol â phosib gymryd rhan yn yr arolwg.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd,” meddai.

Mae’r prosiect yma’n gyfle i weld sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd ar Ynys Môn, meddai Dr Rhian Hodges ym Mhrifysgol Bangor.

Geirfa

Arolwg – survey


Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

Cadair Eisteddfod yr Urdd 2022
Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 wedi cael eu dadorchuddio.

Roedden nhw wedi cael eu dangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad yn Llyfrgell Dinbych ar 16 Mai.

gemydd Ann Catrin Evans o Gaernarfon sydd wedi gwneud y Goron. Y saer Rhodri Owen o Ysbyty Ifan sydd wedi gwneud y Gadair.

Mae’r Eisteddfod yn Sir Ddinbych wedi cael ei gohirio am ddwy flynedd. Roedd Ann Catrin wedi newid y goron er mwyn dathlu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed eleni. Roedd hi wedi cael ei hysbrydoli gan dirlun Dinbych a’r ardal ac offer ffermio.

“Rwy’n ferch fferm ac roedd y peiriant torri gwair ‘Bamford Major’ yn ysbrydoliaeth,” meddai.

Coron Eisteddfod yr Urdd 2022
Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Mae hi wedi defnyddio copr ac arian sterling gyda chap melfed a sidan coch.

Roedd Rhodri hefyd eisiau dathlu canmlwyddiant yr Urdd wrth wneud y Gadair.

“Mae’r marciau ar y gadair yn rhifo 100, ac yn sillafu Sir Ddinbych ar y ddwy ochor hefyd,” meddai. Mae o wedi’i ysbrydoli gan fryniau a lliwiau Clwyd a llif yr Afon Clwyd.

Mae’r Gadair wedi ei noddi gan Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy.

Mae’r Goron wedi ei noddi gan Gymdeithas Gymraeg Dinbych.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 yn cael ei chynnal wrth ymyl tref Dinbych rhwng Mai 30 a Mehefin 4. Mae mynediad i’r ŵyl am ddim eleni.

Geirfa

Dadorchuddio – unveil

Gemydd – jeweller

Saer – carpenter

Ysbrydoli – inspire


Cwmni gwneud telynau yn dod i ben

Mae Telynau Teifi yn Llandysul wedi dweud eu bod nhw’n dod a’r cwmni i ben ar ôl 18 mlynedd.

Mae Telynau Teifi yn fenter gymunedol.  Roedd wedi cael ei dechrau yn 2004 gan Allan Shiers oedd yn gwneud telynau. Roedd y gweithdy mewn hen ysgol gyda thîm bach yn gwneud telynau â llaw.

Roedd Allan Shiers wedi bod yn gwneud telynau am fwy na 40 mlynedd.

Roedd y cwmni wedi dweud ym mis Ebrill eu bod nhw ddim yn gallu cymryd archebion newydd ddim mwy.

Mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw’n cau wythnos yma oherwydd problemau sydd allan o’u rheolaeth.

Ond mae’r cwmni’n dweud bod angen cadw’r etifeddiaeth o wneud telynau yng Nghymru.

Maen Telynau Teifi yn dweud eu bod nhw wedi diogelu’r technegau traddodiadol oedd yn cael eu defnyddio fel bod y sgiliau ddim yn cael eu colli.

Telyn – harp

Menter gymunedol – community enterprise

Archebion – orders

Etifeddiaeth – legacy

Technegau traddodiadol – traditional techniques