Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Achos llys yn erbyn ymgyrchydd iaith yn cael ei daflu allan
  • Staff Pobol y Cwm yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu diswyddo
  • Ymgyrchydd am ymprydio yn ystod y Jiwbilî a rhoi’r arian i fanc bwyd lleol
  • Yr Urdd am greu gardd gymunedol yn Ninbych
  • Mike Peters a The Alarm yn gorfod canslo gigs oherwydd salwch

Achos llys yn erbyn ymgyrchydd iaith yn cael ei daflu allan

Toni Schiavone
Toni Schiavone

Mae achos llys yn erbyn ymgyrchydd iaith wedi cael ei daflu allan.

Roedd Toni Schiavone wedi cael dirwy barcio yn Llangrannog ym mis Medi 2020. Roedd y ddirwy yn Saesneg yn unig. Roedd y gwaith papur a gafodd ar ôl hynny i gyd yn Saesneg hefyd. Roedd Toni Schiavone wedi gwrthod talu’r ddirwy.

One Parking Solutions sy’n rheoli’r maes parcio. Mae eu pencadlys yn Worthing yn Lloegr. Roedd Toni Schiavone wedi cysylltu efo’r cwmni. Roedd e wedi gofyn am gael cosb yn Gymraeg. Ond roedd One Parking Solutions wedi gwrthod. Roedden nhw’n dadlau mai cwmni Saesneg oedden nhw. Wnaethon nhw benderfynu mynd a Toni Schiavone i’r llys am wrthod talu’r ddirwy.

Roedd disgwyl iddo fynd o flaen llys ynadon Aberystwyth ddydd Mercher (Mai 11). Ond doedd neb o One Parking Solutions wedi mynd i’r llys. Cafodd yr achos ei daflu allan.

“Mewn ardal mor Gymraeg â Llangrannog pam na allwn ni ddisgwyl gwasanaeth Cymraeg?” meddai Toni Schiavone.

Roedd One Parking Solutions wedi gorfod cyfieithu’r wybodaeth ar gyfer y llys eu hunain, gan gynnwys copi o’r ddirwy. Mae Toni Schiavone yn dweud nawr bod dim byd yn stopio’r cwmni rhag rhoi hysbysiadau cosb yn Gymraeg yn y dyfodol.

Mae e’n galw am newid y Mesur Iaith i gynnwys y sector breifat.

Geirfa

Dirwy – fine

Pencadlys – headquarters

Dadlau – argue

Llys ynadon – magistrates court


Staff Pobol y Cwm yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu diswyddo 

Pobol y Cwm

Mae aelodau o staff tîm cynhyrchu Pobol y Cwm yn wynebu cael eu diswyddo. Dyna beth mae’r undeb sy’n cynrychioli gweithwyr creadigol yn ei ddweud.

Mae undeb Bectu wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n siomedig iawn gyda’r penderfyniad.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad S4C y llynedd i ddangos llai o benodau o’r gyfres sebon bob wythnos, yn ôl Bectu.

Mae tair pennod o Pobol y Cwm yn cael eu dangos bob wythnos ers mis Tachwedd y llynedd. Mae hyn yn mynd i barhau.

Mae Pobol y Cwm yn cael ei chynhyrchu gan BBC Studios. Maen nhw eisiau cyflogi staff llawrydd yn lle cyflogi pobl yn barhaol.

Carwyn Donovan ydy Swyddog Trafodaethau Bectu. Mae e’n poeni bydd BBC Studios yn colli’r dalent sydd wedi gwneud y gyfres mor llwyddiannus.

Mae S4C wedi dweud bod Pobol y Cwm yn dal i fod yn rhan bwysig o amserlen y sianel.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Studios bod y ffordd maen nhw’n cynhyrchu Pobol y Cwm yn newid.

“Rydym yn newid i fodel mwy hyblyg o gyflogi staff cynhyrchu… Rydym yn gwneud y newid hwn gan fod S4C wedi gofyn am lai o benodau’r wythnos ac nid yw’n gynaliadwy i barhau gyda’r model staffio presennol.”

Geirfa

Diswyddo – redundant

Pennod – episode

Llawrydd – freelance

Hyblyg – flexible

Cynaliadwy – sustainable


Y Frenhines Elizabeth II

Ymgyrchydd am ymprydio yn ystod y Jiwbilî a rhoi’r arian i fanc bwyd lleol

Mae ymgyrchydd o Gaerdydd wedi dweud y bydd hi’n ymprydio yn ystod Jiwbilî’r Frenhines.

Mae Gwenno Dafydd eisiau rhoi’r arian y bydd hi’n ei arbed i fanc bwyd lleol.

Mae hi eisiau i bobl eraill ymuno efo’r brotest yn erbyn y dathliadau ar ddechrau Mehefin.

Mae Gwenno Dafydd am ymprydio am bedwar diwrnod cyfan rhwng Mehefin 2-5. Mae hi’n annog pobol i wneud beth maen nhw’n gallu a mynd heb un pryd bwyd y dydd. Mae hi’n dweud byddai hynny’n golygu bod banciau bwyd lleol yn cael £20 yr un.

Ond dyw hi ddim eisiau i unrhyw un sydd mewn iechyd gwael i ymprydio.

Mae Gwenno Dafydd yn dweud ei bod hi’n anghytuno gyda’r arian fydd yn cael ei “wastraffu” yn ystod y Jiwbilî. Mae hi’n dweud bod hyn yn annerbyniol mewn amser pan mae cymaint o bobl yn cael problemau oherwydd yr argyfwng costau byw.

“Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i ni wneud rhywbeth positif yn lle eistedd yma’n cwyno ac yn cwyno,” meddai Gwenno Dafydd.

“Allwn ni gyd ymprydio am gwpwl o oriau, mynd heb ginio neu swper, neu efallai wneud diwrnod cyfan. Mae o i gyd yn bosib i bawb.

“Rydyn ni i gyd yn gallu mynd heb un pryd o fwyd a fysa hynna tua £5.”

Cafodd dros 131,000 o becynnau bwyd eu rhoi i bobol yng Nghymru y llynedd, yn ôl y Trussell Trust. Mae cynnydd o 35% wedi bod yn y galw dros y chwe mis hyd at fis Ebrill eleni o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Geirfa

Ymgyrchydd – campaigner

Ymprydio – to fast

Arbed – save

Annerbyniol – unacceptable

Cwyno – complain


Dinbych
Dinbych

Yr Urdd am greu gardd gymunedol yn Ninbych

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi dweud y bydd gardd gymunedol ecogyfeillgar ar y maes yn Ninbych eleni.

Mae’r Arddorfa yn ardal newydd ar y maes. Mae’n rhan o brosiect i gael pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn byd natur a’r celfyddydau.

Bydd llwyfan i berfformwyr a gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr ardal.

Siân Eirian ydy Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

Mae hi’n dweud y byddan nhw’n creu gerddi o blanhigion yn yr Arddorfa.  Fyddan nhw hefyd yn creu gardd synhwyraidd gydag offerynnau sydd wedi’u gneud o ddeunyddiau naturiol. Bydd pobl yn gallu arbrofi gyda synau a cherddoriaeth, meddai Siân Eirian.

Ar ôl i’r Eisteddfod orffen, fe fydd y gerddi yn aros yn y gymuned. Bydd y gerddi yn cael eu rhoi i ysgolion a mudiadau cymunedol yn Sir Ddinbych.

Mae’r Urdd wedi gofyn i’r garddwr o Ruthun, Sioned Edwards, a gwirfoddolwyr ‘Cymdeithas Dinbych yn Blodeuo’, i gynnal gweithdai i blant a phobol ifanc yr ardal. Y syniad ydy y byddan nhw’n gallu edrych ar ôl y gerddi a dysgu am yr amgylchfyd.

“Bydd y gerddi’n byw yn y gymuned am flynyddoedd i ddod, gyda phlant a phobol ifanc yn dysgu drwy’r gweithdai am sut i ofalu am y planhigion,” meddai Siân Eirian.

Mae Eisteddfod yr Urdd Sir Dinbych 2022 yn cael ei chynnal rhwng Mai 30 a Mehefin 4.

Geirfa

Gardd gymunedol – community garden

Gardd synhwyraidd – sensory garden

Offerynnau – instruments

Arbrofi – experiment


Mike Peters
Mike Peters yn Rockfield

Mike Peters a The Alarm yn gorfod canslo gigs oherwydd salwch

Mae Mike Peters a The Alarm wedi gorfod canslo gigs am fod y canwr yn sâl.

Mae gan Mike Peters lewcemia, a nawr mae’n sâl gyda niwmonia.

Mae meddygon wedi dweud wrtho fod angen triniaeth a gorffwys am tua thri mis. Mae niwmonia yn effeithio ei system imiwnedd.

Mae ei deulu wedi dweud mewn datganiad ar ei wefan bod ei salwch yn “sioc” ac yn “annisgwyl”. Bydd yn rhaid aildrefnu’r holl gigs gan Mike Peters a The Alarm ar gyfer Mai, Mehefin a Gorffennaf.  Maen nhw eisiau gwneud yn siŵr bod Mike Peters yn gwella o’r niwmonia cyn trefnu unrhyw beth arall.

Roedd disgwyl i’r canwr berfformio mewn gig yn Efrog Newydd fis nesaf. Bydd y trefnwyr Live Nation yn rhoi gwybod am ddyddiad newydd yn fuan.

Geirfa

Gorffwys – rest

Annisgwyl – unexpected