Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Dydy Llywodraeth San Steffan ‘ddim yn gwneud digon’ i helpu pobol gyda’r argyfwng costau byw
  • Mae S4C yn dweud bod “dim gwirionedd” fod Pobol y Cwm yn dod i ben
  • Mae Cymdeithas yr Iaith eisiau hyfforddi gweithwyr addysg i siarad Cymraeg
  • Mae ffilm am fugail o Ddyffryn Teifi yn cael ei dangos mewn gŵyl ffilmiau yn Efrog Newydd

Costau byw: Llywodraeth San Steffan ‘ddim yn gwneud digon’

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

Dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn gwneud digon i helpu gyda’r argyfwng costau byw. Dyna beth mae saith ym mhob deg o bobol yn credu, yn ôl arolwg gan y TUC.

Mae 77% o bobol yng Nghymru’n credu bod Llywodraeth San Steffan ddim yn gwneud digon i helpu i wella’r argyfwng costau byw.

Mae’r TUC yn galw am Gyllideb Frys i helpu gyda’r broblem.

Mae’r arolwg yn dangos mai dim ond 19% o bobol sy’n credu bod Boris Johnson a’i lywodraeth wedi gwneud digon i helpu pobol sy’n ei chael hi’n anodd oherwydd bod costau byw yn codi.

Cafodd 2,000 o bobol eu holi, gan gynnwys 178 o bobol yng Nghymru. Costau byw sy’n poeni nhw fwyaf. Roedd saith ym mhob deg yn dweud mai dyma’r brif broblem sy’n wynebu pobol ar hyn o bryd. Mae pobl hefyd yn poeni am y Gwasanaeth Iechyd a budd-daliadau.

Mae’r  TUC yn dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb wneud digon i helpu gyda biliau a phrisiau ynni’n codi.

Maen nhw’n galw ar y Canghellor Rishi Sunak i ddod yn ôl i’r senedd gyda Chyllideb Frys i helpu pobol gyda’r sefyllfa. Mae’r TUC eisiau iddo helpu gyda biliau ynni, a chodi’r isafswm cyflog a Chredyd Cynhwysol.

“Dylai fod gan bawb ddigon i dalu eu biliau,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Ond mae blynyddoedd o aros yn yr unfan wedi gadael miliynau o bobol yn wynebu biliau a phrisiau cynyddol.”

Mae hi’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i drio cefnogi pobol.

“Ond mae’r cyfrifoldeb yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.


Pobol y Cwm yn dod i ben? S4C yn dweud ‘na’

Pobol y Cwm

Mae S4C yn dweud bod “dim gwirionedd” fod Pobol y Cwm yn dod i ben.

Roedd adroddiadau bod actorion a chriw’r gyfres sebon yn trafod dyfodol Pobol y Cwm.

Yn ôl yr adroddiadau, mae’n bosib y gall hyn arwain at dorri cyllideb y gyfres. Fe allai gael ei darlledu am lai o oriau, ac am naw mis o’r flwyddyn yn lle 12.

Mae S4C yn dweud y bydd yn dal i gael ei darlledu drwy’r flwyddyn. Ond fe fydd y cyfnod cynhyrchu ddim yn rhedeg drwy’r flwyddyn.

Dim ond tair pennod o Pobol y Cwm yr wythnos sydd yn cael eu darlledu ers mis Tachwedd y llynedd.

Roedd S4C wedi dweud bod hyn oherwydd costau Covid.

Mae’r gyfres sebon yn cael ei chynhyrchu gan y BBC yn eu stiwdios yng Nghaerdydd.

“Does dim gwirionedd fod Pobol y Cwm yn dod i ben,” meddai S4C.

“Mae o’n parhau i fod yn rhan bwysig o amserlen S4C.”


Cymdeithas yr Iaith eisiau hyfforddi gweithwyr addysg i siarad Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith eisiau hyfforddi gweithwyr addysg i siarad Cymraeg. Maen nhw’n dweud y bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod pob un yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Mae’r mudiad yn galw am fuddsoddi £10m dros y pum mlynedd nesaf i ddatblygu’r gweithlu addysg. Byddai hyn yn cynnwys cymorthyddion dosbarth, staff ategol, penaethiaid ac athrawon.

Mae cynlluniau hefyd i gefnogi rhieni a disgyblion sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Toni Schiavone ydy cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith. Mae o’n dweud mai un o’r problemau mwyaf ydy prinder staff sy’n siarad Cymraeg.

“Mae 80% o blant Cymru yn gadael yr ysgol yn methu defnyddio’r Gymraeg o hyd,” meddai Toni Schiavone. Mae hyn er bod adroddiad wedi ei gyhoeddi bron i 10 mlynedd yn ôl oedd yn dweud y dylai ysgolion roi’r gorau i ddysgu Cymraeg ail iaith. Roedd yr adroddiad yn galw am greu un continwwm Cymraeg.

“Mae beth rydyn ni’n ei gynnig yn gallu newid hynny a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei amddifadu o’r Gymraeg.”

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gwersi Cymraeg am ddim i staff addysgol.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu hynny ond yn dweud bod angen mynd ymhellach.


Dangos ffilm am fugail o Ddyffryn Teifi mewn gŵyl ffilmiau yn Efrog Newydd

Wilf Davies
Wilf Davies ar boster y ffilm

Mae ffilm am fugail o Ddyffryn Teifi yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca yn Efrog Newydd.

Roedd erthygl wedi bod ym mhapur newydd y Guardian am y bugail Wilf Davies. Kiran Sidhu oedd wedi ysgrifennu’r erthygl yn y Guardian y llynedd. Nawr, mae stori Wilf Davies wedi cael ei throi’n ffilm ddogfen.

Mae Wilf Davies yn ei 70au ac yn rhedeg ei fferm ar ei ben ei hun. Mae’n gofalu am 71 o ddefaid. Mae wedi byw yn Nyffryn Teifi ar hyd ei oes. Dim ond unwaith mae e wedi gadael Cymru – roedd wedi mynd i weld fferm yn Lloegr tua 30 mlynedd yn ol. Dydy e erioed wedi priodi.

Mae ei stori yn cael ei hadrodd yn y ffilm Heart Valley. Mae’r ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Christian Cargill. Roedd wedi curo 7,000 o ffilmiau eraill i gael ei dangos yn yr ŵyl.

“Mae fy nghalon i yma gyda’r adar a’r coed,” meddai Wilf Davies.

Mae’n dweud mai’r gyfrinach i fywyd hapus ydy mwynhau eich gwaith.

Mae Kiran Sidhu yn dweud bod Wilf Davies wedi crio pan oedd e wedi clywed bod y ffilm yn cael ei dangos yn Efrog Newydd.

“Fe yw’r dyn bodlon hwnnw sy’n caru’r bywyd mae’n ei fyw – dim ots beth mae’r byd yn ei ddweud wrtho fe,” meddai Kiran Sidhu.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal fis nesaf.

Geirfa

Argyfwng – crisis

Arolwg – survey

Cyllideb – Budget

Isafswm cyflog – minimum wage

Cyfrifoldeb – responsibility

Gwirionedd – truth

Cyfres sebon – soap opera

Adroddiadau – reports

Darlledu – broadcast

Hyfforddi – to train

Buddsoddi – invest

Cymorthyddion dosbarth – classroom assistants

Staff ategol – support staff

Amddifadu – deprive

Ffilm ddogfen – film documentary

Erthygl – article

Bugail – Shepherd

Cyfarwyddo – to direct

Bodlon – content