Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo newydd…

  • Mae Boris Johnson a Rishi Sunak wedi cael dirwyon am gael partïon yn Downing Street. Mae Liz Saville Roberts o Blaid Cymru wedi dweud y dylen nhw ymddiswyddo.
  • Mae chwyddiant wedi codi i 7% – dyma’r uchaf mae wedi bod ers 1992.
  • Mae Menter Iaith Môn wedi cael arian i hybu’r Gymraeg yn y gymuned.
  • Mae gŵyl yn cael ei chynnal er mwyn pontio Cymru a Llydaw.
  • Mae telynores o Gymru wedi cynnig llety i delynores o Wcráin.

 

Boris Johnson a Rishi Sunak yn cael dirwyon ar ôl partïon yn Downing Street

Mae Boris Johnson a Rishi Sunak wedi cael dirwyon ar ôl partïon yn Downing Street a Whitehall.

Roedd yr heddlu wedi cynnal ymchwiliad i’r partïon ym mis Mehefin 2020.  Roedd y partïon yn torri cyfyngiadau Covid-19.

Mae Liz Saville Roberts o Blaid Cymru wedi dweud y dylai’r Prif Weinidog a’r Canghellor ymddiswyddo.

Mae Heddlu Llundain wedi dweud y bydd 30 o ddirwyon arall yn cael eu rhoi. Mae hyn ar ben y 20 gafodd eu rhoi fis diwethaf.

Mae Boris Johnson a Rishi Sunak wedi talu’r dirwyon ac wedi ymddiheuro.

Ond mae llawer o wleidyddion wedi galw arnyn nhw i ymddiswyddo.

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi codi cwestiynau am “onestrwydd y prif weinidog”.  Mae Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi galw ar Boris Johnson a Rishi Sunak i ymddiswyddo.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, hefyd yn dweud dylai Boris Johnson adael ei swydd.

Ond mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cefnogi Boris Johnson. Mae e’n dweud na ddylai Boris Johnson orfod ymddiswyddo os yw’n cael mwy o ddirwyon.

 

Cyfradd chwyddiant yn codi i 7% – yr uchaf ers 1992

Mae cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig wedi codi i 7%. Mae’r ffigwr yma ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth.  Dyma beth mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos.

Dyma’r uchaf mae wedi bod ers 1992. Roedd chwyddiant yn 6.2% ym mis Chwefror.

Mae hyn am fod prisiau’n codi’n gyflymach na chyflogau. Mae wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd gyda chostau byw.

Mae disgwyl i gostau byw godi eto yn y misoedd nesaf.

Mae pris tanwydd wedi cael effaith fawr ar y gyfradd chwyddiant. Roedd prisiau petrol wedi codi 12.6c y litr rhwng mis Chwefror a mis Mawrth. Mae prisiau disel wedi codi 18.8c y litr eleni.

Roedd disgwyl i’r gyfradd chwyddiant godi i 6.7%. Mae’r ffigwr o 7% yn uwch na’r disgwyl.

 

Menter Iaith Môn wedi cael arian i hybu’r Gymraeg yn y gymuned

Iorwerth Arms ym Mryngwran, un o’r sefydliadau fydd yn derbyn yr arian newydd

Mae Menter Iaith Môn wedi cael arian i hybu’r Gymraeg yn y gymuned.

Mae’r Fenter wedi cael dros £250,000 o’r Gronfa Adfywio Gymunedol.

Fe fydd tua £140,000 o’r arian yn cael ei roi i 40 grŵp cymunedol a gwirfoddol yn Ynys Mon.

Un o’r grwpiau fydd yn cael arian yw Cylch Meithrin Rhoscolyn. Mae’r plant yn y Cylch Meithrin i gyd yn dod o gartrefi ble mai’r Saesneg yw’r brif iaith.

Mair Williams ydy trysorydd Cylch Meithrin Rhoscolyn. Mae hi’n dweud bod yr arian yn golygu y bydden nhw’n gallu cynnwys rhieni mewn gweithgareddau.

Mae hi eisiau denu mwy o deuluoedd di-Gymraeg i gymryd rhan. Mae Mair Williams yn dweud y bydd yn “cryfhau’r Gymraeg yn yr ardal.”

Mae Tafarn yr Iorwerth Arms, Bryngwran hefyd wedi cael arian. Mae’r Iorwerth Arms yn dafarn gymunedol.

Mae’r tafarn eisiau defnyddio’r arian i gynnal digwyddiadau a chyngherddau byw Cymraeg yn yr haf.

Bydd arian o’r gronfa’n cael ei ddefnyddio i greu adnoddau ar gyfer teuluoedd a phobol ifanc. Bydd hefyd yn rhoi help i fusnesau’r ynys i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg.

Elen Hughes ydy Prif Swyddog Menter Iaith Môn. Mae hi’n dweud bod yr iaith ar yr ynys yn wynebu “heriau”. Mae hi’n dweud bydd yr arian yn helpu i hybu’r iaith yn Ynys Môn.

 

Gŵyl yn pontio Cymru a Llydaw

Baner Llydaw

Bydd gŵyl yn cael ei chynnal ar Ebrill 23 er mwyn pontio Cymru a Llydaw.

Bydd pobl ifanc o Lydaw a Chymru yn gallu rhannu gwybodaeth a dysgu mwy am ei gilydd. Dyna beth mae’r trefnwyr yn dweud.

Byddan nhw’n trafod pethau fel ymgyrchu iaith, podlediadau, y byd ffilm a cherddoriaeth.

Enw’r ŵyl ydy Gŵyl/Gouel Chwoant.

Mae’r trefnwyr yn dweud bod Llydaw a Chymru yn debyg i’w gilydd.

“Mae’n bryd i bobol ifanc yr ieithoedd hyn ddod at ei gilydd i gael rhannu a dysgu gan ei gilydd,” meddai Felix Parker-Price, un o’r trefnwyr.

Marine Lavigne yn canu gyda’r grŵp Llydaweg Ahez. Fe fydd y grŵp yn cynrychioli Ffrainc yng nghystadleuaeth Eurovision eleni.

Mae Marine Lavigne yn dweud ei bod yn edrych ymlaen at ddod i Gymru i gymryd rhan yng Ngŵyl Chwoant.

“Rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr cael perfformio fest-noz yn fyw hefyd,” meddai.

Mae croeso i bawb i’r sgyrsiau, y gweithdai a’r gig ar ddiwedd y dydd.

Bydd Gŵyl Chwoant yn cael ei chynnal yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd. Bydd yn dechrau am 10yb ac yn gorffen am 7yh.

 

Telynores yn cynnig llety i delynores o Wcráin

Elinor Bennett
Elinor Bennett

Mae’r delynores Elinor Bennett wedi cynnig llety i delynores o Wcráin a’i theulu. Mae Veronica Lemishenko wedi gorfod gadael ei chartref yn ninas Kharkiv oherwydd y rhyfel gyda Rwsia.

Elinor Bennett ydy Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Delynau Cymru. Mae hi’n dweud ei bod wedi cynnig llety i Veronica Lemishenko a’i theulu.

“Mae ganddon ni le. Mae’r cynnig iddyn nhw ddod i’n tŷ ni os bydd angen. Dw i eisio helpu. Dw i’n teimlo mor ofnadwy bod angen help. Fedra i ddim helpu, mae dyn yn teimlo drostyn nhw.

“Roedd hi’n ddiolchgar iawn ei fod o ar gael,” meddai Elinor Bennett.

Elinor Bennett ydy gwraig Dafydd Wigley, cyn-lywydd Plaid Cymru. Mae hi’n byw wrth ymyl Caernarfon.

Roedd Veronica Lemishenko wedi gadael Rwsia pan ddechreuodd y rhyfel. Roedd hi’n gweithio gyda cherddorfa yno. Mae hi wedi mynd o wlad i wlad ers hynny. Ar hyn o bryd, mae hi’n aros ym Mharis.

Mae Veronica Lemishenko wedi bod yn cynnal cyngherddau a dosbarthiadau i godi arian i helpu pobl yn Wcráin. Mae hi hefyd yn trefnu gŵyl delynau, Gŵyl Glowing Harp, yn Kharkiv.

Mae Elinor Bennett yn dweud bod cerddoriaeth “yn helpu i ddod â phobol at ei gilydd”.

Geirfa

Dirwyon – fines

Ymddiswyddo – resign

Ymddiheuro – apologise

Cyfradd chwyddiant – inflation rate

Cyflogau – wages

Pwysau – pressure

Tanwydd – fuel

Swyddfa Ystadegau Gwladol – Office for National Statistics

Cronfa Adfywio Gymunedol – Community Renewal Fund

Trysorydd – treasurer

Gweithgareddau – activities

Adnoddau – resources

Heriau – challenges

Llydaw – Britanny

Cynrychioli – represent

Telynores – harpist

Cerddorfa – orchestra