Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

Mae pryder unwaith eto am dai gwyliau yn Sir Benfro.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau preifateiddio Channel 4.

Mae pedair Menter Iaith wedi cael grant i hybu’r Gymraeg yn ne Cymru.

Mae Côrdydd wedi ennill cystadleuaeth Côr Cymru

Mae’r actores June Brown, oedd yn chwarae Dot Cotton yn EastEnders, wedi marw yn 95 oed.

 

Pryder am dai gwyliau yn Sir Benfro

Mae llawer o bryder wedi bod am dai gwyliau mewn rhannau o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf. Yr wythnos hon, roedd Dr Alex George wedi dweud ei fod e wedi prynu pedwar bwthyn yn Sir Benfro. Roedd e wedi cystadlu yn y gyfres Love Island. Mae e’n dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol.

Mae Dr Alex George wedi dweud ei fod e am adnewyddu’r bythynnod. Mae e am eu rhentu fel tai gwyliau. Mae e hefyd am roi un fel cartref i ffoaduriaid o Wcráin.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni bod y bythynnod am gael eu defnyddio fel tai gwyliau. Mae Jeff Smith o  Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod e’n beth da bod un bwthyn am gael ei ddefnyddio ar gyfer ffoaduriaid. Ond mae’n poeni bod y tri bwthyn arall ddim yn cael eu defnyddio fel cartrefi i bobl leol.

Mae Dr Alex George yn dweud bod y bythynnod ddim yn “addas” ar gyfer cartrefi i fyw ynddyn nhw.

Mae e’n dweud bod pobl wedi ei fygwth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n dweud y bydd yn rhentu un o’r bythynnod i bobl leol pan fydd y ffoaduriaid yn penderfynu gadael. Mae e hefyd yn dweud y bydd e’n cyflogi pobl leol i helpu gyda’r gwaith adeiladu a glanhau. Bydd e hefyd yn cefnogi tafarndai a bwytai lleol, “sy’n beth da”, meddai.

Mae Jeff Smith yn dweud ei fod e’n poeni bod rhywun yn gallu prynu pedwar tŷ gwyliau yn un o’r siroedd lle mae prisiau wedi codi fwyaf.

Roedd rali Nid yw Cymru ar Werth wedi cael ei chynnal yn Sir Benfro llynedd. Roedd y rali yn tynnu sylw at faint o broblem ydy tai gwyliau yn y sir.

 

Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau preifateiddio Channel 4

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau preifateiddio Channel 4.

Mae’r sianel yn darlledu rhaglenni fel Gogglebox, Countdown a’r ddrama It’s A Sin.

Nadine Dorries ydy Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan. Mae hi’n  dweud bod Channel 4 yn cael ei “dal yn ôl” am ei bod yn berchen i’r llywodraeth.  Ond mae llawer o bobl yn erbyn preifateiddio Channel 4. Maen nhw’n dweud y bydd rhaglenni’r sianel yn dioddef os ydy’n cael ei gwerthu.

Mae cynhyrchwyr teledu Cymru wedi dweud eu bod nhw’n siomedig am hyn. TAC ydy’r corff ar gyfer y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Mae’r cadeirydd Dyfrig Davies yn dweud y bydd preifateiddio Channel 4 yn gwneud y sianel yn “fwy masnachol ac yn bygwth ei safle unigryw yn y cyfryngau.”

Cafodd Channel 4 ei lansio yn 1982. Mae’n berchen i’r llywodraeth. Ond dyw’r sianel ddim yn cael arian cyhoeddus, fel y BBC. Mae’n cael arian drwy hysbysebu. Dydy Channel 4 ddim yn gwneud rhaglenni ei hun. Maen nhw i gyd yn cael eu gwneud gan gwmnïau cynhyrchu annibynnol.

Mae’r llywodraeth yn dweud bod llai o arian yn cael ei wario ar hysbysebu a bod y ffordd mae pobl yn gwylio rhaglenni teledu yn newid. Maen nhw’n dweud bod Channel 4 yn cael ei dal yn ôl rhag cystadlu gyda gwasanaethau teledu eraill. Mae’r llywodraeth eisiau gwerthu Channel 4 i gwmni preifat. Bydd Aelodau Seneddol yn trafod y cynlluniau i breifateiddio Channel 4 yn y Senedd.

 

Pedair Menter Iaith yn cael grant i hybu’r Gymraeg yn ne Cymru

Jessica, Rhiannon, Rachel
Jessica, Rhiannon a Rachel o Fenter Caerdydd

Mae pedair Menter Iaith wedi cael grant i hybu’r Gymraeg yn ne Cymru. Mae’r grant wedi dod gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Menter Caerdydd, Menter Iaith Bro Morgannwg, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf a Menter Cwm Gwendraeth Elli sydd wedi cael y grant.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llawer o weithgareddau dros y misoedd nesaf. Byddan nhw’n cynnwys cyngherddau cymunedol, dosbarthiadau ffitrwydd, gweithdai ar-lein a dwy ŵyl Gymraeg gymunedol.

Bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal gyda mudiadau ac elusennau fel Re-engage Cymru, Coed Lleol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Heulyn Rees ydy Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Menter Iaith Bro Morgannwg. Mae hi’n dweud bod y grant yn rhoi cyfle i oedolion gymdeithasu, dysgu a datblygu sgiliau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Côrdydd yn ennill cystadleuaeth Côr Cymru

Roedd Côrdydd wedi ennill cystadleuaeth Côr Cymru 2022.

Cafodd rownd derfynol y gystadleuaeth ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar Ebrill 3.

Mae’r côr o Gaerdydd yn cael ei arwain gan Huw Foulkes. Roedd wedi curo pedwar côr arall i ennill tlws Côr Cymru a gwobr o £4,000.

Y pedwar côr arall yn y rownd derfynol oedd CF1, Côr Ieuenctid Môn, Johns’ Boys a Chôr Heol y March.

Roedd perfformiad arbennig gan ferch fach saith oed o Wcráin hefyd. Roedd fideo o Amelia Anisovych yn canu ‘Let It Go’ o’r ffilm Frozen mewn lloches yn Kyiv wedi cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd hi wedi teithio i Aberystwyth i ganu yng nghystadleuaeth Côr Cymru.

Dyma’r degfed tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal. Roedd wedi cael ei sefydlu yn 2003.

 

Yr actores June Brown – Dot Cotton yn EastEnders – wedi marw’n 95 oed

Dot Cotton
June Brown fel Dot Cotton yn Eastenders

Mae’r actores June Brown wedi marw yn 95 oed. Roedd hi’n enwog am chwarae’r cymeriad Dot Cotton yn EastEnders. Roedd hi wedi chwarae’r cymeriad yn y gyfres sebon ar BBC 1 am 35 mlynedd.

Roedd June Brown wedi actio yn y gyfres rhwng 1985 ac 1993, ac yna rhwng 1997 a 2020. Roedd hi wedi ymddangos mewn 2,884 o benodau. Roedd hi bron bob amser yn cael ei gweld gyda sigarét yn ei llaw.

Cafodd June Brown ei geni yn Suffolk. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth hi’n efaciwî i bentref Pont-iets, Sir Gaerfyrddin. Roedd hi wedi cael hyfforddiant actio yn Ysgol Theatr yr Old Vic yn Llundain.

Cafodd June Brown ei hurddo yn MBE ac yn OBE gan y Frenhines.