Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…
- Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi Datganiad y Gwanwyn.
- Pobol ddim yn gorfod gwisgo masgiau mewn siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus
- Mae Cymru gam yn nes at Gwpan y Byd ar ôl curo Awstria
- Mae S4C a DEC Cymru yn cynnal cyngerdd i godi arian ar gyfer Wcráin
- Huw Stephens ac Aleighcia Scott yw cyflwynwyr newydd yr Evening Show
Rishi Sunak yn cyhoeddi Datganiad y Gwanwyn
Mae’r Canghellor, Rishi Sunak, wedi cyhoeddi Datganiad y Gwanwyn.
Roedd Rishi Sunak wedi rhybuddio y gallai’r rhyfel yn Wcráin effeithio economi’r Deyrnas Unedig.
Mae’n dweud bod prisiau nwyddau ac ynni yn uchel yn barod ar ôl y pandemig Covid-19. Ond mae’n bosib fydd chwyddiant yn codi i 7.4% erbyn diwedd y flwyddyn.
Er mwyn helpu pobol gyda chostau byw mae’r Canghellor wedi torri 5c o’r dreth ar danwydd. Roedd y toriad yn dechrau ar 23 Mawrth a bydd yn para tan fis Mawrth 2023.
Bydd Treth Ar Werth (TAW) yn gostwng o 5% i 0% ar bethau fel paneli solar, pympiau gwres ac insiwleiddio. Mae hyn er mwyn helpu perchnogion tai i roi mwy o bethau i arbed ynni yn eu cartrefi.
Hefyd bydd pobol yn gallu ennill £12,570 y flwyddyn heb dalu treth incwm neu Yswiriant Gwladol.
Bydd cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn cael ei thorri o 20 i 19c yn y bunt cyn 2024. Dyma’r tro cyntaf fydd hynny wedi digwydd ers 16 mlynedd.
Ond mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod y toriadau yma mewn treth ddim yn ddigon.
Pobol ddim yn gorfod gwisgo masgiau mewn siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus
Fydd pobol ddim yn gorfod gwisgo masgiau mewn siopau nac ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddydd Llun (Mawrth 28) ymlaen.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod Cymru am gario ymlaen i lacio’r mesurau Covid-19 sydd yn dal mewn grym.
Ond bydd pobol yn gorfod gwisgo masgiau mewn llefydd iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd busnesau yn gorfod gwneud asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws hefyd.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud ar ddechrau’r wythnos efallai na fyddai’n bosib llacio’r rheolau. Roedd hyn am fod achosion o Covid-19 wedi codi’n sydyn.
Dywedodd Mark Drakeford bod rhaid cadw rhai mesurau am ychydig hirach, “er mwyn helpu i ddiogelu Cymru.”
Cymru gic yn nes at Gwpan y Byd
Mae tîm pêl droed Cymru un gêm i ffwrdd o gael lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn hwyrach eleni.
Roedd Gareth Bale wedi sgorio dwy gôl, wrth i dîm Rob Page guro Awstria o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau (24 Mawrth).
Mae Cymru’n gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Maen nhw nawr yn wynebu gêm derfynol yn erbyn yr Alban neu Wcráin. Mae’n debyg fydd y gêm rhwng y ddwy wlad honno’n cael ei chynnal ym mis Mehefin.
Roedd pryderon am ffitrwydd Bale cyn y gêm. Roedd e wedi gadael y cae yn dal ei goes.
Erbyn hyn, mae e wedi sgorio 38 o goliau mewn 101 o gemau dros ei wlad.
Roedd Dafydd Iwan wedi perfformio cyn y gic gyntaf. Yn ei eiriau ef, mae Cymru “yma o hyd” – ac un gêm i ffwrdd o Gwpan y Byd.
S4C a DEC Cymru yn cynnal cyngerdd i godi arian ar gyfer Wcráin
Bydd S4C yn cynnal cyngerdd arbennig i godi arian ar gyfer Wcráin.
Bydd y noson yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Sadwrn, Ebrill 2.
Mae S4C yn dweud y bydd yn matshio yr arian sy’n cael ei godi drwy werthu’r tocynnau, bunt am bunt.
Bydd yr arian i gyd yn mynd at gronfa apêl DEC. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu pobol sy’n dianc y rhyfel yn Wcráin.
Elin Fflur fydd yn cyflwyno’r noson. Bydd perfformiad gan Yuriy Yurchuk, y bariton o Wcráin.
Bydd perfformiadau hefyd gan Gwyn Hughes Jones, y tenor o Fôn, y tenor Dafydd Wyn Jones o Ddyffryn Clwyd, Côr Glanaethwy, Côr Ysgol Gynradd Plascrug Aberystwyth, Côr y Cwm o’r Rhondda, a Comtemporary Music Collective.
Bydd gwylwyr gartref hefyd yn gallu rhoi arian ar y noson drwy linell ffôn DEC.
Dych chi’n gallu prynu tocynnau ar gyfer y noson drwy wefan Canolfan y Celfyddydau. Bydd y cyngerdd ar S4C ac S4C Clic am 8yh, nos Sadwrn, Ebrill 2.
Huw Stephens ac Aleighcia Scott yw cyflwynwyr newydd yr Evening Show
Bydd Huw Stephens ac Aleighcia Scott yn dechrau cyflwyno rhaglen yr Evening Show ar BBC Radio Wales.
Fe fyddan nhw’n rhannu’r cyflwyno gyda’i gilydd. Bydd y DJ Huw Stephens yn cyflwyno o nos Lun i nos Fercher. Bydd Aleighcia Scott yn cymryd drosodd ar nos Iau.
Mae Aleighcia Scott yn dod o Gaerdydd. Mae hi’n gantores reggae sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi’n dweud ei bod hi “wrth ei bodd” yn cael cyflwyno’r sioe ar BBC Radio Wales. Mae Huw Stephens yn dweud ei fod yn caru Cymru ac yn caru’r radio. Mae e’n edrych ymlaen at chwarae cerddoriaeth Gymreig newydd a siarad gyda phobl o’r byd cerddorol.
“Mae’n mynd i fod yn hwyl!” meddai Huw.
Bydd Huw Stephens ac Aleighcia Scott ar yr Evening Show o Ebrill 4.
Geirfa
Datganiad y Gwanwyn – Spring Statement
Treth – tax
Treth ar danwydd – fuel tax
Chwyddiant – inflation
Yswiriant Gwladol – National Insurance
Cyfradd sylfaenol – base rate
Pryderon – concerns
Trafnidiaeth gyhoeddus – public transport
Mewn grym – in force
Cyngerdd – concert