Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…
- Mae Eluned Morgan wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis
- Mae Iolo Williams am fod yn arwain teithiau cerdded i ddod â dysgwyr Cymraeg at ei gilydd
- Mae cynlluniau ar gyfer arena newydd i Fae Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo
- Mae Netflix yn mynd i is-deitlo neu drosleisio ffilmiau a chyfresi yn y Gatalaneg, y Fasgeg a’r Galiseg
Eluned Morgan wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis
Eluned Morgan ydy Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru. Mae hi wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis.
Roedd hi wedi gyrru dros 30m.y.a. (milltir yr awr) ar ffordd yr A525 yn Wrecsam ym mis Mehefin y llynedd.
Roedd Eluned Morgan wedi mynd dros y pwyntiau dych chi’n gallu cael ar eich trwydded.
Mae Eluned Morgan hefyd yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi.
Mae hi wedi ymddiheuro.
“Rwyf wedi pledio’n euog i gyhuddiad o oryrru ac rwy’n derbyn cosb y llys yn llawn,” meddai Eluned Morgan, AoS.
“Nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf yn falch ohono ac ymddiheuraf yn ddiamod.”
Teithiau cerdded i ddod â dysgwyr Cymraeg at ei gilydd
Mae teithiau cerdded arbennig i ddysgwyr yn cael eu cynnal yn nes ymlaen eleni.
Y naturiaethwr Iolo Williams fydd yn arwain y teithiau cerdded. Mae o’n dweud y bydd y teithiau cerdded yn “hybu’r iaith a hybu byd natur”.
Mae’r teithiau wedi cael eu trefnu gan fudiad Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Y syniad ydy dod â dysgwyr a siaradwyr sy’n rhugl yn yr iaith at ei gilydd i fwynhau byd natur.
Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, bydd pedair taith mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Maen nhw’n cynnwys Parc Margam ger Port Talbot, ardal Dinbych, Cwm Idwal yn Eryri, ac ardal Libanus ym Mannau Brycheiniog.
Mae’r teithiau yn rhan o her Mentrau Iaith Cymru – #MiliwnOGamau. Mae’n galw ar bobol ar draws Cymru i ddod at ei gilydd a cherdded miliwn o gamau rhyngddyn nhw rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf.
Fe fydd llawer o deithiau cerdded lleol yn cael eu cynnal hefyd i roi cyfle i bobol gymdeithasu yn y Gymraeg.
“Maen nhw’n syml iawn,” meddai Iolo Williams.
“Mi fydda’i yn mynd â grŵp o ugain dysgwr a siaradwr Cymraeg am dro i weld beth welwn ni.
“Beth sy’n braf ydi bod pawb yn mynd i weld rhywbeth, dim bwys beth ydi’r tywydd.
“A beth ydw i wedi darganfod ydi, pan mae rhywun yn cerdded efo dysgwyr, maen nhw’n ymlacio dipyn mwy nag os ydi o’n sefyllfa ffurfiol mewn dosbarth ac ati.
“Hybu’r iaith a hybu byd natur ydi pwysigrwydd yr holl beth.”
Mae’r teithiau cerdded a’r ymgyrch #MiliwnOGamau yn rhan o’r ymgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2050.
Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer arena newydd i Fae Caerdydd
Mae cynlluniau i adeiladu arena newydd ym Mae Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo.
Bydd yr arena yn gallu croesawu hyd at 17,000 o bobol i ddigwyddiadau.
Roedd rhai cynghorwyr wedi beirniadu’r cynlluniau. Doedden nhw ddim yn hoffi’r ffordd mae’r arena yn mynd i edrych. Hefyd, roedden nhw’n dweud bod dim digon o lefydd i gadw beics.
Cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan y pwyllgor cynllunio. Mae’n golygu y bydd pencadlys y Cyngor yn Neuadd y Ddinas yn cael ei ddymchwel i wneud lle i’r arena newydd.
Bydd yr arena yn agor ar ddechrau 2025.
Netflix am is-deitlo neu drosleisio ffilmiau a chyfresi yn y Gatalaneg, y Fasgeg a’r Galiseg
Mae Netflix yn mynd i is-deitlo neu drosleisio 70 o ffilmiau neu gyfresi i’r Gatalaneg, y Fasgeg a’r Galiseg bob blwyddyn.
Bydd yr opsiwn ar gael ar gyfer rhai o ffilmiau neu gyfresi newydd Netflix fel Hustle (Adam Sandler), Emily in Paris, Pinocchio gan Guillermo del Toro, The Mother, Sandman a Garra.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys 200 awr o ddeunydd ychwanegol i’w catalog rhyngwladol yn y Gatalaneg. Bydd hefyd yn ychwanegu 20 awr o gynnwys i blant.
Bydd mwy o fideos a rhaglenni teledu’n cael eu hychwanegu dros amser fel bod y 70 darn ar gyfer y flwyddyn yn eu lle erbyn diwedd 2022.
Yn ôl y wefan Catalan News, mae’r gweinidog diwylliant Natàlia Garriga yn dweud bod cyhoeddiad Netflix yn “newyddion da iawn” ond yn “gam cyntaf yn unig”.
Maen nhw eisiau i Netflix gael mwy o gatalog yn yr iaith Gatalaneg.
Geirfa
Trwydded – licence
Gwahardd – ban
Goryrru – speeding
Pledio’n euog – plead guilty
Hybu – promote
Naturiaethwr – naturalist
Ffurfiol – formal
Cymeradwyo – to approve
Pwyllgor cynllunio – planning committee
Dymchwel – demolish
Trosleisio – voice-over
Diwylliant – culture