• Y rhyfel yn yr Wcráin sydd wedi cael y prif sylw wythnos yma. Mae Rwsia wedi ymosod ar nifer o ddinasoedd yn yr Wcrain. Mae miloedd o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi er mwyn osgoi’r rhyfel.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydden nhw’n croesawu ffoaduriaid sy’n dod yma.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £4 miliwn mewn cymorth i’r Wcrain.
  • Mae elusennau yng Nghymru wedi lansio apêl i godi arian i helpu pobl yn yr Wcráin.
  • Mae awdurdodau lleol am gael mwy o bwerau i godi premiwm treth gyngor ar ail gartrefi i 300%.
  • Mae Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022 wedi cael ei lansio

Awdurdodau lleol yn dangos eu cefnogaeth i bobl yr Wcráin

Mae’r rhyfel yn yr Wcrain wedi cael y prif sylw wythnos yma.

Mae Rwsia wedi ymosod ar nifer o ddinasoedd yn yr Wcrain.

Plant yn ffoi o’r Wcráin. Przemyśl, Gwlad Pŵyl.

Mae miloedd o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi. Maen nhw wedi ffoi i wledydd cyfagos eraill, fel Gwlad Pwyl, Rwmania, Slofacia, Hwngari a Moldofa.

Yma yng Nghymru mae awdurdodau lleol wedi dangos eu cefnogaeth i bobl yr Wcráin.

Mae’n debyg bod pob un o gynghorau sir Cymru wedi cytuno i roi lloches i ffoaduriaid os ydyn nhw’n cyrraedd y wlad.

Erbyn hyn mae mwy na miliwn o bobol wedi ffoi o’r Wcráin er mwyn osgoi’r rhyfel.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynnig helpu unrhyw ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma.

“Mae pawb ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wedi dychryn wrth weld y dinistr sy’n cael ei achosi yn yr Wcráin,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan. Mae e’n arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydden nhw’n cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig os oes cynllun ffoaduriaid swyddogol yn cael ei wneud.

“Rydym yn pryderu’n fawr am y sefyllfa yn yr Wcráin,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Byddwn yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod pobol yr Wcráin a’u teuluoedd yn gallu cyrraedd lle diogel a chael croeso yma.”


Elusennau yn lansio apêl i godi arian i helpu’r Wcráin

Mae elusennau yng Nghymru wedi lansio apêl i godi arian i helpu pobl yn yr Wcráin.

Mae 15 elusen yn rhan o’r apêl. Mae’n cynnwys elusennau fel Achub y Plant, Y Groes Goch Brydeinig, Cymorth Cristnogol ac Oxfam Cymru.

Lansiad Apêl Ddyngarol Wcráin

Mae dros filiwn o bobol wedi ffoi o’r Wcráin dros yr wythnos ddiwethaf.

Prif ffocws yr apêl ydy cefnogi pobol a theuluoedd sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Mi fyddan nhw’n rhoi arian, bwyd, dillad cynnes a chysgod iddyn nhw.

Mi fyddan nhw hefyd yn rhoi meddyginiaethau ac offer meddygol. Mae’r elusennau hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael dŵr glan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n rhoi £4 miliwn mewn cymorth i’r Wcrain.

Os dych chi eisiau rhoi arian i’r apêl ewch i’r wefan, neu ffonio 0370 6060 900.

Dych chi hefyd yn gallu anfon y neges destun ‘HELPU’ at 70150, sy’n rhoi £10 yn awtomatig.


Rheolau treth newydd ar gyfer ail gartrefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i drio helpu gyda’r problemau tai mewn cymunedau.

Rali Nid Yw Cymru Ar Werth
Rali Nid Yw Cymru Ar Werth

Bydd y cynlluniau yn rhoi pwerau i gynghorau sir i godi premiwm treth cyngor i 300%. Mi fyddan nhw hefyd yn gallu newid y system dreth ar gyfer lletyau gwyliau.

Mae ail gartrefi a tai sydd ddim yn fforddiadwy wedi achosi problemau mawr mewn llawer o lefydd yng Nghymru.

Roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwyddo cytundeb gyda Phlaid Cymru – Cytundeb Cydweithio – i drio datrys y problemau yma.

O fis Ebrill 2023, bydd cynghorau sir yn gallu codi eu premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag i 300%. Mae hyn yn llawer uwch na’r uchafswm o 100% ar hyn o bryd.

‘Dechrau taclo’r broblem’

Siân Gwenllian ydy Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon. Mae hi’n dweud mai’r syniad ydy bod cynghorau yn gallu defnyddio’r arian i greu cartrefi i bobol yn eu cymunedau.

“Mae hwn yn un ffordd o ddechrau taclo’r broblem yma,” meddai Siân Gwenllian.

Gwynedd sydd a’r nifer uchaf o ail gartrefi yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Gwynedd wedi codi eu premiwm nhw ar dreth y cyngor i’r uchafswm o 100%.

Bydd newidiadau hefyd i’r ffordd mae lletyau gwyliau yn cael eu diffinio.

Mae Siân Gwenllian yn dweud bod y newidiadau yn “gam pwysig.”


Lansio Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022 wedi cael ei lansio. Cafodd ei lansio mewn digwyddiad rhithiol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd yn rhugl yn yr iaith yn gallu cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Maen nhw hefyd yn gallu cael eu henwebu gan rywun arall.

Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan neu gynnig enwebiad ydy 1 Mai. Bydd y rownd derfynol ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst. Bydd seremoni ar lwyfan y pafiliwn ar 3 Awst.

Y beirniaid ar gyfer y rownd derfynol ydy Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, cyflwynydd Radio Cymru Geraint Lloyd, a’r Prifardd Cyril Jones.

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cyn-enillwyr Dysgwr y Flwyddyn yn dod o bob rhan o Gymru a Lloegr. Mae rhai o’r cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dod o bob rhan o’r byd.

‘Newid bywyd’

Yr enillydd yn yr Eisteddfod AmGen y llynedd oedd David Thomas. Mae e’n dod o Dalog yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n rhedeg cwmni Jin Talog gyda’i ŵr, Anthony.

Mae e’n dweud bod ennill y gystadleuaeth wedi newid ei fywyd. Mae David wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau ac wedi gwneud ffrindiau newydd, meddai.

Mae e’n annog dysgwyr eraill i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.