Fel arfer, mi fyswn i’n disgrifio fy hun fel person eithaf trefnus. Ond mae’n stori wahanol pan mae’n dod at anrhegion Nadolig. A dydy blwyddyn yma ddim yn eithriad chwaith.

Dw i’n teimlo bod y Nadolig wedi dal i fyny efo fi eleni, a dw i heb gael y cyfle i ddechrau siopa. Ond mae genna’i syniadau o beth i’w cael i fy nheulu a ffrindiau – llyfrau wrth gwrs!

Efo hynny mewn golwg, dw i wedi dod a rhestr at ei gilydd o lyfrau sy’n gwneud yr anrhegion Nadolig perffaith – wel, yn fy marn i beth bynnag. Mae’n ffordd dda o gefnogi siopau lleol hefyd, sydd wastad yn beth gwych.

Felly, dyma fy argymhellion:

Hunangofiant: Sgen I’m Syniad gan Gwenllian Ellis yw fy newis i ar gyfer darllenwyr sy’n mwynhau hunangofiant. Mae’n llyfr gonest, deniadol ac un sy’n llawn cariad a chyfeillgarwch.

Llyfrau Hanesyddol a Hyfryd: Oce, mae’n rhaid i mi gyfaddef, dw i heb ddarllen y llyfr nesaf ond yn bendant am drio ei ddarllen cyn gynted a phosib. Mae sawl aelod o fy ngrŵp ‘Ffrindiau Darllen’ wedi sôn amdano ac wedi ei argymell, felly dw i wedi ei chynnwys ar eu rhan nhw: Capten gan Meinir Pierce Jones. (Mae hefyd ar restr Nadolig fi – gobeithio bod Siôn Corn yn darllen Lingo360!).

Dw i hefyd yn argymell The Marriage Portrait gan Maggie O’Farrell i ddarllenwyr sy’n licio llyfrau hanesyddol. Wedi’i leoli yn Fflorens, mae’r nofel yn dilyn hanes Lucrezia de’ Medici. Dw i wrth fy modd efo llyfrau Maggie O’Farrell ac fel Eidales fy hun, roeddwn i mor gyffrous pan glywais ei bod hi wedi sgwennu llyfr sydd wedi’i leoli yn yr Eidal. Mae’n llyfr pwerus a theimladwy, ac yn dangos crefft yr awdures i ddarlunio lleisiau hanesyddol mewn ffordd oesol. Hefyd, mae’r clawr yn brydferth.

Chwerthin a Chrio: Prawf Mot: Llyfr arall sydd efo clawr hyfryd yw Prawf MOT gan Bethan Gwanas. Mae’n llyfr sy’n cael ei adrodd gan Lea a’i chi annwyl Mot. Ges i’r cyfle i gyfarfod Bethan mewn digwyddiad yn Llyfrgell yr Wyddgrug yn gynharach eleni lle wnaeth hi, yn garedig iawn, arwyddo copi o Prawf Mot i mi. Wnaeth hi sgwennu “I Francesca, dw i wir yn gobeithio y byddi di’n crio, sori!” Wel, alla’i ddweud fy mod i wedi chwerthin a chrio wrth ddarllen. Mae llais Mot yn un cofiadwy, doniol, direidus, ac ar ben pob dim, annwyl iawn.

Straeon Sbwci: I bobl sy’n licio llyfrau brawychus, dw i’n argymell Pumed Gainc y Mabinogi gan Peredur Glyn. Mae hefyd yn llyfr perffaith i ddarllen ar noson o aeaf – ond dim ond os dach chi’n ddigon dewr!

Darllenwyr Ifanc: I bobl ifanc, mi fyswn i’n argymell Curiad Gwag gan Rebecca Roberts – yn enwedig os maen nhw’n licio cerddoriaeth roc. Ac yn olaf: Cymry o Fri gan Jon Gower. Casgliad o straeon a gwybodaeth am bobl Cymraeg o wahanol gyfnodau mewn hanes. Mae’n llyfr sy’n addas i bawb o bob oedran mewn gwirionedd; dw i wir wedi ei mwynhau, ac wedi dysgu llawer hefyd.

Ac ar fy rhestr i? Wel, dw i wedi sôn am un llyfr yn barod, ond y llyfrau sydd am gadw cwmni i fi dros y Nadolig yw Cwlwm gan Ffion Enilli, a Pridd gan Llŷr Titus. Y ddau lyfr sydd nesaf ar fy rhestr darllen a dw i’n edrych ymlaen at eistedd lawr i’w ddarllen dros y Nadolig efo sleisan o panettone a gwydr bach o Prosecco!