Does ’na ddim byd gwell i ddarllenwr na ffeindio’r llyfr perffaith i ddod a chi allan o gyfnod lle does dim yn plesio. Dros yr wythnosau diwethaf, dw i wedi agor sawl llyfr efo’r bwriad o’i ddarllen ond, am ryw reswm, dim un ohonyn nhw wedi cydio fy niddordeb.
Mae yna rywbeth am lyfrau ffuglen sy’n apelio ata’i lawer mwy na llyfrau ffeithiol, ar y cyfan. Yr unig lyfrau ffeithiol dw i wastad yn darllen ac yn eu mwynhau yw llyfrau gan fy hoff gantores ac artist, Patti Smith, fel Just Kids, M Train ac Year of the Monkey. Hunangofiant yw’r rheini, ac yn eithriad.
Felly, anaml iawn dw i’n dyfalbarhau efo llyfrau ffeithiol neu hunangofiant, oni bai fod y llyfr yn cadw fy sylw.
Wel, dyna’n union beth sydd wedi digwydd efo Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs a Sens gan Gwenllian Ellis: llyfr sy’n edrych ar berthynas pobl efo’i gilydd, a’r perthynas mwyaf pwysig: yr un efo chi eich hun. Felly, hunangofiant mewn ffordd, lle mae’r awdures yn tynnu ar ei phrofiadau hi ei hun.
I fod yn onest, roedd y clawr a’r teitl yn ddigon i dynnu fy sylw. Dw i wedi bod yn gweld clawr y llyfr yn ymddangos ym mhob man – ar gyfryngau cymdeithasol, erthyglau ac mewn ffenestri siopau llyfrau.
Dw i’n gwybod yr hen ddywediad, ‘peidiwch â beirniadu llyfr yn ôl ei glawr’, ond efo hwn, roeddwn i’n gwybod byswn i’n licio’r cynnwys. Clawr sy’n adlewyrchu’r cynnwys yn berffaith, dw i’n meddwl. Mae’n lliwgar, deniadol, a hefyd yn dangos un o brif themâu’r llyfr sef cyfeillgarwch, a chyfeillgarwch rhwng merched yn enwedig.
Roedd yr awdures yn westai ar bodlediad diweddar ‘Caru Darllen’, ac ar ôl gwrando, roeddwn i jest a marw isio mynd i nôl copi i fi fy hun.
“Llawn hiwmor”
Dw i wir wedi mwynhau ei ddarllen. Mae’n llyfr llawn bywyd – a bywyd go iawn – hiwmor a gonestrwydd: yr union beth roeddwn i angen darllen.
Yn y llyfr mae Gwenllian Ellis yn cyfeirio at bethau fel y cylchgrawn Mizz, yr obsesiwn efo’r gyfres Twilight, a bebo – am throwback! Dyna beth oedd yn boblogaidd pan oeddwn i yn fy arddegau hefyd ac roeddwn i’n dallt yn hollol. Roedd hyn i gyd yn gwneud i fi uniaethu efo’r cynnwys, a theimladau’r awdures.
Mae’r llyfr yn llawn hiwmor a hwyl, ond hefyd efo ochr fwy difrifol lle mae Gwenllian yn dweud gwirioneddauam ein cymdeithas. Er bod yr elfen hunangofiannol yn bwysig yn y llyfr, mae’r themâu – ffeministiaeth a chyfeillgarwch – yn gryfach. Dyna’r peth fwynheais i fwyaf am ddarllen Sgen i’m Syniad.
Cwlwm gan Ffion Enlli a’r gyfrol Rhyngom gan Sioned Erin Hughes sydd ar fy rhestr i’w ddarllen nesaf – felly nol i lyfrau ffuglen. Ond diolch i Gwenllian Ellis, dw i bendant am fod yn fwy agored i ddarllen mwy o lenyddiaeth ffeithiol, a hunangofiannol hefyd.
Wna’i ddim dweud mwy; wna’i adael i chi ddarganfod y gweddill i chi’ch hunain. Mwynhewch y darllen!