Dych chi’n hoffi gwylio pêl-droed? Dych chi wedi bod yn dilyn llwyddiant tim pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar?
Mae Anne Cakebread yn ddarlunydd ac awdures sy’n byw yn Llandudoch, Sir Benfro. Mae hi wedi creu llyfr lliwio am bêl-droed Cymru. Mae’r llyfr ar gyfer plant ac oedolion. Mae’n cynnwys geirfa o dermau pêl-droed yn y Gymraeg. Mae capsiynau’r lluniau hefyd yn ddwyieithog i helpu pobl sy ddim yn siarad Cymraeg ond sy’n gwylio’r gemau ar S4C.
Mae Anne wedi gweithio i gylchgronau fel Match of the Day, Shoot, Match a Total Football. Mae pêl-droed yn ddylanwad mawr ar ei bywyd.
Roedd hi wedi chwarae i Merched Castell Caerffili yn ei phedwardegau. Rŵan mae hi’n rhan o dîm hyfforddi merched iau yng ngorllewin Cymru.
Mae Anne Cakebread hefyd yn awdures. Mae hi wedi ysgrifennu cyfres o lyfrau dysgu ieithoedd fel Teach your Dog Welsh, a Teach your Cat Welsh. Mae hi’n byw rhedeg Oriel Canfas yn Aberteifi. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360…
O le daeth y syniad ar gyfer Llyfr Lliwio Pêl-droed Cymru?
Ro’n i wedi clywed am blant yn dysgu chwarae pêl-droed trwy gyfrwng y Gymraeg, felly ro’n i eisiau gwneud llyfr i gefnogi hyn ers tro. Dw i wrth fy modd yn gwylio Sgorio ac ro’n i eisiau ffordd i fy helpu i ddysgu termau pêl-droed Cymraeg. Hefyd fe wnes i rywfaint o dudalennau lliwio ar gyfer ysgol yn Seland Newydd yn ystod y cyfnod clo i’w helpu i ddysgu Māori, felly daeth y ddau syniad at ei gilydd.
At bwy mae’r llyfr wedi’i anelu?
Mae wedi’i anelu at blant ac oedolion. Hyd yn hyn dw i wedi cael rhieni a phlant yn lliwio’r tudalennau mewn.
Sut oedd eich diddordeb chi mewn pêl-droed wedi dechrau?
Dw i wastad wedi caru pêl-droed. Roedd fy Nhad yn bêl-droediwr da. Roedd e’n Gapten tîm Pêl-droed Bechgyn Dagenham (sy’n cyfateb i West Ham Youth), felly rydw i wedi bod yn cicio pêl ers i mi allu cerdded.
Pryd wnaethoch chi ddechrau ysgrifennu’r llyfrau Teach Your Dog Welsh ac ati?
Wnes i ddechrau ysgrifennu’r llyfr yn gyntaf yn 2014. Ro’n i’n gweithio arno’n achlysurol tan 2018 ac wedyn wnes i roi dedlein i fi fy hun a rhoi amser o’r neilltu i’w wneud yn iawn.
Beth oedd wedi ysbrydoli’r llyfrau yna?
Fy nghi Frieda. Ro’n i wedi rhoi cartref newydd iddi gan deulu oedd yn siarad Cymraeg.
Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Wnes i ddysgu rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol ond roedd yn ffurfiol iawn. Dim ond ar ôl i fi symud i orllewin Cymru wnes i ddechrau dysgu o ddifrif.
Beth sydd wedi helpu chi fwyaf ar eich taith i ddysgu’r iaith?
Y cymorth a chefnogaeth gan bawb o fy nghwmpas, ac roedd mynd i’r Eisteddfod am y tro cyntaf eleni wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr.
Mae Llyfr Lliwio Pêl-droed Cymru yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.