Mae llawer mwy o bobol eisiau dysgu Cymraeg eleni.

Mae cynnydd o 250% wedi bod yn nifer y dechreuwyr sydd eisiau dysgu Cymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf, meddai Popeth Cymraeg yn Ninbych.

Popeth Cymraeg ydy’r ganolfan iaith yn y dref. Maen nhw wedi gorfod trefnu dosbarthiadau ychwanegol er mwyn i bawb cael cyfle i ddysgu. Mae cynllun  Llywodraeth Cymru i gynnig gwersi am ddim i bobl ifanc rhwng 18-25 hefyd wedi helpu i annog mwy o bobl i gael gwersi Cymraeg.

Ioan Talfryn ydy prif weithredwr Popeth Cymraeg. Yma mae o’n ateb cwestiynau Lingo360 am y cynnydd mawr sydd wedi bod yn nifer y bobl sydd eisiau dysgu’r iaith.

Ioan, faint o gynnydd yn nifer y dysgwyr Cymraeg sydd wedi bod eleni?

Roedden ni wedi gweld cynnydd mawr y llynedd ond mae’r cynnydd eleni wedi bod hyd yn oed yn fwy.  Mae’r niferoedd yn ein dosbarthiadau Mynediad yn uchel iawn – mae 149 o’u cymharu â 42 ddwy flynedd yn ôl. Mae tua 18-20 o bobl ym mhob dosbarth. Mae hyn yn gynnydd o bron i 250% dros ddwy flynedd.

Mae’n dosbarthiadau parhad ni hefyd yn gryf iawn gan fod cymaint o’n dysgwyr wedi aros gyda ni.  Yn gyffredinol dyn ni wedi gweld cynnydd o dros 82% yn nifer y bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf (i fyny o 302 i 550).

Beth dach chi’n credu ydy’r rheswm am y cynnydd yma?

Yn sicr, roedd y pandemig wedi gwneud gwahaniaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd llawer o ddysgwyr wedi bod yn cofrestru ar ein cyrsiau ar-lein.  Mae llawer iawn o ddysgwyr yn meddwl bod y cyrsiau ar-lein yn fwy cyfleus – does dim rhaid iddyn nhw deithio allan i fynd i ddosbarthiadau (yn enwedig ar nosweithiau oer yn y gaeaf).  Byddai’n well gan rai, wrth gwrs, fynd i ddosbarthiadau yn y cnawd. Bydd dosbarthiadau felly’n siŵr o gynyddu wrth i ni symud ymlaen o’r pandemig. Ond dw i’n meddwl fod dysgu ar-lein yma i aros – mae’n mynd i fod yn rhan bwysig o’r dewis i ddysgwyr Cymraeg.

Y tiwtor Lowri Ellis gyda’r dosbarth Cymraeg yn Llysfasi ger Rhuthun, Sir Ddinbych

Ydach chi’n credu mai dysgwyr fydd yn diogelu’r iaith at y dyfodol? 

Dw i’n meddwl fod maes Cymraeg i Oedolion yn bwysig iawn i drio cael mwy o siaradwyr Cymraeg, a hefyd yr ymdrechion i gael mwy o blant yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn iddyn nhw adael yr ysgol.  Mae’n siŵr y byddai dilyn esiampl gwledydd eraill fel Catalunya a Gwlad y Basg yn bwysig i’r broses.  Maen nhw wedi sicrhau fod addysg statudoli blant yn cynhyrchu siaradwyr naturiol. Mae dysgu’r ieithoedd hynny i oedolion yn atgyfnerthu’r gwaith yn yr ysgolion.

Mae llawer o’r dysgwyr yn dod o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r byd – pam dach chi’n credu bod hyn wedi digwydd? Oedd y pandemig a chynnal gwersi ar-lein wedi gwneud hyn yn haws? Neu oedd diddordeb cyn hynny?

Dw i’n meddwl fod y ddau beth wedi bwydo’i gilydd.  Roedd diddordeb gan sawl un i ddysgu Cymraeg cyn y pandemig.  Mae’r Gymraeg yn sicr yn cael ei gweld fel rhywbeth positif iawn bellach, tu fewn a thu allan i Gymru.  Dyna pam mae pethau fel Say Something In Welsh a Duolingo mor boblogaidd.  Ond yna, gyda dysgu dosbarthiadau dros Zoom, roedd dysgwyr o bob man yn gallu cael y profiad o ddysgu mewn dosbarth gyda phobl eraill.  Roedd yn rhywbeth cymdeithasol iawn er ei fod yn digwydd dros y we.

Dyma’r ffigurau:

Medi 2020

Dechreuwyr – 42

Cyfanswm Niferoedd – 302

Medi 2021

Dechreuwyr – 80

Cyfanswm Niferoedd – 381

Medi 2022

Dechreuwyr – 149

Cyfanswm Niferoedd – 550