Un Nadolig, sawl blwyddyn yn ôl, mi wnes i achosi embaras i fi fy hun o flaen fy chwaer. Dw i dal yn teimlo’n ddrwg amdano pan dw i’n meddwl yn ôl! Dyma beth ddigwyddodd…

Roedd gan fy chwaer, Cristina, a fi draddodiad o ddeffro yn gynt na’n rhieni ar fore Dolig ac agor anrhegion oeddan ni wedi cael i’n gilydd. Mae hi’n nabod fi mor, mor dda, a wastad wedi cael yr anrhegion mwyaf hyfryd i mi. Dw i’n chwaer lwcus iawn!

Gofynnodd Cristina os oeddwn i’n licio’r syniad o Kindle fel anrheg Nadolig. Cwestiwn syml a theg, ac un oedd ddim yn haeddu ‘rant’ hir a gwirion fel ymateb. Ond dyna be gafodd hi genna’i.

Yn syth, wnaeth ei hwyneb ddisgyn: “ond ti wrth dy fodd yn darllen llyfrau, Kindle ydy’r anrheg berffaith i chdi!” Dw i’n siŵr eich bod chi wedi dyfalu yn barod beth brynodd hi i mi ar gyfer y Nadolig y flwyddyn honno.

Y bore nesaf wrth dynnu’r papur lapio i ffwrdd, dyma fi’n gweld Kindle newydd sbon a ro’n i’n teimlo fel chwaer ddrwg iawn. Edrychais arni, yn baglu dros fy ngeiriau, yn trio dweud diolch yn fawr iawn a sori yn yr un frawddeg. Fy chwaer hyfryd wnaeth brynu anrheg hynod o feddylgar i rywun fel fi sydd yn caru darllen a llyfrau – yn teimlo mor ddrwg!

Dw i’n dallt yn iawn pam fysa hi’n meddwl bod Kindle yn syniad da fel anrheg i lyfrbryf. Na’i ddim ailadrodd y ‘rant’ yma, ond dw i jyst ddim yn licio’r syniad o ddarllen llyfr ar sgrin. Dw i’n nabod llawer o bobl sydd wrth eu boddau yn darllen llyfrau ar Kindle neu dabled. Dw i’n dallt yr apêl os dach chi’n mynd ar wyliau ac isio safio lle yn y cês. Ond mae’n well gen i fynd â llyfrau go iawn!

Mae Cristina a fi’n chwerthin amdano rŵan ond, ar y pryd, roeddwn i’n teimlo’n euog ofnadwy. Wnaeth y Kindle fynd i gartref da o leiaf, sy’n gwneud i mi deimlo ychydig bach yn well.

Agor y drws i’r byd llyfrau digidol

Er bod hyn wedi digwydd blynyddoedd yn ôl, dw i dal heb newid fy meddwl. Ond, mae fy ngwaith efo llyfrgelloedd wedi agor y drws i mi i’r byd llyfrau digidol. A dros y misoedd diwethaf, ar ôl argymhelliad gan ffrind, dw i wedi gwrando ar un neu ddau lyfr sain. Roedd genna’i amheuon am hynny yn y lle cyntaf. Fel dw i wedi dweud, does dim byd fel dal llyfr go iawn yn fy llaw. Ond gwrando… wel, mae hwnna’n rhywbeth arall!

Dim ond dyrnaid o lyfrau dw i wedi gwrando arnyn nhw hyd yn hyn, a dim ond rhai dw i wedi darllen go iawn o’r blaen. Ar y cyfan, dw i wedi mwynhau’n fawr iawn. Dechreuais efo Becoming gan Michelle Obama sy’n cael ei ddarllen gan yr awdures ei hun.

Nesaf, gwrandewais ar un o fy hoff lyfrau sef The Handmaid’s Tale gan Margaret Atwood, a ffefryn arall o’r enw City of Girls gan Elizbaeth Gilbert. Dyma pryd meddyliais am ddarllen wrth wrando a sut, efallai, fysa hynny’n helpu fi i wella fy Nghymraeg hefyd.

Llyfr Caryl Lewis, Y Bwthyn
Llyfr Caryl Lewis, Y Bwthyn

Felly, yr wythnos yma, dw i wedi bod yn gwrando ar Y Bwthyn gan Caryl Lewis ac yn dilyn y geiriau yn y llyfr go iawn. Dw i’n gwrando ar y llyfr ar Borrowbox, ap sydd efo llawer o ddewisiadau ac ar gael am ddim efo aelodaeth llyfrgell.

Dw i wir yn meddwl bod cyfleoedd i wrando yn bwysig iawn pan dach chi’n dysgu iaith newydd. Mae gweithgareddau fel gwrando ar sioe radio neu bodlediad yn gallu bod yn rhan o’ch trefn ddyddiol neu wythnosol tu allan i’ch dosbarth Cymraeg. Felly beth am ychwanegu llyfr sain i’r rhestr? Am ffordd dda o fwynhau stori mewn ffordd wahanol. Ond peidiwch anghofio am y copi o’r llyfr go iawn – dyma’r fersiynau gorau yn fy marn i – ac os dach chi ddim yn coelio fi, gofynnwch i fy chwaer!