I mi, does dim byd yn well na cherdded allan o siop recordiau efo albwm newydd yn fy llaw neu mewn tote bag ‘Vod Records’. Y teimlad cyffrous o edrych dros y gwaith celf ar glawr yr albwm, a’r disgwyliad cyn i’r record ddechrau ar ôl rhoi’r nodwydd [stylus] i lawr. Mae’n hollol hudolus.

Ers 2017, dw i wedi bod yn casglu recordiau hen a newydd. Ro’n i wedi cael fy  ysbrydoli gan gasgliad fy Nhad, a dw i’n ffodus iawn o ddweud fy mod i wedi llwyddo i gasglu ambell un o fy hoff albymau. Artistiaid fel Patti Smith a Nick Cave yw calon fy nghasgliad ac, wrth gwrs, llawer o artistiaid a bandiau Cymraeg gan gynnwys Gruff Rhys a’r band Datblygu.

Dau albwm sydd wedi bod ar ‘repeat’ yn fy nhŷ trwy’r haf yw Tresor gan Gwenno ac Amser Mynd Adra gan Papur Wal. Mae ‘na rywbeth am y ddau albwm sydd yn teimlo’n eithaf hafaidd i mi; efallai oherwydd y sŵn a’u steil, yn enwedig ar Amser Mynd Adra, sydd yn aml yn pelydru hapusrwydd – mae pethau wastad yn teimlo’n fwy llawen dros yr haf. Mae hynny’n wir am Tresor hefyd er bod yr albwm yn mynd i’r afael â phynciau o bwys fel patriarchaeth ac annibyniaeth i Gymru. Dw i wedi gwrando ar y ddau albwm drosodd a throsodd ers iddyn nhw gael eu rhyddhau yn gynharach eleni ac wedi bod yn hapus iawn i weld y ddau’n cael sylw haeddiannol ar wahanol restrau gwobrau.

Ym mis Gorffennaf, rhannodd fy ffrind David restr o ganeuon hafaidd efo fi. Wnaethon ni gyfarfod ein gilydd ychydig o flynyddoedd yn ôl mewn dosbarth Cymraeg ac rydyn ni bellach yn ffrindiau sydd wedi dod i nabod ein gilydd trwy ein cariad tuag at ddysgu Cymraeg a hefyd am ein bod yn hoffi’r un math o gerddoriaeth. Creu rhestr caneuon hafaidd sydd ddim yn defnyddio’r gair ‘haf’ yn y teitl oedd bwriad David. Wnaeth o anfon ei restr ata’i yn gofyn a oedd gennai unrhyw awgrymiadau i ychwanegu. Atebais yn ôl yn argymell un neu ddau gan Joni Mitchell (wnaeth hynny ddim synnu David, dw i’n siŵr) a chyfnewid fersiwn The Mamas & the Papas o California Dreamin’ efo fersiwn Bobby Womack. Dyma fy ffefryn i. Ar y cyfan, roeddwn i’n meddwl bod ei restr yn wych efo amrywiaeth da o artistiaid.

Wrth gwrs, defnyddiais syniad da fy ffrind fel esgus i greu rhestr fy hun o ganeuon hafaidd yn yr iaith Gymraeg sydd ddim yn defnyddio’r gair ‘haf’ yn y teitl. Roedd 20 o ganeuon i gyd a dw i wedi trio cynnwys cymysg o ganeuon eithaf cyfoes fel Machlud gan Sywel Nyw ac Ynys Araul gan Ani Glass, ond hefyd clasuron fel Reggae Reggae gan Geraint Jarman.

Casgliad o recordiau Francesca Sciarrillo

Un gân sydd ar dop fy rhestr yw Brechdanau Tywod gan Datblygu sydd, efallai, ddim yn gân ystrydebol hafaidd er bod y teitl yn cyfeirio at y môr. Fysa rhywbeth wedi bod ar goll heb gyfraniad Datblygu ar y rhestr. I fi, mae’r gân yn dangos pa mor unigryw yw’r band ac yn enghraifft dda o eiriau meistrolgar Dave Datblygu.

Ysbeidiau Heulog gan Super Furry Animals oedd y dewis arall: un o’r bandiau cyntaf i mi ddarganfod pan ddechreuais wrando ar fiwsig yn y Gymraeg. Sisial y Môr gan Gwenno yw un o fy ffefrynnau ar y rhestr hefyd gan ei bod yn un o’r caneuon cyntaf i mi glywed yn ystod y gig Cymraeg (a Chernyweg) cyntaf wnes i fynd iddo ym Mangor yn 2017.

Roedd yn lot o hwyl creu rhestr fy hun ar gyfer yr haf a chyfle bach neis i ailymweld â rhai o fy hoff artistiaid a bandiau. Rŵan mae genna’i ‘playlist’ bach da o ganeuon hafaidd: her hwyliog i’w wneud a rhannu efo ffrindiau ac er mwyn dathlu’r byd eang o fiwsig anhygoel sydd gennyn ni yma yng Nghrymu.