Dych chi’n mwynhau garddio?

Dych chi’n hoffi bod yn yr ardd yn y Gwanwyn?

Mae rhaglen arbennig awr o hyd o’r gyfres Garddio a Mwy ar Ddydd Llun y Pasg (Ebrill 18).

Meinir Gwilym ydy un o gyflwynwyr y gyfres. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo newydd…

 

Meinir, beth ydy eich hoff amser o’r flwyddyn?  

“Y Gwanwyn ydi fy hoff amser i o’r flwyddyn. Dw i’n hoffi’r blodau fel yr eirlysiau, y cennin Pedr, y clychau’r gog, a’r hauplannu tatws, a’r gwennoliaid yn dod yn ôl.”

 

Dych chi’n cyflwyno rhai eitemau o’ch gardd ym Mhant y Wennol, wrth ymyl Pwllheli ym Mhen Llŷn, ar gyfer y gyfres Garddio a Mwy. Rydych chi wedi son pa mor bwysig oedd yr ardd i chi yn ystod y cyfnod clo. Dych chi’n meddwl bod pobl yn defnyddio eu gerddi mwy ers y cyfnod clo?

“Mi wnaeth y cyfnod clo cyntaf yn sicr ddod a rhai pethau positif efo fo. Roedd wedi rhoi’r cyfle i lawer o bobl fynd am dro, a threulio amser yn eu gerddi. Dw i eisiau cadw’r diddordeb newydd yna. Rydan ni eisiau dangos sut mae’n bosib i bobl fwynhau eu gerddi a’u defnyddio ar gyfer tyfu bwyd, iechyd meddwl, a hamddena.

 

Meinir, dych chi’n canu a chyfansoddi ac yn aelod o’r grŵp gwerin Pedair. Ydy bod yn yr ardd yn ysbrydoli chi?

“Dw i’n mwynhau gwneud rhywbeth efo fy nwylo, garddio, hau a phlannu, a thyfu bwyd. Mae cael fy nwylo yn y pridd yn gadael i fi gael dihangfa am funud, neu ychydig oriau. Jyst i gael y meddwl yn fwy clir i ddelio efo pethau.”

 

Mae costau byw a phrisiau bwyd yn codi. Fydd Garddio a Mwy yn dangos i bobl sut i dyfu llysiau a rhoi cyngor am sut i ddefnyddio’r bwyd?

“Rydan ni bob amser wedi ceisio dangos i bobl sut i ddefnyddio pob darn o gynnyrch o’r ardd. Rydan ni hefyd yn dangos sut i ddefnyddio dulliau traddodiadol i gadw bwyd dros y Gaeaf. Rydan ni’n gweithio ar brosiect diddorol i annog pobl i roi tro ar dyfu bwyd am y tro cyntaf. Rydan ni hefyd yn rhoi sylw i erddi a phrosiectau cymunedol. Maen nhw’n bwysig, ac yn ffordd i ni gyd weithio efo’n gilydd i dyfu ein bwyd ein hunain.”

 

Beth fydd yn cael sylw yn y rhaglen awr o hyd ar Ddydd Llun y Pasg?

“Mi fydd yn llawn syniadau am bethau i’w gwneud yn yr ardd ym mis Ebrill, a sut i gadw’r plant yn hapus dros y gwyliau. Mae’n rhoi cyfle i ni dreulio ychydig mwy o amser efo’n gwylwyr. Mi fydd yn gyfle i rannu tips efo pobol sydd efallai’n dechrau gwylio’r rhaglen am y tro cynta’. Mi fydd yna syniadau ar dyfu bwyd ar sil ffenest, ymweliadau efo gwahanol erddi, a chyfle i gyfarfod rhai o gyflwynwyr achlysurol newydd y gyfres hefyd.

Garddio a Mwy, nos Lun, 8.25pm, S4C

 

Geirfa

Gwanwyn – Spring

Hau – to sow

Plannu – to plant

Eirlysiau – snowdrops

Cennin Pedr – daffodils

Clychau’r gog – bluebells

Gwennoliaid – swallows

Hamddena – leisure

Ysbrydoli – inspire

Dihangfa – escape

Prosiectau cymunedol – community projects

Achlysurol – occasional