Wythnos yma, mi ges i’r fraint o fod yn siaradwr gwadd yng Nghyfarfod Blynyddol Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Mae’r fenter yn trefnu a chynnal bob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gymunedau Sir y Fflint a Wrecsam er budd y Gymraeg.
Dros y flwyddyn ddiwethaf dw i wedi cael y cyfle i gydweithio efo tîm Y Fflint a Wrecsam trwy fy ngwaith efo’r llyfrgelloedd yn Sir y Fflint. Efo’n gilydd, rydyn ni wedi cynnal gwahanol sesiynau i blant ac oedolion o bob oedran, gan gynnwys sesiynau celf a digwyddiadau efo awduron.
Un o fy hoff ddigwyddiadau oedd sesiwn ‘Celf Cymru’, lle gwnaethon ni groesawu plant a theuluoedd Sir y Fflint i Lyfrgell yr Wyddgrug i greu baneri i gefnogi Tîm Cymru yng Nghwpan y Byd. Sesiwn wych arall oedd noson yn Llyfrgell yr Wyddgrug efo’r awduron i lansio’r llyfr Curiad Gwag gan Rebecca Roberts yng nghwmni Bethan Gwanas. Er mai ‘Curiad Gwag’ yw teitl y nofel, roedd yr ystafell yn llawn bwrlwm a chwerthin.
Felly, pan dderbyniais wahoddiad i fod yn siaradwr gwadd, roeddwn i mor gyffrous! Roeddwn i hefyd yn edrych ymlaen at ddathlu blwyddyn arall lwyddiannus iawn i dîm Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn creu cyfleoedd gwych i’n cymuned yma yn y gogledd ddwyrain.
Penderfynais rannu fy stori o ddysgu Cymraeg ar gyfer fy araith. Roeddwn i hefyd isio pwysleisio pwysigrwydd sefydliadau fel Menter Iaith i siaradwyr newydd wrth ddod o hyd i gyfleoedd i ymarfer a defnyddio Cymraeg.
Soniais hefyd am hunaniaeth; rhywbeth dw i wastad wedi bod yn ymwybodol ohono fel aelod o deulu dau ddiwylliant. Symudodd fy Neiniau a Theidiau, neu ‘Nonni’, o’r Eidal i Gymru yn y chwedegau. Felly, er fy mod i wedi tyfu fyny yng Nghymru, dw i hefyd yn falch o’m hetifeddiaeth Eidaleg.
Fel plentyn, aeth fy chwaer a fi, a fy rhieni i’r Eidal bob blwyddyn i weld teulu, ac i brynu pasta, wrth gwrs! Mae’n anodd disgrifio’n iawn pa fath o deimladau mae fy rhieni, fy chwaer, Cristina, a fi yn teimlo pan dan ni’n cyrraedd yr Eidal.
Mae yna deimlad fel ein bod ni adra – sy’n hyfryd – dan ni’n gallu cerdded lawr y stryd a ffitio mewn (heblaw am gap Cymru mae fy Nhad yn gwisgo sy’n gwneud iddo edrych fel twrist!), ond rydan ni hefyd yn teimlo fel ymwelwyr. Dyna’n union sut roedd fy Neiniau a Theidiau’n teimlo yng Nghymru – roedden nhw’n hapus, ond hefyd yn teimlo fel ymwelwyr.
Mae hunaniaeth yn gallu bod mor gymhleth, efo cwestiynau fel ‘beth a phwy ydan ni?’, a ‘lle ydan ni’n perthyn?’. Dim ond pan wnes i ddarganfod y Gymraeg oedd genna’i atebion i’r cwestiynau yna.
Ar ôl sôn am fy nheulu, siaradais am fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg trwy lefel A ail iaith, a fy amser yn byw ym Mangor cyn symud yn ôl i’r Wyddgrug ac ymlaen i Sir Ddinbych. Gorffennais gan ddweud fy mod i ddim yn siŵr beth sydd nesaf i fi ar fy nhaith efo’r iaith. Yr unig beth dw i’n gwybod am ffaith yw presenoldeb y Gymraeg yn fy nyfodol, a gobeithio mwy o gyfleoedd i annog eraill i ddysgu a defnyddio’r iaith.
Mae gennym ni gyd, siaradwyr newydd neu siaradwyr gydol oes, gyfrifoldeb tuag at yr iaith: i’w dysgu, i’w chadw, i’w meithrin, a’i phasio ymlaen. I fenthyg geiriau enwog sydd wedi bod yn cael eu hadrodd a chanu sawl gwaith dros y misoedd diwethaf; er gwaethaf pawb a phopeth, rydyn ni yma o hyd – a’r iaith Gymraeg yn fyw!