Y cyfansoddwr Rhydian Meilir oedd wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru eleni.
Mae o’n dod o Gemaes wrth ymyl Machynlleth. Roedd o wedi cystadlu pedair gwaith o’r blaen. Roedd Rhydian wedi dod yn gyntaf gyda’i gân ‘Mae Yna Le’.
Roedd o wedi cyrraedd y rhestr fer yn 2012 gyda ‘Cynnal y Fflam’, ac yn 2019 gyda ‘Gewn ni Weld Sut Eith Hi’. Yn 2020 roedd o wedi cyfansoddi dwy gân ar y rhestr fer – ‘Pan Fyddai’n 80 Oed’ a ‘Tir a’r Môr’, cyn ennill eleni gyda ‘Mae Yna Le’ a gwobr o £5,000. Yr actor a’r cerddor Ryland Teifi oedd wedi perfformio’r gân ar y noson (4 Mawrth).
Mae Rhydian yn dweud bod o “dal methu coelio bo fi wedi ennill” ond mae’n dweud bod ennill wedi rhoi’r hyder iddo gario mlaen i ysgrifennu caneuon.
‘Denu dysgwyr’
Mae Rhydian yn dweud bod geiriau caneuon yn “ffordd wych” i ddenu dysgwyr at yr iaith Gymraeg.
“Oherwydd natur geiriau cân, mae’n fyr, a bachog, ac ar ffurf penillion slic sy’n odli,” meddai.
“Mae’r odlau ac ailadrodd rhai geiriau yn help mawr i wneud y geiriau yn gofiadwy. Mae’r gerddoriaeth, a’r rhythm, yn helpu i ddenu sylw’r gwrandawyr i wrando yn fwy astud ar y geiriau, a sŵn y geiriau.”
Mae Rhydian yn dweud bod sgyrsiau pobl sy’n siarad Cymraeg yn rhugl “yn gallu symud yn gyflym, ac mae’n anodd i ddysgwyr eu dilyn, fyswn i’n meddwl.”
“Ond beth sydd yn grêt am ganeuon Cymraeg ydi mae digon o amser gan bobl i wrando ar y gân yn eu hamser eu hunain. Maen nhw’n gallu mynd nôl at y gân dro ar ôl tro, ei ail-chwarae, a gwrando yn astud ar y geiriau. Dw i’n credu bod y geiriau yn siŵr o aros ym meddyliau pobl os ydyn nhw’n clywed y geiriau dro ar ôl tro.”
‘Brenhines Aberdaron’
Mae Rhydian yn dweud bod rhai pobl sy’n mynd i grwpiau dysgu Cymraeg wedi cysylltu efo fo ar Facebook yn gofyn am gopi o eiriau ei ganeuon er mwyn eu dysgu.
“Mae llawer wedi gofyn am eiriau’r gân ‘Brenhines Aberdaron’. Dyma’r gân wnes i gyfansoddi am fy Anti, Anti Sis.”
Roedd y gân wedi ennill cystadleuaeth Tlws Sbardun yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 2019.
“Mae’n deimlad grêt ac yn fraint fod pobl yn dangos diddordeb yn lyrics fy nghaneuon. Mae’n profi i mi fod fy ngeiriau yn ddealladwy ac yn eiriau sy’n hawdd uniaethu â nhw. Mae’n dangos eu bod nhw’n gallu cyffwrdd pobl mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Dyna sy’n gwneud y broses o ysgrifennu yn werth chweil i fi. Mae’n hyfryd gweld yr ymateb positif gan bobl dydw i ddim yn eu hadnabod, a bod fy nghaneuon yn effeithio arnyn nhw mewn ffordd bositif,” meddai Rhydian.
Mae Rhydian eisiau annog mwy o gyfansoddwyr i gystadlu yn Cân i Gymru.
“Y peth pwysicaf ydy bod cymaint o ganeuon newydd Cymraeg yn cael eu sgwennu. Mae’n bwysig i ddysgwyr Cymraeg glywed yr iaith,” meddai.
Geirfa
cyfansoddi compose
Rhestr fer shortlist
Methu coelio can’t believe
Bachog catchy
Odli rhyme
Cofiadwy memorable
Uniaethu identify (with something)
Gwrando’n astud listen carefully/attentively
Braint honour
Annog encourage