Roedd pobol wedi bod yn pleidleisio yn yr etholiadau lleol ar draws y Deyrnas Unedig ddydd Iau (Mai 5).

Roedd 1,160 o seddi ar gael ar draws 22 o gynghorau.

Am y tro cyntaf, roedd pobol ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn yr etholiadau cyngor.

Yng Nghymru a Lloegr, roedd hi’n ddiwrnod du i’r Torïaid. Roedden nhw wedi colli llawer o seddi.

Roedd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi colli’r unig gyngor roedden nhw’n ei reoli sef Sir Fynwy.

Ond roedd hi’n ddiwrnod da i Blaid Cymru. Roedden nhw wedi cadw Gwynedd ac wedi cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr. Fe fyddan nhw’n cael rhedeg pedwar cyngor gyda mwyafrif am y tro cyntaf erioed.

Roedd hi’n “ddiwrnod da” i’r Blaid Lafur, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford. Roedd Llafur wedi cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr. Ond roedden nhw wedi colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot.

Roedd arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin wedi colli eu seddi.

Fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddeg sedd ym Mhowys. Dyma’r grŵp mwyaf gyda 24 o gynghorwyr.

Roedd y Blaid Werdd wedi cipio saith sedd. Maen nhw wedi cipio eu seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd. Dyma’r canlyniad gorau erioed i’r blaid yng Nghymru.

Roedd etholiadau cyngor hefyd yn Yr Alban – roedd yr SNP wedi cipio mwyafrif. Yn etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon, roedd Sinn Fein wedi ennill mwyafrif y pleidleisiau dewis cyntaf.

Geirfa

Etholiadau lleol – local elections

Mwyafrif – majority

Pleidleisio – to vote

Rheolaeth – control