Roedd Francesca Sciarrillo o Sir Ddinbych wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2019.

Mae Francesca yn 26 oed.

Mae hi’n dod o’r Wyddgrug yn Sir y Fflint yn wreiddiol a bellach yn byw wrth ymyl Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Mae hi’n dod o deulu Eidalaidd.

Roedd ei neiniau a theidiau wedi symud i Gymru yn y 1960au.

Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers bron i 10 mlynedd.

Roedd Francesca wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2019.

Mae hi wedi cael gwahoddiad i arwain llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych yr wythnos hon. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360 gan annog eraill i ddysgu’r iaith…


Francesca, pam oeddech chi wedi penderfynu dysgu Cymraeg?

Y rheswm pam wnes i benderfynu dysgu Cymraeg oedd achos fy mod i eisiau parchu penderfyniad fy neiniau a theidiau i ddod i Gymru. Dw i’n byw yng Nghymru felly dw i eisiau siarad Cymraeg a cholli fy hun yn niwylliant Cymru.

 

Roeddech chi wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2019. Sut deimlad oedd hynny?

Dyna oedd cyflawniad mwyaf fy mywyd fyswn i’n dweud. Roedd yn brofiad anhygoel. Roeddwn i’n teimlo’n nerfus cyn gwneud cais ar gyfer y gystadleuaeth achos o’n i’n meddwl, i fod y onest, dydy fy Nghymraeg i ddim digon da, dw i ddim yn ddigon rhugl a doeddwn i ddim yn hyderus iawn. Ond wedyn o’n i’n teimlo bod cymryd rhan yn yr Eisteddfod yn un o’r pethau mwyaf Cymraeg ac ro’n i eisiau pwshio fy hun i wneud cais. Ro’n i eisiau cyfarfod mwy o bobl fel fi sy’n dysgu Cymraeg, sy’n caru’r iaith ac yn caru’r profiad o ddysgu. Wnes i gwrdd â lot o bobl hyfryd iawn, dysgwyr eraill, ac roedd o’n brofiad bythgofiadwy. Roedd yn daith anodd mewn ffordd achos pan ti’n dechrau dysgu unrhyw iaith mae’n anodd. Ti’n teimlo’n nerfus neu’n ansicr ac yn poeni am wneud camgymeriadau. Cyn y gystadleuaeth ro’n i’n poeni bysa lot o bobl yn chwerthin arna’i, neu’n dweud bo fi ddim yn ddigon rhugl i wneud y gystadleuaeth ond oedd pawb mor groesawgar a chefnogol. I unrhyw un sy’n meddwl cystadlu ar gyfer Medal y Dysgwyr fyswn i’n dweud jest mynd amdani. Mae’n gyfle gwych i gymdeithasu efo pobol eraill a jest ymgolli eich hunan yn yr iaith a chwrdd â phobol eraill. Mae’n wych!

 

Dych chi wedi cael gwahoddiad i arwain llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych. Sut deimlad oedd cael eich gwahodd yn ôl?

Waw, mae wedi bod yn full circle moment go iawn i fi. Dw i methu disgwyl. Dw i mor gyffrous am yr Eisteddfod ac mor hapus bod hi yn ôl ac yn gyfle i weld pawb eto a jest bod yn rhan o’r Eisteddfod unwaith eto.

Mae’n brofiad anhygoel rili a – dydy hyn ddim yn digwydd yn aml – ond ro’n i bach yn speechless mewn ffordd pan ges i’r gwahoddiad i fod yn rhan o’r Eisteddfod eto. Dw i mor ddiolchgar i’r Urdd am feddwl amdana’i a chael dod yn ôl a bod yn rhan o’r dathliadau. Mae’n meddwl y byd i fi a dw i’n gwerthfawrogi’r gwahoddiad. Dw i mor lwcus – dw i’n cael y cyfle eto i annog pobol i siarad Cymraeg a chwrdd â mwy o bobol a ffrindiau.

 

Mae llawer o ddysgwyr yn dweud eu bod nhw ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’w gwersi, ac yn poeni am siarad Cymraeg mewn caffi neu siop. Beth ydy’ch cyngor chi iddyn nhw?

Dw i’n deall yn hollol y teimlad yna o beidio teimlo’n ddigon hyderus i siarad Cymraeg. Weithiau ti’n clywed pobol yn siarad Cymraeg ac eisiau mynd atyn nhw ond yn teimlo bo ti methu. Fyswn i’n dweud, jest cer amdani. Y peth pwysicaf ydy bod ti jest yn trio a fydd pawb yn gefnogol. Does dim ots os ti’n gwneud camgymeriad, mae pawb yn gwneud camgymeriadau. Dw i’n siŵr fy mod i wedi gwneud llawer o gamgymeriadau yn ystod y sgwrs yma a bod pobol yn meddwl ‘W! Dydy Francesca ddim wedi treiglo’n dda yn fan’na’. Ond y peth pwysig ydy jest cario mlaen i siarad, siarad, siarad a ffeindio bob un cyfle i ddefnyddio’r iaith. Os dach chi’n dechrau bob un sgwrs yn Gymraeg mewn siop a chaffi fydd o wir yn helpu’ch hyder. Peidiwch â bod ofn, a jest mynd amdani.