Dyma’r newyddion wythnos yma…
Mae Aled Roberts wedi marw. Roedd o’n Gomisiynydd y Gymraeg. Roedd o’n 59 oed.
Mae Storm Eunice wedi achosi lot o broblemau. Roedd llawer o gartrefi heb drydan, ffyrdd wedi cau a threnau wedi canslo.
Mae Cân i Gymru 2022 wedi cyhoeddi’r wyth cân sydd ar y rhestr fer. Bydd yr enillydd yn cael £5,000 a theitl Cân i Gymru. Bydd y gystadleuaeth ar 4 Mawrth.
Mae Gŵyl BBC Radio 6 Music yn dod i Gaerdydd ym mis Ebrill. Mae llawer o berfformwyr enwog yn dod fel Little Simz, Johnny Marr a Pixies. Y perfformwyr o Gymru fydd Carwyn Ellis & Rio 18, Georgia Ruth, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline ac Adwaith.
Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw
Ar ddechrau’r wythnos, daeth y newyddion trist fod Aled Roberts wedi marw. Roedd yn 59 oed.
Roedd yn Gomisiynydd y Gymraeg. Roedd wedi bod yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru cyn hynny.
Cafodd Aled Roberts ei eni a’i fagu yn Rhosllannerchrugog wrth ymyl Wrecsam. Roedd yn gyfreithiwr cyn bod yn wleidydd.
Cafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Sir Wrecsam yn 2004. Yn 2011 daeth yn Aelod o’r Cynulliad tros y gogledd. Roedd yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd wedi colli ei sedd yn y Cynulliad yn 2016.
Yn 2019 daeth yn Gomisiynydd y Gymraeg. Roedd e’n ceisio gwneud yn siŵr bod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r iaith gyda chyrff cyhoeddus.
Pan oedd e ddim yn gweithio, roedd Aled Roberts yn hoffi canu mewn corau ac yn cefnogi Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Teyrngedau
Mae llawer o deyrngedau wedi cael eu rhoi i Aled Roberts.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd “colled ar ei ôl mewn cymaint o ffyrdd”.
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd, Jane Dodds, bod Aled Roberts wedi gweithio’n galed iawn fel Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru.
Roedd e wedi “ymladd yn galed dros fuddsoddi yn ein pobol ifanc”, meddai Jane Dodds.
“Mae’n cael ei gofio am wneud ei holl gyfraniadau yn Gymraeg yn y Siambr,” meddai.
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel dyn “hoffus” ac “annwyl” gan ei ffrind a chydweithiwr, y Barnwr Nic Parri.
Roedd yn rhoi “gymaint o werth ar ei filltir sgwâr ag yr oedd o ar ei genedl”, meddai Nic Parry, ac roedd e’n “ddyn y gallech chi ymddiried ynddo fo”.
Yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae marwolaeth Aled Roberts “yn ergyd i’r Gymraeg a bywyd cyhoeddus Cymru”.
“Roedd yna lot mawr o barch ymysg ein haelodau ni tuag ato fe. Roedd yn ddyn annwyl oedd â lot o angerdd dros yr iaith,” meddai Mabli Siriol.
Roedd e’n rhywun oedd yn “credu yn y syniad fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru,” meddai.
Mae’n gadael ei wraig, Llinos, a’u meibion, Ifan ac Osian.
Geiriau
Teyrngedau – tributes
Ergyd – blow
Angerdd – passion
Parch – respect
Storm Eunice yn achosi problemau mawr
Erbyn diwedd yr wythnos, roedd Storm Eunice yn achosi problemau mawr. Roedd miloedd o gartrefi yn ne Cymru heb drydan. Roedd coed wedi cwympo a thynnu gwifrau trydan i lawr, meddai Western Power Distribution.
Cafodd y rhan fwyaf o ysgolion eu cau. Roedd trenau wedi cael eu canslo a theithiau fferi.
Roedd y ddwy bont dros yr Hafren wedi cau i’r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd cryfion.
Dyma’r tro cyntaf erioed i Bont Hafren yr M48 a Phont Tywysog Cymru yr M4 orfod cau oherwydd y gwynt.
Roedd y gwyntoedd wedi cyrraedd 92 milltir yr awr ar hyd arfordir Sir Benfro, ac 87 milltir yr awr yn y Mwmbwls wrth ymyl Abertawe.
Roedd dwy lori wedi troi drosodd ar yr M4 ac roedd difrod i adeiladau. Roedd difrod i adeilad ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn ardal Lecwydd. Dywedodd S4C bod rhannau o do Canolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi yn dod yn rhydd.
Roedd rhybudd am lifogydd hefyd.
Geiriau
Gwifrau trydan – electricity cables
Gwyntoedd cryfion – strong winds
Difrod – damage
Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2022
Mae’r wyth cân sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cân i Gymru 2022 wedi cael eu cyhoeddi.
Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 4 Mawrth.
Dafydd Iwan, Elidyr Glyn, Lily Beau, a Betsan Haf Evans sydd wedi dewis y caneuon eleni. Maen nhw’n dweud bod “amrywiaeth mawr” wedi cyrraedd yr wyth olaf eleni.
Bydd cyfle i ennill £5,000 a theitl Cân i Gymru.
Dyma’r wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu:
Rhyfedd o Fyd gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Mae’r geiriau gan Emlyn Gomer Roberts
Mae Elfed Morgan Morris yn bennaeth yn Ysgol Llandygai, Bangor. Roedd o wedi cyfansoddi’r gân ‘Gofidiau’ gan ennill y gystadleuaeth yn 2009.
Roedd Carys Owen wedi dod yn ail yn 2002, gyda’r gân ‘Rhy Gry’. Roedd hi wedi cyfansoddi’r gân gydag Emyr Rhys. Elain Llwyd fydd yn perfformio’r gân.
Cana dy Gân gan Geth Tomos, a’r geiriau gan Geth Robyns
Mae Geth Tomos yn athro cerdd yng Nghanolfan Addysg y Bont, Llangefni. Mae Geth Robyns yn athro yn Ysgol Llanfawr yng Nghaergybi.
Cân roc ydy ‘Cana dy Gân’. Rhys Owain Edwards fydd yn perfformio’r gân. Mae o’n ganwr y band Fleur de Lys.
Paid Newid dy Liw gan Mali Hâf a Trystan Hughes
Bydd Mali Hâf o Gaerdydd yn perfformio’r gân soul / pop.
Mae Trystan Hughes yn dod o Gymoedd Abertawe yn wreiddiol. Nawr mae o’n byw yng Nghaerdydd. Roedd Mali wedi cystadlu yn y gystadleuaeth yn 2019 dan yr enw Mali Melyn.
Ymhlith y Cewri gan Darren Bolger
Mae Darren Bolger yn saer maen o Gellilydan ym Mro Ffestiniog. Bydd o’n perfformio’i gân ei hun. Roedd ei gân ‘O’r Brwnt a’r Baw’ wedi cyrraedd yr wyth olaf yn 2015, gyda Cy Jones yn perfformio.
Diolch am y Tân gan Carys Eleri a Branwen Munn
Bydd y gân yn cael ei pherfformio gan FFLOW, sef band Carys Eleri a Branwen Munn.
Mae Carys Eleri yn actores, cyflwynydd ac awdur. Roedd hi wedi colli ei thad i glefyd motor niwron yn 2017.
Roedd hi wedi cyfansoddi’r gân ar y diwrnod y byddai e wedi troi’n 70 oed.
Pan Ddaw’r Byd i Ben gan Steve Williams
Mae Steve Williams yn gweithio fel ditectif i Heddlu Dyfed Powys yn y Drenewydd. Roedd o wedi cyrraedd yr wyth olaf llynedd. Mae o’n gobeithio tynnu sylw at newid hinsawdd gyda’i gân.
Mae yna Le gan Rhydian Meilir
Mae Rhydian Meilir yn dod o Gemaes wrth ymyl Machynlleth. Mae o wedi cyrraedd y rhestr fer bedair gwaith erbyn hyn.
Mae ei gân yn cael ei pherfformio gan Ryland Teifi.
Rhiannon gan Siôn Rickard
Bydd Siôn Rickard yn perfformio’r gân serch yma am ei gariad, Rhiannon.
Mae’n dod o Fetws y Coed yn wreiddiol, a rŵan yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n aelod o’r band Lo-fi Jones efo’i frawd, Liam Rickard.
Bydd Cân i Gymru ar S4C, nos Wener, Mawrth 4 am 8yh.
Geiriau
Rhestr fer – shortlist
Cystadlu – compete
Cyfansoddi – compose
Enwau mawr y byd cerddoriaeth yn dod i Gaerdydd
Mae rhai o enwau mawr y byd cerddoriaeth yn dod i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl BBC Radio 6 Music.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng Ebrill 1-3. Mae’n cynnwys perfformiadau byw, setiau DJ a sgyrsiau.
Mae’r perfformwyr yn cynnwys Little Simz, Father John Misty, IDLES, Bloc Party, Johnny Marr a Pixies.
Bydd llawer o artistiaid Cymraeg yn cymryd rhan hefyd, fel Carwyn Ellis & Rio 18, Georgia Ruth, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline ac Adwaith.
Mae’r ŵyl yn ôl am y tro cyntaf ers dwy flynedd oherwydd y pandemig.
‘Lein-yp yn anhygoel’
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar draws nifer o leoliadau yn y brifddinas. Fe fydd perfformiadau yn Neuadd Dewi Sant, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Tramshed.
“Mae’n newyddion gwych bod Gŵyl 6 Music yn dod i Gaerdydd,” meddai’r DJ o Gaerdydd, Huw Stephens.
“Mae’r lein-yp yn anhygoel,” meddai Huw. “Mae’r ffaith bod cymaint o artistiaid o Gymru ar y lein-yp yn wych hefyd.”
Bydd cyflwynwyr 6 Music – Cerys Matthews, Craig Charles, Gideon Coe, Lauren Laverne, Mark Radcliffe, Mary Anne Hobbs, a Steve Lamacq – yn darlledu o Gaerdydd dros y penwythnos.
Bydd uchafbwyntiau’r ŵyl ar BBC Radio Cymru, gyda Rhys Mwyn, Georgia Ruth, Lisa Gwilym a Huw Stephens yn darlledu.
Bydd BBC Music Introducing, mewn partneriaeth â Gorwelion, yn paratoi ar gyfer yr ŵyl gyda gig arbennig yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Mercher, 30 Mawrth.
Bydd uchafbwyntiau’r ŵyl ar gael i’w gwylio ar BBC iPlayer dros y penwythnos, ac am 30 diwrnod wedyn.
Mae tocynnau ar gael ar bbc.co.uk/6musicfestival
Geiriau
Lleoliadau – locations
Anhygoel – amazing