“Mae’r Gymraeg erbyn hyn yn mynd i ddibynnu fwyfwy ar y dysgwyr. Hebddyn nhw byddai’r Gymraeg yn diflannu. Mae angen rhoi llawer mwy o glod i siaradwyr newydd a’r rhai sy’n dysgu’r iaith.”
Dyna beth mae Heini Gruffudd yn dweud. Mae e’n athro, awdur a chyfieithydd. Mae e wedi bod yn dysgu Cymraeg i blant ac oedolion ers tua 50 mlynedd. Mae e’n dod o Abertawe ac yn dal i fyw yno. Mae wedi ysgrifennu llawer o lyfrau ar gyfer dysgwyr. Nawr, mae e wedi ysgrifennu llyfr newydd My Way to Welsh – a complete course for home learning. Mae’r llyfr yn cael ei gyhoeddi gan y Lolfa ac yn cael ei lansio yn Tŷ Tawe yn Abertawe yfory (dydd Sadwrn, 1 Hydref).
Mae Heini yn dweud: “Mae’r llyfr wedi bod yn lot o waith. Mae wedi bod ar y gweill ers tua phum mlynedd. Roedd y llyfrau Cymraeg sydd wedi bod yn y gorffennol yn eitha’ ysgafn. Roedd y Lolfa eisiau rhywbeth mwy sylweddol. Mae’r llyfr newydd yn chwaer lyfr i Welsh Rules a Welsh Learner’s Dictionary.”
Cafodd y llyfr gwreiddiolar gyfer dysgwyr, Welcome to Welsh, ei gyhoeddi tua 40 mlynedd yn ôl. Meddai Heini: “Erbyn hyn mae wedi mynd yn hen ffasiwn ac yn defnyddio gramadeg oedd yn perthyn i’r arch. Y syniad i ddechrau oedd ehangu Welcome to Welsh. Ond wrth fynd at y gwaith roedd yn hollol amlwg na fyddai hynny’n ddigon. Felly, roedd rhaid dechrau o’r dechrau. Mae My Way to Welsh yn llyfr gweddol gyflawn i bobl sy’n dechrau dysgu Cymraeg. Mae’n rhoi gwybodaeth sylfaenol iddyn nhw efo gwahanol sefyllfaoedd, sgyrsiau, ymarferion, driliau a lluniau.”
Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys ychydig am hanes Cymru, ei llenyddiaeth a thraddodiadau.
Roedd hi’n bwysig gwneud llyfr oedd yn “apelgar” hefyd, meddai Heini.
“Roedd ‘da fi lawer o luniau teuluol dros y blynyddoedd ac mae tua 500 o’r lluniau yn y llyfr! Maen nhw’n helpu i ddangos sefyllfaoedd gwahanol. Dw i’n gobeithio bod tipyn o hiwmor yn y sgyrsiau hefyd. Mae cael rhywun i chwerthin yn gwneud nhw’n fwy cofiadwy.”
Mae My Way to Welsh wedi’i anelu at oedolion ifanc sydd am fagu plant a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.
Ydy’r llyfr yn ddigon ar ei ben ei hun?
“Does dim byd yn curo mynd i ddosbarth gant y cant. Mae cael y cyfle i sgwrsio a defnyddio’r Gymraeg yn bwysig iawn. Ond gorau po fwyaf o adnoddau sydd ar gael. Mae’n braf bod dysgwyr yn gallu edrych ar y llyfr fin nos a chael cyfle i edrych dros y gramadeg a sefyllfaoedd gwahanol ac ymadroddion bach handi.”
Mae Heini yn dweud ei bod yn “galonogol iawn” gweld cymaint o bobl yn dechrau dysgu Cymraeg.
“Dim ond tua 7% o blant Cymru sy’n caffael yr iaith gartre ac mae hynny’n ddifrifol o isel. Tasen ni ddim ond yn dibynnu ar drosglwyddo’r iaith ar yr aelwyd byddai’n hynod o drist arnom ni. Ond mae nifer y rhieni ac oedolion sy’n dysgu rhwng tua 15,000 a 20,000 bob blwyddyn a, dros y wlad, mae’n arbennig. Ond mae angen i’r Llywodraeth roi llawer mwy o gefnogaeth i’r math yma o weithgareddau. Maen nhw wedi dweud y gallai rhai 18-25 oed gael gwersi am ddim sy’n gwbl wych ac mae’n mynd i’r cyfeiriad iawn.”
Yn y cyfamser fe fydd fersiwn newydd o Welcome to Welsh yn cael ei gyhoeddi o fewn y misoedd nesaf “er mwyn newid gyda’r oes”, meddai Heini.