Mae pedwar o bobol wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Roedd 18 o ddysgwyr yn y ras eleni. Y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ydy Stephen Bale o Fagwyr, Joe Healy o Gaerdydd, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth, a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn am 3pm, ddydd Mercher 3 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Dros y dyddiau nesaf fe fydd cyfle i ddod i adnabod y pedwar ychydig yn well. Y tro yma Sophie Tuckwood o Hwlffordd, Sir Benfro sy’n ateb cwestiynau Lingo360…


Beth am gyflwyno eich hun i ni gael dod i’ch adnabod chi’n well…

Dw i’n dod o Nottingham yn wreiddiol ond dw i wedi bod yn byw yn Sir Benfro am ddegawd. Roedd wastad diddordeb gyda fi yn yr iaith ond ro’n i’n gweld dysgu Cymraeg fel rhywbeth anodd iawn.

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Ar ôl i fi gael plant, ro’n i’n mynd i grwpiau canu gyda fy mhlant ac, er bod fy hynaf wedi dechrau mewn ysgol Saesneg, dechreuais i gwrs. Ro’n i’n meddwl y byddai’n dda iddyn nhw glywed Cymraeg yn y tŷ. Cwympais i mewn cariad â’r iaith a dysgu – a nawr mae fy mhlant yn yr ysgol Gymraeg ac yn siarad Cymraeg!

Roedd yn ddatguddiad sylweddoli pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg – nid dim ond ar gyfer cyfathrebu. Gwnaeth dysgu Cymraeg newid yn llwyr y ffordd ro’n i’n gweld ieithoedd a’r ffordd ro’n i’n gweld fy hun.

Sut oeddech chi wedi dysgu?

Dechreuais i fynd i sesiynau Cymraeg i Blant pan oedd fy mhlant yn fach ac wedyn gwnes i’r cwrs ‘Clwb Cwtsh’ am ddim gyda Mudiad Meithrin. Ar yr un pryd, ro’n i’n gwneud y cwrs SaySomethinginWelsh. Dechreuais i gwrs lefel Mynediad ‘Cymraeg i’r Teulu’ yn 2018. Ro’n i’n gallu dod â fy mab ieuengaf yn y pram gyda fi i’r dosbarth felly roedd hynny’n rhoi cyfle arbennig i fi fel mam.

Dw i wedi dysgu fwya drwy wneud ffrindiau a mynd i ddigwyddiadau Cymraeg yn yr ardal. Dechreuais i hefyd gyfrif Instragram am fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg (welsh.notebook) ac wedi cael llawer o gysylltiadau a phrofiadau trwy hynny.

Sut mae eich bywyd wedi newid ers i chi ddechrau dysgu?

Mae dysgu Cymraeg wedi newid pob rhan o fy mywyd – y pethau dw i’n eu gwneud, fy ngyrfa, fy nheulu a fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae dysgu Cymraeg wedi bod mor drawsnewidiol i fi, dw i eisiau helpu eraill i ddysgu a dod o hyd i ffyrdd o wneud dysgu yn fwy hygyrch. Erbyn hyn, dw i’n gweithio fel tiwtor Cymraeg fy hun ac yn astudio Ieithyddiaeth fel gradd meistr. Dw i’n gobeithio gwneud ymchwil ym maes Cymraeg i Oedolion a dod o hyd i ffyrdd o wneud dysgu Cymraeg yn fwy cyraeddadwy i bawb. Dw i wir yn credu, os dw i wedi cyrraedd mor bell â hyn, y gall unrhyw un!

Dw i wedi cael cymaint o brofiadau anhygoel trwy ddysgu Cymraeg – dw i’n ffaelu aros i weld beth arall sydd i ddod.

Beth yw eich cyngor i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg?

Credwch yn eich hun. Dewch o hyd i ffordd o ddysgu sy’n addas i chi. Daliwch ati a mwynhewch y daith!