Mae pedwar o bobol wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Roedd 18 o ddysgwyr yn y ras eleni. Y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ydy Stephen Bale o Fagwyr, Joe Healy o Gaerdydd, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth, a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn am 3pm, ddydd Mercher 3 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Dros y dyddiau nesaf fe fydd cyfle i ddod i adnabod y pedwar ychydig yn well. Y tro yma Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth sy’n ateb cwestiynau Lingo360…


Beth am gyflwyno eich hun i ni gael dod i’ch adnabod chi’n well…

Ben Ó Ceallaigh dw i. Dw i’n dod o orllewin Iwerddon. Gwnes i radd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg ac wedyn MA mewn adfywio iaith trwy gyfrwng yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Galway.  Wedyn wnes i PhD yng Nghaeredin am effaith y toriadau economaidd ar ôl 2008 ar ardaloedd Gwyddelig.

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Symudais i Gymru ym mis Medi 2020 i weithio am ychydig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Oherwydd fy mhrofiad fel siaradwr Gwyddeleg dw i’n deall yn dda iawn pa mor rhwystredig yw e pan mae pobl yn symud rhywle ond ddim yn dysgu iaith y wlad. Dyna un ffordd mae ieithoedd lleiafrifol yn cael eu lladd. Ac mae yna argyfwng rhyngwladol o ran colli ieithoedd, wrth gwrs – mae un iaith yn marw bob pythefnos, yn ôl UNESCO. Felly ro’n i’n hollol sicr bod rhaid i fi ddysgu’r Gymraeg wrth i fi fyw yng Nghymru.

Sut oeddech chi wedi dysgu?

Dw i wedi bod yn gwneud dosbarthiadau dwys gyda Dysgu Cymraeg – maen nhw’n wych! Gwnes i hefyd wrando ar bodlediadau SaySomethingInWelsh am hanner awr (o leiaf) bob dydd am flwyddyn. Ond y peth pwysicaf sydd wedi helpu fi i ddysgu Cymraeg ydy siarad yr iaith bob un cyfle dw i’n cael.

Sut mae eich bywyd wedi newid ers i chi ddechrau dysgu?

Mae dysgu’r Gymraeg wedi agor drws i fyd hollol newydd. Dw i wedi cael cymaint o brofiadau gwych a chwrdd â chymaint o bobl ddiddorol a hyfryd oherwydd y Gymraeg. Mae fy mywyd i gyd yng Nghymru, bron iawn, yn digwydd trwy’r Gymraeg. Dim ond Cymraeg dw i’n siarad gyda fy nghariad, Llinos, ers i fi gwrdd â hi ar Tinder mwy na blwyddyn yn ôl – dy’n ni erioed wedi cael sgwrs yn Saesneg.

Beth yw eich cyngor i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg?

Siarad yr iaith pob cyfle dych chi’n cael. Pob tro dych chi’n siarad, dych chi’n gwella. Dwedwch beth dych chi’n gallu dweud, hyd yn oed os nad ydy e beth dych chi rili eisiau dweud. Ond peidiwch byth newid i Saesneg gyda siaradwyr Cymraeg, s’dim ots pa mor anodd neu rwystredig mae e. Dychmygwch eich bod chi’n byw mewn gwlad uniaith Gymraeg ac nad ydy’r person arall yn deall Saesneg – dyna’r ffordd fysech chi’n dysgu Arabeg yn yr Aifft, neu beth bynnag iaith. Trochwch eich hun gyda’r iaith bob dydd. Hyd yn oed os dych chi ddim yn nabod lot o siaradwyr Cymraeg, mae yna lwyth o gylchoedd siarad â grwpiau ymarfer ar-lein. Mae’n bwysig iawn gwrando ar Radio Cymru neu wylio S4C hefyd. Cofiwch hefyd bod e’n amhosib dysgu unrhyw iaith heb wneud camgymeriadau. Gwnewch nod i wneud 50 camgymeriad wrth ddefnyddio’r iaith bob dydd – mae bob un yn wers a chyfle i ddysgu, nid achos cywilydd! Ymunwch hefyd â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg – mae hynny’n ffordd wych i gyfarfod siaradwyr eraill a helpu gyda gwaith y mudiad i amddiffyn yr iaith.