Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Roedd 18 o ddysgwyr yn y ras eleni. Y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ydy Stephen Bale o Fagwyr, Joe Healy o Gaerdydd, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth, a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.
Fe fydd enw enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar 3 Awst am 3pm yn y Pafiliwn.
Dros y dyddiau nesaf fe fydd cyfle i ddod i adnabod y pedwar ychydig yn well. Y tro yma Stephen Bale o Fagwyr sy’n ateb cwestiynau Lingo360…
Beth am gyflwyno eich hun i ni gael dod i’ch adnabod chi’n well…
Stephen (neu Steve, fel y mae’r rhan fwyaf o bobol yn fy ngalw i) ydw i ac rwy’n byw ym Magwyr. Mae’r pentref rhwng Casnewydd a Chas-gwent sydd, yn ôl y sôn, yn fwyaf enwog am ei wasanaethau traffordd ar yr M4. Ond bydd Castell-nedd wastad yn aros yn agos iawn at fy nghalon.
Cyn i fi ymddeol, ro’n i’n gweithio am tua tri degawd fel gohebydd rygbi i bapurau newydd yn Fleet Street yn Llundain, er bod dim papurau yn Fleet Steet erbyn hynny. Wnes i ymuno a’r Independent pan ddechreuodd y papur ym 1986. Wedyn ro’n i gyda’r Daily Express ac yn ola’, nôl yng Nghymru i’r Sunday Times. Cyn symud i bapurau Llundain, ro’n i wedi gweithio i bapur wythnosol yng Nghastell-nedd (Neath Guardian, sy ddim yn bodoli erbyn hyn), Evening Post Abertawe, Argus Casnewydd a’r Western Mail yng Nghaerdydd. Wnes i fynd i fwy na 500 o gemau rhyngwladol, saith taith gyda’r Llewod, saith Cwpan y Byd, a sawl taith arall i Seland Newydd, Awstralia, De Affrica a llefydd eraill yn y byd rygbi.
Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Ro’n i yn y brifysgol yng Nghaerdydd yn y 70au. Fe wnes i lawer o ffrindiau o’r Gorllewin a oedd yn siarad Cymraeg. Roedd hynny wedi dechrau fy niddordeb yn yr iaith. Wnes i gwrs Cymraeg pan oedd yn bosibl, cwrs Wlpan yng Nghastell-nedd – sef cwrs dwys bob nos Lun i nos Wener am 11 o wythnosau yn 1977. Wnes i gyrraedd safon rhyw hanner ffordd lan y lefelau sy’n bodoli erbyn hyn. Oherwydd fy mod i’n byw ym Mhontardawe ar y pryd, pan oedd llawer iawn o bobl yng Nghwm Tawe yn siarad yr iaith, roedd hi’n hawdd ymarfer a defnyddio’r iaith a oedd gyda fi ar y pryd.
Ond wedyn symudon ni allan o’r ardal o achos gwaith, yn gyntaf i fyw yn Sir Fynwy. Doedd dim llawer o bobl yn siarad Cymraeg yno, os o gwbl. Wedyn es i weithio a byw yn Llundain ac yna i Wlad yr Haf am chwarter canrif cyn dychwelyd i Sir Fynwy. Mae pethau wedi newid llawer yno gyda’r Gymraeg. Y peth cyntaf wnes i ar ôl ymddeol yn 2017 oedd ffeindio ffordd i ddysgu, neu ail-ddysgu Cymraeg. Dysgu’r iaith yw’r ffordd orau i’w chefnogi, ynte?
Sut oeddech chi wedi dysgu Cymraeg?
Roedd hi’n syndod faint o Gymraeg oedd gyda fi o hyd pan ddechreuais i wersi unwaith eto. Roedd hynny bedwar degawd ar ôl i fi drio dysgu’r iaith y tro cyntaf. Roedd dwy athrawes wedi asesu fi; wedyn dechreuais i wersi wythnosol ynghanol y lefelau gydag ‘Uwch Pontio’. Ers hynny dwi wedi bod trwy lefel Uwch, wedi sefyll yr arholiadau Canolradd ac Uwch hefyd erbyn hyn. Dw i newydd orffen yr addysg ffurfiol i oedolion ac yn symud ymlaen i rywbeth llai ffurfiol (o’r enw Gloywi) y flwyddyn nesaf.
Sut mae eich bywyd wedi newid ers i chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Yn fuan iawn, daeth y Gymraeg yn obsesiwn i fi. Er fy mod i’n byw mewn ardal lle does dim llawer o Gymraeg, mae’n bwysig dros ben ceisio dod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. Maen nhw’n tueddu i fod yn brin. Dydy’r iaith ddim i’w chlywed ar y strydoedd. Erbyn hyn dwi wedi trio gwella’r sefyllfa yma drwy fod ar fwrdd ein Menter Iaith leol, Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Fi ydy’r unig ddysgwr ymhlith y pedwar sydd ar y bwrdd a fi ydy’r ysgrifennydd. Dw i hefyd yn cymryd rhan yn y Cynllun: Siarad yng Ngwent sy’n cael ei drefnu’n genedlaethol gan Dysgu Cymraeg. Mae’r cynllun yn paru siaradwyr a dysgwyr fel bod y dysgwr yn gallu sgwrsio’n hawdd. Wnes i’r cynllun fel dysgwr ychydig o flynyddoedd yn ôl; eleni wnes i’r cynllun eto ond fel y siaradwr y tro hwn. Wnes i dderbyn cymaint o gymorth gan gynifer o bobl yn ystod fy nhaith. Dw i’n gwybod bod hi’n swnio’n ‘precious’ ond mae’n beth da trio rhoi rhywbeth yn ôl.
Beth yw eich cyngor i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg?
Dych chi ddim yn mynd i ddysgu Cymraeg dim ond wrth fynd i ddosbarth. Mae’r hyn sy’n digwydd tu allan i’r dosbarth yn bwysicach. Y peth pwysica’ i fi yw ffeindio ffordd i ddatblygu digon o hyder i chi anghofio am wneud camgymeriadau, neu anwybyddu nhw ta beth. Beth sy wir yn bwysig yw bod pobl yn eich deall. Rwy’n gwybod bob tro dw i’n agor fy ngheg dw i’n gwneud camgymeriadau, ym mhob brawddeg, gwall ar ôl gwall ar ôl gwall. Ond rwy’n ffodus bo fi wedi cyrraedd y pwynt lle dyw’r gwallau ddim yn fy mhoeni gormod – er bo fi’n ymwybodol bob tro dw i’n eu gwneud nhw. Mae’n teimlo weithiau fel rhyw fath o brofiad mas o gorff. Dyna beth mae’r Gymraeg yn gallu gwneud, sy’n hyfryd rili os dych chi’n meddwl amdano fe.