Roedd hi’n wythnos gyffrous iawn i ni yma yn y gogledd ddwyrain wrth i ni groesawu’r awdures Bethan Gwanas i Lyfrgell yr Wyddgrug.
Roedd hi wedi dod yno ar gyfer digwyddiad arbennig i ddysgwyr a darllenwyr Cymraeg.
Ar ran llyfrgelloedd Aura (sef gwasanaeth llyfrgelloedd yn Sir y Fflint), ges i’r pleser o gyflwyno Bethan i lyfrgell llawn wynebau hapus a chyffrous. Efo cefndir o silffoedd llyfrau, a phentwr o lyfrau ar ei ochr, roedd yna awyrgylch hyfryd trwy gydol y sesiwn wrth i ni wrando, gofyn cwestiynau, a mwynhau cwmni awdures adnabyddus.
Yn y gynulleidfa roedd cymysg o siaradwyr Cymraeg newydd sy’n dysgu efo Coleg Cambria neu Popeth Cymraeg, a siaradwyr gydol oes o ardaloedd Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych a Lloegr.
Yn llawn bwrlwm, wnaeth Bethan siarad am ei holl lyfrau – o’i nofelau cyntaf, Amdani!, i’w llyfr diweddaraf, Prawf Mot. Mae hi wedi ysgrifennu llyfrau i blant, oedolion ifanc ac oedolion o bob oed, a llawer o deitlau i ddysgwyr Cymraeg yn benodol – fel ei chyfres boblogaidd Blodwen Jones. Soniodd hi hefyd am nofel ar y gweill i ddarllenwyr ifanc, a’i hanturiaethau sydd i ddod wrth iddi deithio i Batagonia.
Trwy’r sesiwn, wnaeth Bethan ychwanegu geiriau newydd neu anghyfarwydd i’r bwrdd gwyn wrth iddi hi sôn ei nofelau a’i gwaith. Wnaeth dipyn o eiriau newydd – i mi o leiaf – godi yn ystod y sesiwn. Y gair ‘hwrdd’, er enghraifft, pan oedd hi’n sôn am ei llyfr Pen Dafad a’r cyfieithiad Saesneg, Ramboy.
Roedd rhaid iddi hi ofyn “beth ydy ‘rude’ yn Gymraeg?”, ac ychwanegu dipyn o awgrymiadau i’r bwrdd gwyn gan ei chynulleidfa. Gwych oedd gweld pawb yn cymryd rhan a chyfrannu syniadau.
Cafodd y noson ei threfnu mewn partneriaeth â Siop y Siswrn: siop annwyl a phoblogaidd sydd reit ynghanol yr Wyddgrug. Roedd Sel ac Anne, perchnogion y siop, yn bresennol efo llawer o lyfrau a dewisiadau gwych ar gael, gan gynnwys dipyn o deitlau gan Bethan. Felly, cyfle gwych i bawb yno i gael copi arbennig efo neges gan yr awdures ei hun.
Wnaeth sawl cwestiwn diddorol godi yn ystod y sesiwn ac roedd hi’n braf i weld pobol yn teimlo’n gyfforddus i godi llaw a chymryd rhan. Cwestiynau fel: “pwy yw’ch hoff awduron?” a “beth yw’ch hoff fath o nofel/stori i sgwennu?”. Wrth gwrs, roedd Bethan yn hapus i ateb pob cwestiwn efo gwên ac esboniad diddorol.
Gan ddod â’r digwyddiad i ben a chyn dweud diolch i Bethan am sesiwn wych, cefais y cyfle i sôn wrth bawb am y tro diwethaf i mi weld Bethan. Yn Llyfrgell yr Wyddgrug unwaith eto ar gyfer digwyddiad arall lle wnaeth Bethan, yn garedig iawn, arwyddo copi o’i nofel Prawf Mot i mi. Wnaeth hi sgwennu “I Francesca, dw i wir yn gobeithio y byddi di’n crio, sori!” Wel, alla’i ddweud fy mod i wedi chwerthin a chrio wrth ddarllen Prawf Mot, fel sawl darllenwr arall mae’n debyg.
Ar ôl clywed Bethan yn sôn am ei holl lyfrau, hoffwn ddarllen Cyfres y Melanai nesaf. Dw i’n gobeithio na fydd y llyfrau hyn yn gwneud i mi grio!
Felly ar y cyfan roedd hi’n noson llawn hwyl yn dysgu mwy am ‘hanas Gwanas’. Cofiwch, mi fedrwch chi ffeindio ei llyfrau mewn siopau llyfrau lleol neu yn eich llyfrgell leol. Mae’n siŵr nad fi yw’r unig un sy’n edrych ymlaen rŵan at ei llyfr nesaf!