Mae menyw sydd wedi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Cymraeg Sir Benfro eleni eisiau annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg.
Roedd Liz Backen wedi ennill y wobr mewn seremoni wythnos ddiwethaf (dydd Sadwrn, Mehefin 18).
Mae Liz yn fam i dri o blant.
Mae hi’n byw wrth ymyl Abergwaun yn Sir Benfro.
Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pum mlynedd.
Mae Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn y sir.
“Mae’r tiwtoriaid yn enwebu dysgwyr o’r holl ddosbarthiadau. Mae’r dysgwyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael cyfweliad efo’r panel. Roedd e’n brofiad gwych a doeddwn i byth wedi disgwyl ennill,” meddai Liz.
Mae Liz wedi diolch i’w thiwtoriaid Gaynor Watts-Lewis a Buddug Harries.
“Maen nhw mor dda ac mor gefnogol. Byswn i ddim yn y sefyllfa yma hebddyn nhw. Dw i’n dysgu Cymraeg achos dw i’n dwli ar yr iaith a’r diwylliant. Dw i ddim yn teimlo fel fy mod i’n gweithio o gwbl, dw i’n cael gymaint o hwyl. Pan oedden nhw wedi dweud ‘chi wedi ennill’ Dysgwr y Flwyddyn ro’n i wedi synnu.”
‘Breuddwyd’
Cafodd Liz ei magu yng Nghernyw. Roedd hi wedi symud i Sir Benfro ar ôl i’w gŵr gael swydd newydd yma. Roedd Liz wedi dechrau dysgu Cymraeg er mwyn helpu ei phlant gyda’i gwaith cartref.
Mae hi’n gweithio rhan amser fel tiwtor yn dysgu Saesneg a sgiliau hanfodol i oedolion. Ym mis Medi fe fydd Liz yn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion hefyd.
“Dw i wrth fy modd a methu credu’r peth. Pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg tua 5 mlynedd yn ôl o’n i ddim wedi meddwl byddai’r iaith yn rhan enfawr o fy mywyd. Dw i methu credu fydda’i yn dysgu’r iaith i eraill ym mis Medi. Mae fel breuddwyd. Mae’n grêt gallu rhannu’r iaith anhygoel yma – mae wedi rhoi cymaint i fi. Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a helpu eraill,” meddai Liz.
Yn ystod y cyfnod clo, roedd Liz hefyd wedi dechrau cyfrif Instagram – Dysgu Cymraeg Wrth Gerdded. Roedd hi’n mynd am dro yng nghefn gwlad gyda’i phlant. Roedden nhw’n gofyn beth oedd enwau’r planhigion a choed yn Gymraeg. Felly roedd Liz wedi penderfynu dechrau cyfrif Instagram er mwyn cofio beth oedden nhw wedi’i weld a’i ddysgu. Roedd hi eisiau rhannu’r enwau gyda dysgwyr eraill.
Nawr, mae Liz eisiau annog mwy o bobol i ddysgu Cymraeg.
“Mae dysgu Cymraeg wedi newid cymaint yn fy mywyd i. Doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Roeddwn i jest eisiau helpu’r plant efo’u gwaith cartref. Mae wedi bod yn fendigedig i fod ar daith fel hyn. Symudon ni yma pan oedd fy mab hynaf yn saith oed a’r mab ieuengaf yn dair oed. Mae’n nhw’n gallu siarad Cymraeg ac mae fy merch fach, sy’n chwech oed, yn rhugl. Cafodd hi ei geni yng Nghymru. Rydan ni’n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, rydyn ni’n gwylio rhaglenni S4C, ac yn darllen llyfrau Cymraeg. Dwi’n hoffi [yr awdures] Caryl Lewis, ac mae’r plant yn darllen Roald Dahl yn Gymraeg.”
‘Dewr’
Y llynedd roedd Liz wedi cystadlu mewn cwis i ddysgwyr Cymraeg ar BBC Radio Cymru.
Ym mis Mai eleni roedd hi wedi ennill Tlws y Dysgwyr yn Eisteddfod Llandudoch.
“Dw i’n hoff iawn o ysgrifennu. Dw i’n teimlo llawer mwy dewr yn ysgrifennu yn y Gymraeg nag ydw i yn Saesneg. Dw i’n cymryd mwy o risgiau yn Gymraeg. Dw i wedi siarad ar bodlediadau ac wedi cymryd rhan mewn cwis ar Radio Cymru. Dw i wedi gwneud eitha’ lot o bethau heriol. Fyswn i byth wedi gwneud y pethau yma yn Saesneg ond yn Gymraeg, dw i’n teimlo, pam lai?
“Dw i wedi cystadlu mewn llawer o eisteddfodau a wnes i gystadlu yng Ngŵyl Fawr Aberteifi y llynedd. Dyma’r tro cyntaf i fi ennill Tlws y Dysgwyr.”
Roedd Liz wedi ysgrifennu cerdd o’r enw ‘Adleisiau’ ar gyfer cystadleuaeth Tlws y Dysgwyr. Mae’r gerdd am hen dŷ, a’r bobl oedd yn arfer byw a gweithio yno. Roedd Liz hefyd wedi ysgrifennu stori fer, ‘Rhywbeth ar y Gweill’. Mae’r stori am hen wraig a’i hwyrion wrth iddyn nhw dyfu fyny. Mae’n dilyn y teulu dros sawl Nadolig.
“Mae ennill Tlws y Dysgwyr wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder. Mae’n bwysig bod pobl yn cymryd y camau bach a mynd ymhellach. Hoffwn i ddweud wrth ddysgwyr eraill ei bod yn gallu bod yn brofiad arbennig o dda. Mae cymaint o bethau hardd yn y diwylliant ac mae dysgu’r iaith wedi agor y drws i’r diwylliant yma. Dw i mor lwcus bo fi wedi dysgu’r iaith ac wedi gallu cymryd rhan mewn byd newydd sbon, a gallu mynd a fy nheulu ar yr un daith,” meddai Liz.
Mi fedrwch chi ddarllen stori Liz Backen, ‘Rhywbeth ar y Gweill’ fan hyn. Mi fydd ei cherdd ‘Adleisiau’ yn cael ei chyhoeddi yn y rhifyn nesaf o lingo newydd…
Rhywbeth ar y Gweill
Roedd Gwen yn gwau yn yr hen gadair, gorchuddiwyd hi bron dan y gwlân syrthiodd lawr at ei thraed yn nentydd lliwgar. Menyw dawel iawn oedd hi, hapus iawn i eistedd yn ei chadair, gyda’i bysedd yn symud, ei hewinau’n taro a’r gweill, a’i theulu o’i chwmpas hi. Roedd yna wastad rhywbeth ar ei gweill: hetiau babanod, sanau bychain ac, ambell waith, rhyw degan bach gwlanog i un o’i wyrion. Roedd sŵn ei gweill yn arfer llenwi’r hen dŷ fel cloc yn tician mewn ryw gornel.
Y flwyddyn honno, fel bob blwyddyn, roedd hi’n bwrw’r Nadolig gyda’i merch Sara, Tomos (gŵr Sara), a’u tri o feibion bach. Nawr, fel eu harfer, roedd y bechgyn yn cweryla, yn uchel, wrth ei thraed.
‘Ro’n i eisiau’r balŵn coch!’ dywedodd Owain.
‘Fy malŵn i yw e!’ atebodd Elis wrth ddal yn dynn arno fe ac edrych ar ei frawd mawr yn grac.
‘Fi’n chwech nawr a fi yw’r henaf, felly dw i’n cael y mwyaf o bob dim!’ atebodd Owain yn syth.
‘Dyw ‘na ddim yn deg,’ cwynodd ei frawd bach Elis.
‘Dw i’n mynd i ddweud wrth Mam!’ udodd Iori, fel gwnaeth e bob tro!
‘Paid â chipio fe Iori! Mae’n mynd i fyrstio…’
Bang!
Roedd saib. Stopiodd y gweill hyd yn oed.
‘Mam!’ udodd Iori.
Cododd Gwen ei phen i edrych dros ei gweill tuag at y drws. Rhuthrodd Sara i mewn i’r lolfa, yn sychu ei dwylo ar ei ffedog.
‘Beth ddigwyddodd tro ‘ma bechgyn?’ gofynnodd hi’n flinedig.
Ail-ddechreuodd y gweill. Roedd Gwen yn gweithio’n galed iawn ar rywbeth streipiog gyda llewys hir. Doedd hi ddim yn mynd i stopio, roedd Nadolig yn dod yn nes. Yn fuan daeth sŵn y gweill o’i chadair freichiau unwaith eto, fel curiad o rywun sy newydd gwblhau marathon.
Wel, mae’r byd yn troi a’r plant yn tyfu. Y Nadolig canlynol, roedd tasg bwysig ‘da Gwen ac roedd hi’n gwenu’n hapus yn ei hen gadair freichiau. Roedd rhywbeth newydd ar ei gweill: siwmperi ysgol i’r bechgyn. Roedd Owain newydd droi yn saith oed ac Elis yn teimlo’n falch iawn i fod yn bump ac yn yr un ysgol â’i frawd mawr. Roedd Gwen yn gweithio’n gyflym yn ôl ei harfer, ei gweill yn clician yn brysur tra oedd yr edau glas tywyll yn gwibio ar draws y gweill. Serch hynny, dyw rhai pethau byth yn newid: roedd y bechgyn yn dal i frwydro, yn rhedeg o gwmpas ei chadair yn bloeddio ac y sgrechian. Tro hwn, roedd e am graceri Nadolig.
Roedd y craceri i gyd yn union yn debyg: sgleiniog ac yn wyrdd, gyda rhubanau coch o’u cwmpas nhw. Yn anffodus, roedd un ohonyn nhw’n drymach na’r lleill. Wel, a dyna oedd y broblem, problem enfawr hefyd! Roedd y ddau fachgen eraill yn credu bod y tegan gorau ynddo a nawr ro’n nhw rhedeg ar ôl Iori yn ceisio i’w ddal e. Roedd yr edau glas yn glynu wrth eu traed ac yn llusgo ar eu holau wrth iddyn nhw rasio heibio’r gadair yn gweiddi nerth eu pen.
Brysiodd Sara o’r gegin, yn gwthio ei gwallt bant ei hwyneb gyda’i bysedd ac yn gadael olion o flawd ynddo.
‘Paid â rhedeg ar ôl Iori fel ‘na! Dim ond tair oed yw e! Dwi ‘di dweud wrthyt ti ganwaith, on’d do i?’
‘Sori mam,’ dywedodd y bechgyn wrth edrych ar eu traed a sylwi am y tro cyntaf roedd ‘na edafedd glas yn glynu wrthyn nhw.
‘Os dych chi eisiau mins peis bois, bydd rhaid i chi ddweud rhywbeth i Mam-gu,’ parhaodd eu mam, yn plethu’i breichiau ac yn edrych arnyn nhw’n llym.
‘Sori Mam-gu,’ dywedon nhw i gyd.
‘Mae’n iawn,’ dywedodd Mam-gu, gyda gwên fach yn ymddangos am eiliad, cyn iddi hi ddiflannu tu ôl ei gweill unwaith eto. Roedd hi’n gweithio ar y goler nawr a ro’n nhw wastad yn anodd. Aeth hi’n ôl at gyfri ei phwythau, ei bysedd yn symud ar hyd y gweill yn gyflym.
***********************************************************************
Symudodd y gweill yn fwy araf y Nadolig hwnnw. Roedd e’n anodd iddi hi weld y pwythau gwyn yn glir ac yn bendant roedd e’n anoddach i ddal y gweill. Roedd ei dwylo’n crynu ychydig pan oedd hi’n gwau yn ei chadair y dyddiau ‘ma. Ochneidiodd hi ond wnaeth hi ddim stopio; roedd pwythau dal i gyfri a phethau dal i wneud. Roedd hi’n benderfynol o orffen cyn mis Rhagfyr fel gallai’r bechgyn gael eu hanrhegion. Gydag ychydig o lwc, basai hi’n cwblhau ei gwaith mewn amser. Wrth iddi hi wau, roedd hi’n meddwl am un Nadolig yn benodol, amser maith yn ôl nawr, yr un gyda’r hosanau. Hosan wen Elis oedd hi a gallai Gwen weld o hyd eu hwynebau pan oedd y ddau fachgen eraill yn sylweddoli bod yr hosan wedi cael ei rwygo, a chlywed sŵn Tom a Sara’n rhuthro tuag at y lolfa.
Pryd hynny, roedd Iori dal yn ifanc, tua phump oed ac roedd e wedi bod yn chwarae rhan y cawr o Jac a’r Goeden Ffa, gan wisgo’r hosanau Nadolig fel sanau ac yn gweiddi, ‘Ffi, Ffai, Ffo, Ffwm!’ wrth glocsio o gwmpas y lolfa yn chwilio am Owain. Roedd Iori bach yn frwdfrydig iawn ac mewn dim o dro roedd e wedi rhwygo’r pwythau yn hosan Elis. Wel, doedd hynny ddim wedi digwydd yn y pantomeim welodd e jyst cyn Nadolig, felly yn syth dechreuodd Iori grio a bloeddiodd Elis tra bod Owain yn sefyll wrth y drws yn edrych yn euog. Gwnaeth e gymryd Sara a Tomos ymdrech enfawr i dawelu’r bechgyn ond cyn bo hir ro’n nhw’n chwarae gyda’i gilydd ymhlith y papur lapio. Chwarddodd Gwen dan ei hanadl a siglodd ei phen. Gwenodd hi ac, er bod ei bysedd yn brifo, roedd y gweill yn ailddechrau unwaith eto, curiad tawel y tŷ.
Roedd tŷ Sara’n edrych yn union fel gwnaeth e bob Nadolig, gyda’r addurniadau ym mhob twll a chornel a’r un un goeden Nadolig. Roedd un gwahaniaeth enfawr: roedd e mor od i weld cadair wag Mam-gu. Rhoddodd Sara’r anrhegion dan y goeden, wrth feddwl am ba mor dawel basai ei thŷ eleni heb sŵn y gweill. Roedd ei mab hynaf yn tynnu at ei arddegau nawr felly roedd llawer o focsiau dan y goeden yn fach ac yn sgwâr ac yn llawn teclynnau siŵr o fod. Ond, roedd anrhegion Mam-gu’n hollol wahanol. Ro’n nhw wedi cael eu lapio’n ofalus, mewn papur aur oedd yn pefrio dan y golau Nadolig.
Daeth ei meibion i mewn i’r lolfa ar garlam. Ceision nhw beidio edrych ar y gadair wag ac aethon nhw’n syth at y goeden. Roedd distawrwydd cyflawn yn y tŷ tra bod y bechgyn yn agor anrhegion olaf Mam-gu. Tu fewn i bob un roedd tri addurn bach gwlanog: un hosan wen, un gracer Nadolig gwyrdd gyda rhuban coch o’i gwmpas, ac un balŵn crwn, coch. Gwenodd Sara ar unwaith.
‘Doedd mamgu ddim yn dweud llawer ond gwelodd hi bopeth!’ chwarddodd Sara.
‘A deallodd hi’r cyfan,’ ychwanegodd ei mab hynaf.
Eisteddodd Sara yn y gadair freichiau i edrych ar y bechgyn yn rhoi’r addurniadau ar y goeden. Cododd hi’r hen weill a dechreuodd hi wau’r gwlân meddal, pinc.
Roedd rhywbeth ar y gweill, rhywbeth gwahanol, rhywbeth newydd.