Y penwythnos diwethaf, mi es i Ardd Bodnant yn Sir Conwy am y tro cyntaf. I’r rhai ohonoch chi sydd efallai ddim wedi clywed yr enw o’r blaen, mae’n “ardd fyd enwog”, yn ôl y wefan.

Mae’n gartref i flodau a phlanhigion o bob math, ac adeiladau hanesyddol. Felly lleoliad bach hyfryd i unrhyw un sy’n caru byd natur. Mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau yn ystod pob tymor o’r flwyddyn.

Mae’r hydref yn bendant ar ei ffordd, neu efallai wedi cyrraedd yn barod, a finnau’n berson haf. Felly, dw i’n trio gwneud y mwyaf o belydrau’r haul cyn iddyn nhw ddiflannu. Roedden ni’n lwcus, roedd hi’n ddiwrnod braf a heulog: cyfle perffaith i fwynhau’r golygfeydd a’r ardd yn eu gogoniant.

Ges i fy synnu wrth gerdded o un ochr o’r ardd i’r llall: mae cymaint i weld yna a hanes i ddarganfod. I fi, mae’n teimlo mwy fel casgliad o erddi bach yn lle un ardd fawr. O’r tŷ cychod a’r llyn i’r hen felin, roeddwn i isio gweld dipyn bach o bob dim. Roeddwn i hefyd yn safio ychydig bach o amser i ymweld â’r siop yn y gobaith o ffeindio planhigyn del i ychwanegu at fy nghasgliad.

Amrywiaeth o liwiau llachar oedd un o’r pethau sylweddolais yn syth. Piws, melyn, oren a gwyrdd. Roedd coed, blodau a phlanhigion prydferth gan gynnwys rhai o ffefrynnau fi fel delia, lafant, rhosys, a choed helygac acer.

Gardd Bodnant
Bwa’r Tresi Aur yng Ngardd Bodnant

Bwa’r Tresi Aur

Fy hoff ran o’r ardd oedd Bwa’r Tresi Aur enwog a’r terasau sydd, mae’n debyg, mewn steil Eidalaidd. Unrhyw gyfle i ddod â Chymru a’r Eidal at ei gilydd a dw i’n hapus!

Roedd yna ddigon o le i’r planhigion dyfu’n naturiol ac roeddwn i’n licio’r darnau bach mwy gwyllt, hefyd: nid oedd popeth yn daclus. Roedd yna drefn, wrth gwrs, ond mae’n amlwg bod popeth yn tyfu neu wedi cael ei blannu i dyfu’n naturiol.

Cyn mynd adra, roedd yna amser i bicio i Gonwy a mynd am dro ar hyd waliau’r castell. Ar ôl yr holl gerdded, roeddwn i’n haeddu botel neu ddwy o Largo – fy hoff gwrw – ar ôl Birra Moretti.

Blodau Cymru – llyfr Goronwy Wynne

Enwau blodau

Roeddwn i isio mynd â fy llyfr Blodau Cymru: byd y planhigion gan Goronwy Wynne efo fi i ardd Bodnant. Llyfr i drysori yw Blodau Cymru. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n anobeithiol efo enwau blodau yn Gymraeg. Felly roedd y llyfr yn anrheg hyfryd i fy helpu i ddysgu enwau a thermau sy’n ymwneud a’r byd natur. Efo dros 550 o dudalennau a’r ffaith fod y llyfr yn glawr caled, nes i benderfynu peidio mynd a’r llyfr efo fi. Bach rhy drwm yn anffodus, ond mi alla’i sbïo trwy’r lluniau a darllen mwy am fyd natur pan dw i adra o leiaf.

Does genna’i ddim profiad garddio o gwbl. Mae fy chwaer, ar y llaw arall, yn arddwr gwych. Mae hi’n gwybod enwau pob un blodyn neu blanhigyn ac yn angerddol iawn am fyd natur. Mae ei hangerdd hi yn heintus, ac mae hi’n pasio’r wybodaeth ymlaen at ei phlant. Mi fydd hi’n hapus, gobeithio, i wybod bod ei chwaer fach hefyd wedi cael ei hysbrydoli ar ôl trip i Ardd Bodnant.

Er fy mod i’n drist i ffarwelio â misoedd yr haf wrth i’r hydref agosáu, dw i hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle dw i wedi cael i fwynhau diwrnod braf yng Ngardd Bodnant. Dw i rŵan yn dallt pam bod yr ardd yn “fyd enwog” – am le hyfryd! Hefyd, mae genna’i awch i fynd ati i ddysgu geirfa newydd efo help Blodau Cymru a’i gannoedd o dudalennau – dymunwch bob lwc i fi!