Tua phedair blynedd yn ôl, mi wnes i ddechrau swydd efo’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn Sir y Fflint. Cyn hynny, roeddwn i’n byw ym Mangor ac yn astudio Llenyddiaeth Saesneg. Un o’r pethau gorau am astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mangor, yn fy marn i, oedd faint o ddewis oedd ar gael o ran modiwlau. O lenyddiaeth Arthuraidd a Chanoloesol i lenyddiaeth gyfoes: roedd cymaint o ddewis!
Un o’r modiwlau roeddwn i’n mwynhau mwyaf oedd “Welsh Writing in English”: modiwl sy’n cynnwys awduron hanesyddol a chyfoes, efallai o Gymru neu’n ysgrifennu am Gymru. Dyma le wnes i ddarganfod llawer o leisiau sydd wedi gadael argraff fawr arna i – pobl fel Lynette Roberts, R.S Thomas a Gwyneth Lewis. A dyma le wnes i ddod ar draws awduron adnabyddus fel Caradog Pritchard a Kate Roberts am y tro cyntaf.
Gadawais y brifysgol efo rhestr fach o awduron a llyfrau roeddwn i isio darllen, yn Gymraeg a Saesneg. Un llais ar y rhestr oedd Daniel Owen: un o’r awduron mwyaf dylanwadolyn y byd llenyddol Cymraeg. Digwydd bod, roeddwn i’n symud yn ôl i’r Wyddgrug, y dref lle ces i fy magu a’r dref lle cafodd Daniel Owen ei eni a’i fagu.
Felly un o’r pethau cyntaf wnes i pan ddechreuais fy swydd efo’r gwasanaeth llyfrgelloedd oedd benthyg copi o Straeon y Pentan gan Daniel Owen. Teimlais yn hapus yn gwybod mai llyfr Daniel Owen oedd y llyfr cyntaf i mi fenthyg efo fy ngherdyn llyfrgell newydd.
Cyn dod o hyd i gopi cyfoes i fenthyg, wnaeth y llyfrgellydd ddangos copïau hanesyddol o waith yr awdur sy’n cael eu cadw yn yr archif. Mae gennym ni amgueddfa yn Llyfrgell yr Wyddgrug sydd yn arddangos dipyn o hanes Daniel Owen, ac yn dangos balchder y dre.
Mae’r dyfyniad enwog, “nid i’r doeth a’r deallus yr ysgrifennais ond i’r dyn cyffredin”, yn un eiconig iawn i unrhyw un sy’n gyfarwydd efo gwaith Daniel Owen. Mae hefyd wedi cael ei nodi ar gerflun ohono tu allan i’r llyfrgell. Am ryw reswm, dw i ddim yn cofio dysgu amdano fo yn yr ysgol, ond dw i yn cofio mynd i’r llyfrgell yn aml efo fy Mam fel plentyn a cherdded heibio’r cerflun: ei bresenoldeb wastad o gwmpas y llyfrgell a’r dre i gyd.
Er fy mod i bellach wedi symud o Sir y Fflint, dw i dal yn hoff iawn o’r llyfrgell yn yr Wyddgrug. Dw i hefyd yn ffodus i arwain sesiynau o’r enw Ffrindiau Darllen ar ran y llyfrgelloedd. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal ar-lein neu yn y llyfrgell ei hun ac yn canolbwyntio ar thema wahanol bob mis. Dw i wrth fy modd yn rhedeg y sesiynau a’r cyfle i sgwrsio efo ffrindiau am y llyfrau yn ein bywydau.
Rhywle yn yr holl gyffro wrth i mi baratoi ar gyfer y sesiwn diwethaf, anghofiais ddod â goriad y llyfrgell. Yn lwcus, roedd pawb yn hapus iawn i gael y sesiwn yn nhafarn y Pentan sydd rownd y gornel o’r llyfrgell. Y dafarn yw’r hen siop deiliwr lle wnaeth Daniel Owen ysgrifennu ei nofelau, yn ôl y sôn. Wrth gwrs, mae enw’r dafarn hefyd wedi cael ei ysbrydoli gan yr awdur, ac roedd yna lun ohono fo ar y wal yn sbïo lawr arnom ni.
Wrth feddwl am y llun ar fy ffordd adra, wnes i gofio am Ŵyl Daniel Owen sy’n digwydd bob blwyddyn yn yr Wyddgrug o gwmpas pen-blwydd ei eni a’i farwolaeth. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 15-22 Hydref 2022 efo rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau: rhywbeth at ddant pawb.
Mae genna’i ychydig o amser i ail ymweld â Straeon y Pentan cyn yr Ŵyl, ac un neu ddau o’i lyfrau nad ydw i wedi eu darllen eto. Felly, i’r rhai ohonoch chi sydd yn licio Daniel Owen neu isio darganfod a dysgu mwy amdano, dewch i’r Wyddgrug eleni i gymryd rhan yn y dathliadau! Ewch i’r wefan i gael blas o beth i’w ddisgwyl: www.danielowenfestival.com/cy
Ac wrth sôn am ddigwyddiadau llenyddol yn y gogledd ddwyrain, mi fydd llyfrgell yr Wyddgrug yn cynnal digwyddiad arbennig – am ddim – efo Bethan Gwanas ar nos Fercher 12 Hydref am 7pm. Mi fydd hi’n noson hwyliog yng nghwmni’r awdures ac ar gyfer dysgwyr a siaradwyr newydd. Mi fydd croeso cynnes i bawb!