Mae Ebrill 14 yn Ddiwrnod Cenedlaethol Bara Lawr.
Mae Jonathan Williams yn berchen y Pembrokeshire Beach Food Company yn Sir Benfro.
Mae e eisiau i bobl ddathlu bara lawr a bwyta mwy o’r gwymon.
Dych chi wedi trio bara lawr? Oeddech chi’n hoffi’r blas? Dyw e ddim yn edrych yn flasus iawn ond mae’n dda iawn i chi.
Mae bwyta bara lawr yn rhan o draddodiad Cymru.
Roedd glowyr yn arfer bwyta bara lawr i frecwast cyn mynd i’r pyllau glo.
Roedd yn cael ei fwyta gan lawer o bobol, yn enwedig yn ardal Abertawe.
Roedd yn cael ei fwyta gyda bacwn ac ŵy, ac weithiau cocos.
Ond erbyn y 1970au roedd llai o bobl yn bwyta bara lawr. Roedd bwydydd parod yn fwy poblogaidd.
Mae Jonathan Williams eisiau cael mwy o bobol i drio bara lawr.
“Mae pobl yn edrych ar bara lawr ac yn meddwl, ‘na, dw i ddim eisiau trio hwnna.’ Dydy e ddim yn edrych yn flasus iawn. Ond dw i eisiau i bobl rhoi tro arno a gweld y gwahanol ffyrdd gallwch chi ei ddefnyddio,” meddai.
“Dyw e ddim jest yn rhywbeth i’w fwyta i frecwast, mi fedrwch chi ei gynnwys mewn pob math o bethau.”
Mae e eisiau i gogyddion, bwytai, blogwyr, busnesau bwyd, delis, siopau a thafarndai ddathlu bara lawr.
“Dw i eisiau i bobl o bob rhan o’r byd, nid jest yng Nghymru, i ddod i wybod am bara lawr a pha mor arbennig mae’n gallu bod,” meddai.
Mae Jonathan yn casglu’r lafwr – y gwymon sy’n cael ei ddefnyddio i wneud bara lawr – ei hun; wedyn, mae’r lafwr yn cael ei goginio am tua 10 awr a’i brosesu mewn uned yn Noc Penfro.
I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr ddydd Iau, Ebrill 14, fe fydd yn rhoi samplau o fwyd sy’n cynnwys bara lawr i bobol sy’n dod i dafarn yr Old Point House yn Angle, Sir Benfro.
Bydd e hefyd yn cynnal cystadleuaeth bwyta bara lawr.
Dyma Jonathan
Roedd Jonathan Williams wedi dechrau’r Pembrokeshire Beach Food Company yn 2010.
Mae Jonathan yn gwerthu pob math o fwydydd sydd wedi cael eu gwneud gyda gwymon, a rỳm sydd wedi cael ei wneud efo gwymon, Rym Barti.
Mae e wedi bod â diddordeb mewn gwymon ers oedd e’n blentyn.
Mae e hefyd wedi bod yn rhedeg Cafe Môr ar draeth Freshwater West yn Sir Benfro.
Mae e wedi ennill llawer o wobrau am ei fwyd.
Bydd Cafe Môr yn symud o draeth Freshwater West i Angle yn Sir Benfro.
Mae Jonathan wedi bod yn gwneud llawer o waith ar hen dafarn yr Old Point House yn Angle a bydd e’n ail-agor ym mis Mehefin fel bwyty a bar.
Bydd Cafe Môr yn agor wrth ymyl y dafarn.
Hanes bara lawr
Mae pobol wedi bwyta bara lawr ers canrifoedd.
Mae Gerallt Gymro yn sôn am fara lawr yn y 12fed ganrif.
Yn y 19eg ganrif, roedd pobol yn bwyta bara lawr bob dydd, yn enwedig yn ardal Abertawe.
Roedd glowyr yn bwyta bara lawr i frecwast cyn mynd i’r pyllau glo.
Mae bara lawr yn dechrau tyfu yn y gwanwyn.
Mae Ebrill 14 yn ddiwrnod arbennig yn Siapan. Maen nhw’n cynnal diwrnod “Mother of the Sea” i ddathlu gwymon.
Dyma’r enw wnaeth Siapan roi i Kathleen Mary Drew-Baker.
Roedd hi wedi gwneud llawer o waith ymchwil i lafwr yn y 1950au.
Roedd y gwaith yma wedi helpu’r diwydiant gwymon Nori yn Siapan.
Maen nhw’n defnyddio Nori i wneud sushi.
Geirfa
Bara lawr – laverbread
Gwymon – seaweed
Lafwr – laver
Cocos – cockles
Bwydydd parod – ready meals
Canrifoedd – centuries
Gwaith ymchwil – research
Rysáit
Cyri pwmpen cnau menyn, bara lawr a choconyt
Cynhwysion – digon i 4
150g o flodfresych wedi gratio
1 llwy fwrdd o olew coconyt
1 pwmpen cnau menyn wedi’i deisio
1 winwn coch wedi’i deisio
1 tsili coch wedi’i deisio
4 clof garlleg wedi’u deisio
1 modfedd o sinsir wedi’i deisio
2 llwy fwrdd o bâst cyri
1 tun o laeth coconyt
150ml o stoc llysiau
4 tomato mawr, wedi’u torri
120g o fara lawr
3 llwy fwrdd o iogwrt Groegaidd heb fraster
Llond llaw fach o goriander, wedi torri
Llond llaw fawr o sbigoglys, wedi torri
Halen a phupur
Dull
Cynheswch yr olew mewn padell fawr dros wres canolig.
Ychwanegwch y winwns a’u coginio nes eu bod wedi carameleiddio.
Ychwanegwch y sinsir, tsili, garlleg a phwmpen cnau menyn. Gadewch iddo oeri ychydig am tua 5 munud.
Ychwanegwch y pâst cyri, stoc, tomatos, bara lawr a llaeth coconyt a’i fudferwi am 10 munud nes bod y saws wedi tewhau.
Ychwanegwch y blodfresych wedi gratio a’i fudferwi am 2 funud arall. Rhowch halen a phupur i flasu.
Gweiniwch yn gynnes gyda siytni mango a naan.
Geirfa’r rysáit
Pwmpen cnau menyn – butternut squash
Blodfresych – cauliflower
Olew coconyt – coconut oil
Sinsir – ginger
Heb fraster – fat freeSbigoglys – spinach
Gwres canolig – medium heat
Mudferwi – simmer
Tewhau – thickened