“Beth oedd y Bumed Gainc? Yr unig ‘geinciau’ oeddwn i’n gwybod amdanyn nhw oedd y rhai yn y Mabinogi. Pedair Cainc mae pawb yn gwybod amdanyn nhw, wrth gwrs: straeon Pwyll, Branwen, Manawydan a Math…ond pedair Cainc sydd yna, ynde, meddaf i wrthof fy hun. Dim ond pedair.”
Fel arfer, mi fydda i’n trio darllen un neu ddau lyfr arswyd neu frawychus o gwmpas Calan Gaeaf, yn ogystal â gwylio fy hoff ffilm hydrefol sef Sleepy Hollow. I fod yn onest, dw i ddim yn hoff iawn o ffilmiau arswyd – ond am ryw reswm, dw i’n mwynhau darllen llyfrau arswyd neu straeon ysbryd. Yn enwedig straeon fel The Woman in Black gan Susan Hill neu straeon gan Henry James, Angela Carter a Dylan Thomas.
Llyfr sbwci sydd wedi bod ar fy rhestr ddarllen ers iddo gael ei gyhoeddi nôl ym mis Ebrill yw Pumed Gainc y Mabinogi gan Peredur Glyn: llyfr addas iawn i’w ddarllen o gwmpas Calan Gaeaf. Digwydd bod, ffeindiais i gopi yn y llyfrgell tua phythefnos yn ôl. Fel dw i wedi dweud o’r blaen yn fy ngholofnau, dw i’n credu bod llyfrau yn dod i mewn i’n bywydau ni weithiau yn union pan rydyn ni eu hangen, a dyma beth roeddwn i’n meddwl wrth gerdded allan o’r llyfrgell efo copi o Pumed Gainc y Mabinogi.
Cyn i fi ddechrau sôn am y llyfr ei hun, mae genna’i gyfaddefiad. Dw i ddim wedi darllen straeon y Mabinogi o’r blaen. Dw i’n gwybod, dw i’n gwybod: y straeon mwyaf enwog a thraddodiadol yn y Gymraeg! Fedrai’m galw fy hun yn llyfrbryf heb eu darllen, ond mae wedi bod ar fy rhestr ddarllen ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg tua 10 mlynedd yn ôl. Felly, roeddwn i’n dechrau Pumed Gainc y Mabinogi yn y gobaith o ddysgu mwy am y Mabinogi yn gyffredinol.
Dw i bellach tua hanner ffordd trwy’r llyfr ac yn mwynhau’n fawr iawn. Casgliad o straeon arswyd yw Pumed Gainc y Mabinogi mewn gwirionedd, felly fedrwch chi ddarllen ambell stori neu un ar y tro.
Mae’n dechrau efo rhagair gan yr awdur sy’n gosod tôn brawychus mewn ffordd berffaith efo rhybudd bach i’r darllenwr: “Darn wrth ddarn, efallai y gallwch chi ddarganfod beth ydy’r Pumed Gainc a pham ei bod mor beryglus – a datrys cyfrinachau eraill. Ydych chi’n meiddio darllen ymlaen…?”
Roeddwn i’n bryderus am wynebu hen Gymraeg yn y llyfr, neu eirfa anghyfarwydd i mi, ond mae’r awdur wedi creu dogfen ddefnyddiol i helpu efo hynny ac efo darllenwyr sydd wrthi’n dysgu Cymraeg mewn golwg. Mae’n help llaw berffaith ac ar gael yma.
Wrth ddarllen, dw i hefyd wedi dysgu llawer o eiriau newydd fel ‘blith draphlith’ a ‘di-ben-draw’, ac ambell un sy’n ymwneud â phethau arswyd fel “meddiannu”, “annynol” ac “angenfilod”.
Darllenais stori o’r enw ‘Yr Alaw’ noson o’r blaen. Roedd hi’n noson stormus, efo sŵn y gwynt a’r dail ar y coed tu allan yn crynu ac yn ysgwyd y ffenestri. Felly awyrgylch perffaith i ddarllen stori am alaw sy’n “anghynnes” ac “annisgrifiadwy”.
Wna’i ddim dweud mwy am y stori, neu am y straeon eraill o fewn tudalennau Pumed Gainc y Mabinogi. Os dach chi isio gwybod mwy, bydd rhaid i chi gael copi o’ch siop lyfrau lleol neu’ch llyfrgell. Ond dim ond os dach chi’n ddigon dewr i feiddio darllen!