Mae Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych wedi cyhoeddi enillwyr Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones eleni.
Josh Osborne o Poole sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr. Anna Ng o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal Bobi Jones.
Roedd y ddau wedi cael eu medalau mewn seremoni heddiw (dydd Mawrth, 31 Mai). Roedden nhw wedi gorfod gwneud llawer o dasgau ar faes yr Eisteddfod yn ystod y dydd. Roedd hyn yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda Llywydd y Dydd, Robat Arwyn a chyfweliad gyda beirniad y gystadleuaeth.
Mae cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yn cael ei roi i unigolyn 19-25 oed sydd wedi dysgu Cymraeg. Mae Medal Bobi Jones ar gyfer dysgwyr ifanc (Bl.10 – 19 oed).
Mae’n cael ei roi i berson sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd, mewn ysgol, coleg neu waith ac yn gymdeithasol. Maen nhw hefyd yn dangos sut maen nhw’n annog pobol eraill i ddysgu Cymraeg.
Mae enillydd Medal y Dysgwyr, Josh, 24 oed, yn dod o Poole (Dorset, de-orllewin Lloegr) yn wreiddiol. Mae e bellach yn byw yn Abertawe. Fo yw’r unig berson o’i deulu sy’n siarad Cymraeg. Mae wedi diolch i’w gariad Angharad am ei ysbrydoli i ddechau dysgu’r iaith tua dwy flynedd yn ôl.
Meddai Josh: “Dw i’n dysgu Cymraeg ers tua dwy flynedd bellach, ers i Angharad yrru dolen ata’i i gwrs dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg. Mae fy niolch yn fawr i dri thiwtor, Helen Prosser, Angharad Devonald a Maldwyn Pate – diolch iddyn nhw, dw i’n gwneud yr arholiad uwch blwyddyn yma, ac yn medru edrych ymlaen at gael cymdeithasu a dod i adnabod mwy a mwy o bobol sy’n siarad Cymraeg.”
Beirniad Medal y Dysgwyr oedd Nerys Ann Roberts a Geraint Wilson Price. Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei rhoi gan Glwb Rotari Dinbych. Roedd y seremoni wedi’i noddi gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae enillydd Medal Bobi Jones, Anna Ng, yn 18 oed ac yn mynd i Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae hi’n astudio Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg ar gyfer ei Lefelau A. Mae’n gobeithio dilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae ei thad yn dod o Tseina a’i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna’r Alban. Mae mam Anna hefyd wedi dysgu’r Gymraeg. Mae ei mam yn ddall ac wedi dysgu’r Gymraeg drwy gyfrwng Braille.
Y ddwy gystadleuydd arall a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones oedd dwy ffrind o Ferthyr Tudful, Millie-Rae Hughes (ail) a Deryn-Bach Allen-Dyer (trydydd). Beirniaid y gystadleuaeth oedd Siân Vaughan a Stephen Mason.
Mae seremoni a Medal Bobi Jones yn cael eu noddi gan Brifysgol Caerdydd.