Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i’n lwcus i brynu tocyn i fynd i weld un o fy hoff artistiaid yn y byd – Bob Dylan. Dw i wedi ei weld o’r blaen, nol yn 2019 yn Llundain. Ond y tro yma, roeddwn i hyd yn oed yn fwy cyffrous, yn meddwl am weld Bob Dylan yng Nghaerdydd.
Wnaeth o berfformio caneuon o’i albwm campus, Rough and Rowdy Ways, a rhai traciau eraill fel ‘To Be Alone With You’ o’i albwm Nashville Skyline o 1969. Ond wrth gwrs, yn steil nodweddiadol Bob Dylan, roedd pob cân yn swnio’n hollol wahanol i’r fersiynau sydd ar yr albwm, efo trefn a sŵn unigryw.
Dw i licio ei albymau byw neu ‘bootleg’ yn fawr iawn oherwydd eu bod nhw’n arbrofol ac yn chwarae o gwmpas efo’r drefn a geiriau. Yn yr wythnosau cyn y sioe, roeddwn i wedi bod yn gwrando ar fy hoff albymau byw ganddo fo ac albymau fel Highway 61 a Blonde on Blonde, a Rough and Rowdy Ways wrth gwrs.
Dw i’n ffan eithaf ystrydebol gan fy mod i’n caru ei gerddoriaeth o’r chwedegau a’r saithdegau orau. Ond roeddwn i’n edrych ymlaen cymaint at glywed caneuon o Rough and Rowdy Ways, yn enwedig ‘I Contain Multitudes’ – fy hoff gân ar yr albwm – a ‘Key West’.
Mi wnes i fwynhau pob eiliad o’r sioe, ond un peth sy’n aros yn y cof yw’r gân olaf, pan wnaeth o chwarae’r harmonica: rhywbeth doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fo wneud.
Cyn y sioe, wnes i fynd heibio galeri celf oedd yn dangos paentiadau gan Bob Dylan ac yn chwarae rhai o’i ganeuon mwyaf adnabyddus. Mae genna’i lyfr o’i baentiadau adra a doeddwn i ddim isio colli’r cyfle i weld nhw go iawn. Efo awr i fynd cyn bod y drysau’n agor, roedd yna ddigon o amser i edrych ar y paentiadau i gyd, yn breuddwydio am y syniad o gael un fy hun ar y wal yn fy ystafell fyw un diwrnod. Alla’i ddim ond breuddwydio!
Mae Bob Dylan wedi cael ei chwarae ar Radio Cymru tipyn o weithiau dros y misoedd diwethaf, ac yn enwedig ar sioe Rhys Mwyn. Y tro yma, roedd Gwyneth Glyn yn cadw cwmni i Rhys ar ei sioe ac yn sôn am ei chariad ac edmygedd tuag at y canwr chwedlonol.
Anaml iawn dw i’n colli rhaglen Rhys Mwyn ar nos Lun ond y tro yma, roeddwn i’n safio gwrando ar y rhaglen tan y siwrne nol i ogledd Cymru. Agorodd y sioe efo fersiwn Bob Dylan o gân draddodiadol gwerin, ‘Bells of Rhymney’. Penderfyniad call i safio’r rhaglen tan ar ôl gweld Bob Dylan, meddwn i, yn clywed ‘the green bells of Cardiff’ wrth yrru trwy’r ddinas.
Hefyd ar y sioe roedd fersiwn byw o’r gân ‘Dark Eyes’ efo Patti Smith, artist arall dw i’n caru. Dw i wedi gweld clipiau YouTube ond byth wedi ei chlywed ar y radio. Felly roeddwn ar ben y byd yn gwrando ar sioe Radio Cymru ar y ffordd adra: am ffordd berffaith i gloi wythnos fach gyffrous!