Dach chi wedi bod yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru? Maen nhw wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958. Mae’r tîm wedi teithio i Qatar ar gyfer y gemau. Dach chi am wylio’r gemau? Dach chi eisiau canu caneuon Cymraeg yn ystod Cwpan y Byd? Dyma gyfle i chi ddysgu rhai caneuon poblogaidd.
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn cynnal digwyddiad Cwpan y Byd ddydd Gwener (18 Tachwedd) am 9:45yb yn Ysgol Pen Barras, Rhuthun. Maen nhw’n apelio ar ddysgwyr i ddod i’r digwyddiad.
Mae Mentrau Iaith Cymru wedi cynhyrchu llyfryn llawn caneuon i’w canu yn ystod Cwpan y Byd.
Mi fyddwch chi’n gallu cael copi o’r llyfrau Codi Canu yn Ysgol Pen Barras ddydd Gwener. Mae geiriau’r caneuon yn ‘ffoneteg’ hefyd, felly mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer pob lefel.
Gwion Tomos-Jones ydy Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Sir Ddinbych. Yma mae o’n ateb cwestiynau Lingo360…
Beth yw pwrpas y digwyddiad yn Ysgol Pen Barras, Rhuthun?
Y syniad ydi rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gymdeithasu hefo dysgwyr. Mae siaradwyr newydd yn angerddol iawn am yr iaith. Maen nhw wedi penderfynu eu bod nhw isio dysgu’r iaith ac yn gweld ei gwerth. Mae trosglwyddo’r neges yna’n bwysig iawn ac yn ysbrydoli plant.
Mae’r profiad o fynd i ysgol Gymraeg yn un gwych i ddysgwyr hefyd. Maen nhw’n gallu clywed yr iaith yn cael ei siarad yn gymdeithasol ymysg y plant. Mae hynny’n siŵr o ysbrydoli nhw hefyd. Ar y diwrnod ei hun, mi fyddwn ni’n canu yn defnyddio’r llyfryn mae Mentrau Iaith Cymru wedi cynhyrchu wrth i Gymru chwarae yng Nghwpan y Byd. Mae hyn yn gyfle i ni ddathlu’r iaith.
Pam dach chi’n awyddus i gael dysgwyr i ymuno yn y digwyddiad?
Mae pontio rhwng y gymuned a phlant ysgol yn bwysig. Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn trio gwneud hynny gymaint â phosib gyda phrosiectau a gweithgareddau yn y Sir.
Mae cael siaradwyr Cymraeg newydd yn dod a safbwynt a phrofiadau hollol wahanol i’r plant. Mae cael clywed pam bod siaradwyr newydd eisiau dysgu Cymraeg yn gwneud i blant werthfawrogi’r sgil hanfodol sydd ganddyn nhw.
Beth fedrwch chi ddweud am y llyfryn Mae’n Wlad i Mi? A sut mae’n helpu dysgwyr?
Mae’r llyfryn yn adnodd arbennig i ni fel Menter Iaith. Mae’n caniatáu ni i gynnal gweithdai cymdeithasol Gymraeg mewn tafarn neu leoliad cymunedol yn hwylus iawn. Mae’r tudalen ‘ffonetig’ yn helpu dysgwyr o bob lefel. Mi fyddwn ni’n defnyddio’r llyfrau eto mewn digwyddiad yng Ngwyl Tŷ Gwyrdd Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd yn Ninbych.
Pam dach chi’n meddwl ei fod yn bwysig bod dysgwyr yn ymfalchio yn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru?
Mae cael tîm yn cynrychioli ni yn y twrnamaint mwyaf poblogaidd ar wyneb y ddaear yn gyfle i ni ymfalchïo yn llwyddiant y tîm, ein diwylliant ac ein hiaith. Mae Undeb Pêl Droed Cymru wedi trio dod a’r iaith yn rhan hanfodol o ddiwylliant y tîm, ac mae hynny’n rhoi cyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r iaith.
https://mentrauiaith.cymru/gorau-canu-cyd-ganu-canu-cymunedol/
Os dach chi eisiau mynd i’r digwyddiad yn Ysgol Pen Barras, Rhuthun anfonwch ebost at Gwion: gwion@misirddinbych.cymru