Mae Wrecsam wedi cael Statws Dinas fel rhan o’r dathliadau ar gyfer y Jiwbilî.

Mae Wrecsam yn un o wyth lle yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael y statws.

Mae Saith Seren yn dafarn sy’n ganolfan Gymraeg yn Wrecsam. Y cadeirydd ydy Chris Evans.

Mae o’n dweud bod cael Statws Dinas yn newyddion da i Wrecsam.

“Dw i’n meddwl bydd yn rhoi hwb i bobl Wrecsam,” meddai.

“Mae ennill Statws Dinas yn dangos y gwaith da sydd wedi cael ei wneud gan lawer o bobol i wella Wrecsam.

“Mae’n dangos ei bod yn lle da i fyw, a bydd yn denu buddsoddiad gan gwmnïau, a phobol i ddod yma i fyw.”

‘Amser anodd’

Mae Chris Evans yn dweud bod Wrecsam wedi cael “amser anodd” dros y 15 mlynedd diwethaf.

“Roedd siopau’n cau, y Clwb Pêl-droed wedi disgyn o Gynghrair Lloegr, a phobol wedi colli eu gwaith,” meddai.

“Roedd bron iawn i Saith Seren gau yn 2015 hefyd.

“Ond mae pethau wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf. Mae yna hyder newydd ac ysbryd positif yma.

“Roedd Canolfan Gelfyddydau Tŷ Pawb wedi agor yn 2018, ac mae llawer o’r adeiladau gwag wedi eu llenwi.

“Mae gŵyl gerddorol Focus Wales yn gwella a thyfu bob blwyddyn, ac mae Saith Seren yn y broses o brynu ein hadeilad.

“Mi fydd hyn yn sicrhau ein dyfodol tymor hir.”

Dinas Diwylliant 2025

Roedd Cyngor Wrecsam wedi gwneud cais am statws dinas tair gwaith o’r blaen yn 2000, 2002 a 2012. Ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus.

Doedd rhai pobol yn y dref ddim eisiau i Gyngor Wrecsam wneud cais am statws dinas y tro yma. Roedden nhw’n poeni am y gost.

Roedd tua 100 o bobol wedi bod yn protestio ym mis Rhagfyr. Ond roedd y Cyngor Sir wedi penderfynu cario ymlaen gyda’r cais.

“Mae rhai llefydd wedi gwneud yn dda ar ôl cael Statws Dinas a rhai heb,” meddai Chris Evans.

“Gawn ni weld faint o les fydd yn gwneud i Wrecsam. Ond dw i’n hapus iawn efo’r newyddion, mae’n grêt i’r dref.

“Y peth pwysicaf rŵan ydy gweld os fydd yn helpu Wrecsam efo’r cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2025. Mae hynna’n bwysicach i fi.”

Mae Chris yn dweud y byddai ennill cais Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 yn rhoi hwb mawr i Wrecsam a Saith Seren.

“Os ydan ni’n ennill bydd llawer o ddigwyddiadau yn Wrecsam a bydd Saith Seren yn rhan fawr o hynna,” meddai.

“Mae’r iaith Gymraeg yn ffactor bwysig. Rydan ni efo iaith ein hunain a diwylliant unigryw.

“Os ydy Statws Dinas yn helpu efo’r cais fydd hynny’n grêt.

“Efallai fysa rhai pobol yn gofyn ‘pam ydach chi eisiau bod yn Ddinas Diwylliant os ydach chi ddim yn ddinas?’. Does dim rhaid poeni am hynna rŵan.”

Mae disgwyl cyhoeddiad am Ddinas Diwylliant 2025 cyn diwedd y mis. Y llefydd eraill sy’n cystadlu am y teitl ydy Bradford, Durham a Southampton.

Sêr Hollywood yn rhoi Wrecsam ar y map

Mae Wrecsam wedi cael llawer o sylw ar draws y byd ar ôl i’r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Mae Chris Evans, sydd hefyd yn athro yn Ysgol Morgan Llwyd, yn dweud bod y ddau “wedi codi proffil Wrecsam ar draws y byd”.

“Bydd rhaglen ddogfen amdanyn nhw’n prynu’r clwb yn cael ei darlledu yn fuan,” meddai.

“Dw i’n siŵr bod yr holl gyffro am hyn yn rhan o’r rheswm bod Wrecsam wedi ennill Statws Dinas. Bydd yn rhan o’i stori ar y rhaglen.

“Bydd yn helpu Prifysgol Glyndŵr i ddenu myfyrwyr tramor i ddod i astudio yn Wrecsam hefyd.”

Mae Chris rŵan yn edrych ymlaen at fynd i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych.

Roedd yr Eisteddfod wedi cael ei gohirio ddwywaith oherwydd y pandemig.

“Does dim Steddfod go iawn wedi bod ers 2019, felly mae’n hen bryd i ni ddod at ein gilydd a dathlu ein diwylliant,” meddai.

“Rydyn ni’n bobol mor greadigol a thalentog yma yng Nghymru.”

Geirfa

Dathliadau – celebrations

Hwb – boost

Buddsoddiad – investment

Hyder – confidence

Tymor hir – long term

Llwyddiannus – successful

Diwylliant – culture

Rhaglen ddogfen – documentary