Gofynnwch i unrhyw un sy’n nabod fi ac mi fyddan nhw’n dweud bod o’n anghyffredin iawn i fi fod yn dawel am hir. Fel arfer dw i’n beio’r genynnau Eidaleg ond, mewn gwirionedd, dw i’n meddwl bo fi jyst wrth fy modd yn sgwrsio efo pobl, yn enwedig yn Gymraeg.
Dros y dyddiau diwethaf dw i wedi bod llawer fwy tawel nag arfer. Mae sawl diwrnod wedi mynd heibio ers i mi ddod yn ôl o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron a dw i dal ddim wedi ffeindio’r geiriau addas i ddisgrifio’r profiad bythgofiadwy o gael fy urddo i’r Orsedd. Alla’i ddim ond dweud hyn yn hyderus: dw i erioed wedi profi’r fath falchder o’r blaen. Y balchder o glywed enw’r teulu, enw fy Nonni – fy Nain a Thaid – fy enw i, yn cael ei adrodd ar faes yr Eisteddfod a’i ychwanegu at yr Orsedd. Mae’n anrhydedd ac yn fraint sy’n meddwl y byd i gyd i mi a fy nheulu.
Meddyliais am fy Nonno Guido, fy Nhaid ar ochr fy Nhad, ar y ffordd lawr i Dregaron. Roedd y seremoni urddo yn cael ei chynnal ar 1 Awst, sef pen-blwydd fy Nonno. Yr arwydd mwyaf perffaith; roeddwn i’n teimlo ei bresenoldeb efo fi wrth i mi gerdded i’r Cylch yn yr haul ar faes yr Eisteddfod.
Roedd y nerfusrwydd yn cymryd drosodd wrth i’r seremoni ddod yn agosach, er fy mod i wedi bod yn edrych ymlaen cymaint. Diolch byth, wnaeth wynebau cyfeillgar iawn fy nghroesawu i o’r eiliad cyntaf ar y maes a heb i fi sylwi, wnaeth y nerfusrwydd ddiflannu. Yn ei le oedd hapusrwydd a’r teimlad cynnes o fod o gwmpas ac o fewn cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg: ni gyd yna i ddathlu ein gwlad a’n cariad at Gymru. A’n hiaith brydferth – iaith sy’n perthyn i unrhyw un sy’n dewis ei derbyn.
Roeddwn i’n hapus iawn i weld ambell wyneb cyfarwydd yn y seremoni, gan gynnwys Fiona Collins, enillydd Dysgwyr y Flwyddyn yn 2019 a Rosie Jones, wnaeth ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod T ddwy flynedd yn ôl. Mor hyfryd oedd sgwrsio efo nhw a chael y cyfle i rannu’r profiad efo’n gilydd.
Roedd yr haul yn disgleirio a phan ddaeth yr amser i sefyll a chael fy arwain tuag at y cleddyf, roedd y dagrau yn fy llygaid yn llifo heb siawns o stopio. Edrychais i fyny at yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, un o fy arwyr a rhywun dw i’n edmygu cymaint; ei wên gyfeillgar yn croesawu fi i’r Orsedd. Roedd wedi ysgwyd fy llaw yn garedig ac roedd genna’i wên o glust i glust tu ôl y dagrau o hapusrwydd. Yn gwisgo fy mhenwisg am y tro cyntaf, eisteddais i lawr efo criw o aelodau newydd i’r Orsedd, mor falch ag erioed.
“Cymaint o siaradwyr newydd y flwyddyn yma!” meddai’r Archdderwydd, ac wrth edrych o gwmpas wnes i weld wynebau Rosie a Fiona, merched sydd wedi cael profiad tebyg i fi o ddisgyn mewn cariad efo’r Gymraeg. Roedd hi’n hyfryd rhannu’r profiad efo nhw a chynrychioli dysgwyr a siaradwyr newydd o ardaloedd gwahanol ar draws Cymru.
Ar ôl dod yn ôl o’r Eisteddfod, derbyniais alwad ffôn gan Miss Nia, fy athrawes Cymraeg yn yr ysgol: hi wnaeth ysbrydoli fi o’r cychwyn cyntaf i fynd amdani i ddysgu. Hyfryd oedd clywed ei llais ar y ffôn a dw i’n gobeithio fy mod i wedi ei gwneud hi’n falch o’i chyn-ddisgybl diolchgar. Hebddi hi, ac ambell ffrind a thiwtor, mi fyswn i byth wedi cael y fraint o ymuno a’r Orsedd, a’r holl gyfleoedd arbennig sy’n dod efo dysgu Cymraeg. Mae’n llwyddiant personol i fi ond hefyd, dw i’n gobeithio, yn llwyddiant alla’i rannu efo pawb sydd wedi cefnogi ac ysbrydoli fi ar fy nhaith i ddysgu Cymraeg.
Does dim lle fel yr Eisteddfod. Does dim byd fel yr Eisteddfod. Mae’r egni a’r awyrgylch yn hollol unigryw a dw i wedi dod adra yn teimlo’n llawn ysbrydoliaeth, a llawn cyffro am y flwyddyn nesaf. Diolch o galon Tregaron am Eisteddfod hynod o hyfryd ac un fydda’i yn cofio am weddill fy oes.