Dach chi’n hoffi cerdded? Dach chi’n mwynhau cerdded ar hyd arfordir Cymru?  Mae Julie Brominicks yn awdur a cherddwr. Mae hi wedi dysgu Cymraeg. Roedd hi wedi mynd am daith gerdded blwyddyn o hyd o amgylch Cymru. Nawr mae hi wedi ysgrifennu llyfr am ei thaith gerdded The Edge of Cymru. Yn y llyfr mae Julie yn edrych ar hanes, teithio, yr amgylchedd a natur. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360…

Julie, beth oeddech chi’n gwneud cyn mynd ar y daith gerdded ac ysgrifennu’r llyfr?

Roeddwn i’n gweithio fel swyddog addysg yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Wnes i benderfynu gadael fy swydd er mwyn cerdded o gwmpas Cymru a dod yn awdur. Mi wnes i fwynhau’r gwaith yn fawr iawn ond dw i’n eitha’ mewnblyg ac roedd gen i awydd gwneud rhywbeth mwy tawel. Dw i’n dod o’r Amwythig yn wreiddiol. Er fy mod i’n adnabod Cymru yn weddol dda ar ôl treulio gwyliau yma fel plentyn, mynd i Brifysgol Aberystwyth a chael llawer o swyddi (yn amrywio o weini sglodion i addysgu), ro’n i’n teimlo fy mod i ddim yn gwybod digon am Gymru, ac eisiau dysgu mwy.

Pam cerdded ar hyd arfordir Cymru – beth oedd wedi ysbrydoli’r daith?

Dw i bron yn byw yn fy esgidiau cerdded. Ro’n i hyd yn oed wedi gwisgo nhw i fy mhriodas! Mae gen i angerdd enfawr am gerdded. Dw i wedi treulio bron pob un o fy ngwyliau yn cerdded yn bell iawn.  Felly pan wnes i glywed am Lwybr Arfordir Cymru, oedd yn newydd ar y pryd, roedd e’n gwestiwn o pryd nid os. Roedd gadael fy swydd wedi rhoi’r cyfle perffaith i fi.

Faint o filltiroedd oedd y daith?

870 o filltiroedd ydy Llwybr Arfordir Cymru, ac mae Llwybr Clawdd Offa yn 177 o filltiroedd. Ond wnes i ddim eu cerdded mewn un tro – cymerais i flwyddyn yn y diwedd, drwy’r tymhorau ac, mewn ffordd, roedd yn fwy ymlaciol.

Yr arfordir rhwng Caerdydd ac Abertawe

Beth oedd uchafbwyntiau’r daith? Oes gen ti unrhyw straeon difyr?

Mae gormod o uchafbwyntiau i son amdanyn nhw a bod yn onest. Roedd y daith mor brydferth. Yn bennaf dw i wedi mwynhau cael fy syfrdanu gan y dirwedd. Roeddwn i’n disgwyl i’r arfordir rhwng Caerdydd ac Abertawe i fod yn brysur ond roedd yn syndod mawr i ddarganfod arfordir mor wyllt, efo’r clogwyni serth a’r traethau gwag, anghysbell ac mor hyfryd. Ac, wrth gwrs, roeddwn i wedi cwrdd â phobl arbennig iawn. Roedd e’n fraint i gael cipolwg ar gymunedau amrywiol. Un bore yng Nghaergybi, roeddwn i  wedi trio mynd i mewn i dri chaffi oedd efo arwyddion yn dweud ‘Agored’ ar y drysau, cyn dod o hyd i un ble’r oedd y perchnogion ddim wedi dweud: ‘We’re not open yet!’

Pam oeddech chi wedi penderfynu dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod yma?

I fod yn onest, dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blynyddoedd, ond jyst ychydig yma ac acw. Ond dw i ddim wedi gwneud llawer o gynnydd. Roeddwn i’n rhy brysur pan oeddwn i’n gweithio. A dw i’n hollol anobeithiol gyda’r nos – does gen i ddim amynedd gweithio ar ôl 6pm, felly doedd dosbarthiadau nos ddim yn siwtio fi. Cyn cychwyn fy nhaith, roeddwn i wedi gwneud Cwrs Haf i roi hwb i fy ymdrechion. Roeddwn i eisiau siarad Cymraeg ar fy nhaith. Ond wnes i sylwi’n eitha’ cyflym, bod yr iaith mewn sefyllfa beryglus. Does dim cymaint o gyfleoedd i siarad yr iaith ac am resymau cymhleth. Nid pawb sy’n siarad Cymraeg sy’n teimlo’n gyfforddus am wneud efo dieithryn – a dysgwr fel fi. Dyna pam wnes i benderfynu dysgu mwy – am yr iaith Gymraeg a’r byd Cymreig.

Oedd hi’n anodd ysgrifennu’r llyfr a thrio crynhoi’r holl wybodaeth?

Roedd yn anodd iawn. Mae cymaint i ddweud! Dyna pam mae wedi cymryd 10 mlynedd. Dw i wedi cynnwys ymchwil am Gymru – ei phobl, iaith, hanes a natur. Ar y cyfan, popeth dw i wedi profi, a fy meddyliau, a beth dw i’n gwybod yn barod am y sefyllfa amgylcheddol. Mae’r llyfr wedi bod yn brosiect enfawr, a thrio rhoi lle i bopeth – er mae wedi ei dorri lawr i faint digon bach rŵan. Dylech chi fod wedi gweld y drafft cyntaf – anferth! Fel dinosor blin! Ond dw i’n hapus efo’r canlyniad.

The Edge of Cymru: A Journey – Julie Brominicks

Cyhoeddwyd gan Seren Clawr Caled • Topograffi • £12.99

Llyfr Julie Brominicks, The Edge of Cymru