Mae Dewi Tudur yn artist. Mae’n byw yn Donnini yn Tuscany yn yr Eidal. Mae’n dod o’r Wyddgrug yn wreiddiol. Mae o wedi byw yn yr Eidal ers 2011.
Mae Curtis Ryan Woodside yn gwneud ffilmiau. Mae o’n dod o Johannesburg yn Ne Affrica yn wreiddiol. Mae o wedi symud i Donnini yn yr Eidal. Mae’n byw yno gyda’i ŵr Filippo Adami. Mae Filippo yn ganwr opera o’r Eidal.
Mae Dewi wedi cymryd rhan yn un o ffilmiau byrion Curtis o’r enw Move to Italy. Mae’r ffilm ar YouTube. Yma mae Dewi a Curtis yn ateb cwestiynau Lingo…
Dewi, sut dych chi’n nabod Curtis?
“Pan dych chi’n byw mewn pentref bychan mae pawb yn dod i ’nabod ei gilydd mewn amser byr iawn.
Mae Filippo Adami a Curtis Ryan Woodside yn byw yma yn Donnini. Canwr opera ydi Filippo. Mae’n treulio dipyn o amser yn canu yn Napoli.
Mae Curtis yn wneuthurwr ffilmiau. Ei faes ydi hanes yr Aifft. Un o’i ffilmiau mwya’ poblogaidd ydy Egyptian Secrets at the Vatican (Full documentary).
Mae o’n postio ffilmiau byrion am ei fywyd yma yn Donnini ar YouTube dan y teitl Move to Italy.
Sut oeddech chi wedi bod yn rhan o un o’r ffilmiau yma Dewi?
“Roedd Curtis yn un o’r bobl ddaeth i lansiad fy llyfr i blant, Dewey and the Dragonfly yn Villa Pitiana. Mae Curtis yn sôn am fy ngwaith yn un o ffilmiau Move to Italy – We are moving from Florence to Verona. Mae’n son am fy arddangosfa ym mis Mai yn Oriel Ffin y Parc yn Llanrwst [yn Sir Conwy] a Fountain Fine Art Llandeilo [Sir Gaerfyrddin]. Mae hefyd yn cael cipolwg ar y stiwdio lle dw i’n gweithio.
Sut brofiad oedd ffilmio gyda Curtis?
“Mae hi’n deimlad reit braf ffilmio hefo fo gan fod ni’n dau yn gweld pethau yn yr un ffordd.
Mae o’n hoff o’r llwybrau cefn gwlad, y murddunnod o amgylch Donnini, a’r teimlad cryf o’r hen Eidal sy’n parhau i fod yma. Mae yna gymaint o ryfeddodau yma yn yr ardal a thafliad carreg i ffwrdd mae bwrlwm a golygfeydd ysblennydd Firenze.”
Curtis, pam oeddech chi wedi symud i’r Eidal?
Wnes i gyfarfod Filippo Adami rhai blynyddoedd yn ôl. Mae’n ganwr opera o Tuscany. Wnes i ddod i’r Eidal i’w weld a chyfarfod ei deulu. Ar ôl hynny wnaethon ni benderfynu dyweddïo. Ry’n ni nawr yn byw gyda’n gilydd ac wedi priodi. Roedden ni wedi bod ar wahân am dros flwyddyn a hanner oherwydd y pandemig. Cyn symud i’r Eidal, roeddwn i’n byw mewn tref fach o’r enw Bela-Bela, tua dwy awr i’r gogledd o Johannesburg.
Beth oeddech chi’n gwybod am Gymru cyn cwrdd â Dewi?
Rygbi ydy un o’r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn Ne Affrica felly roeddwn i’n gwybod ychydig am y Gymru oherwydd hynny. Dw i wrth fy modd yn gwneud gwahanol acenion. Mae’r acen Gymraeg yn felodaidd ac mae’r iaith yn ddiddorol. Mae rhai geiriau tebyg yn Eidaleg hefyd. Ond fy hoff air Cymraeg yw “Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch”. Dw i bron yn gallu ail-adrodd yr enw fesul sillaf! Mae Dewi yn falch iawn o’i wreiddiau Cymreig ac yn hoffi siarad am ei famwlad.
Pam oeddech chi wedi dechrau ffilmio eich taith i’r Eidal a’ch bywyd yno?
“Gwneud ffilmiau ydy fy nghariad cyntaf, ac wedyn Eifftoleg. Dw i wedi gwneud llawer o raglenni dogfen am yr Aifft. Un o’r rhai mwyaf poblogaidd ydy Egyptian Secrets at the Vatican. Mae wedi cael ei gwylio 1.3 miliwn o weithiau ar YouTube.
“Wnes i ddechrau vlog pan wnes i symud i’r Eidal. Roedd o fel dyddiadur i fi ac yn help i gofio digwyddiadau arbennig efo teulu a ffrindiau. Roedd fy ffrind Stephanie Jarvis, sy’n gwneud y vlog Chateau Diaries, wedi ysgogi fi i ddechrau’r vlog. Roedd ei vlogiau hi wedi dod a ni at ein gilydd.”
Geirfa
Gwneuthurwr ffilm – film-maker
Murddun – ruin
Tafliad carreg – stone’s throw
Rhyfeddodau – wonders
Ysblennydd – superb
Dyweddïo – engaged
Eifftoleg – Egyptology
Sillaf – syllable
Ysgogi – inspire