Wythnos diwethaf, roeddwn i’n gwrando ar sioe radio Huw Stephens ar ôl gweld tweet gan Huw yn sôn am wneud cyfweliad efo Gruff Rhys ynglŷn â gŵyl flynyddol ym Methesda o’r enw Ara Deg, gŵyl sy’n para dros benwythnos yn Neuadd Ogwen ym Methesda a’r thema eleni yw “Ymgolli”. Mae’r ŵyl yn mynd ymlaen penwythnos yma a dw i wedi bod yn edrych ymlaen at fynd i Fethesda ers archebu ticedi ychydig o fisoedd yn ôl.
Un o fy hoff bethau i wneud yw gweld cerddoriaeth yn fyw, yn enwedig gan fand neu artist dw i’n caru. Rhywbeth roeddwn i’n colli’n fawr iawn yn ystod y cyfnodau clo, a rhywbeth sydd wedi helpu i ddod â normalrwydd yn ôl i fy mywyd y flwyddyn yma.
Ym mis Mai, roeddwn i’n ffodus i allu mynd i weld un o fy hoff artistiaid, y gantores Americanaidd Patti Smith, yn chwarae efo’i band yng Nghaergrawnt. Ar ôl tua phedair mlynedd ers ei gweld hi am y tro cyntaf, roeddwn i mor gyffrous i’w gweld hi eto a wnaeth hi ddim fy siomi o gwbl: un o’r gigs gorau dw i erioed wedi gweld. Wnaeth hi ganu cymysgedd o’i chaneuon mwyaf enwog ac annwyl, un neu ddwy fersiwn o ganeuon artistiaid eraill, a hefyd adrodd cerddi gan William Blake ac Allen Ginsburg.
Barddoniaeth yn eistedd reit yng nghanol ei gwaith a chaneuon ac yn chwarae rôl anferth yn ei pherfformiadau. Mae hi’n siarad efo’r gynulleidfa ac yn adrodd cerddi rhwng caneuon yn ei ffordd ei hun: hollol unigryw. Mae hi wastad wedi disgrifio ei hun fel artist Americanaidd efo synnwyr cryf o hunaniaeth, a phob tro mae hi’n mynd i unrhyw wlad newydd neu gyfarwydd, mae hi’n ymweld â beddi beirdd o’r wlad ac yn adrodd eu cerddi er mwyn creu cysylltiad efo’r lle. Dyma pam roeddwn i’n mor hapus i glywed am ei edmygedd o’r bardd Cymraeg, Dylan Thomas, ar raglen Huw Stephens.
Roedd Huw a’i westai ar y rhaglen yn sôn am lyfr newydd sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng Bob Dylan a Dylan Thomas, efo penodau am artistiaid eraill fel John Cale a Patti Smith. Dw i’n eithaf cyfarwydd efo gwaith Dylan Thomas a’i ddylanwad dros farddoniaeth a’i enwogrwydd dros y byd. Roeddwn i hefyd yn gyfarwydd efo’r stori am Bob Dylan yn cael ei ysbrydoli gan Dylan Thomas ar gyfer ei enw ei hun. Ond doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo’r stori am Patti Smith yn dod i Gymru, chwarae cyngerdd i ddyrnaid o bobol ac yn adrodd cerddi Dylan Thomas fel rhan o’r perfformiad. Am berfformiad breuddwydiol!
Wythnos yma, ers gwrando ar raglen Huw Stephens yn sôn am y ddau Dylan a Patti Smith, dw i wedi ailymweld â fy hen lyfr Dylan Thomas o’r brifysgol sydd wedi bod yn eistedd ar y silff heb sylw am dipyn o flynyddoedd. Ambell gerdd wedi cael ei hymosod gan nodiadau blêr, ond maen nhw’n dal i sefyll yn gryf ar y tudalen. Digwydd bod, roeddwn i’n darllen llyfr am Patti Smith yn barod: llyfr o’r enw Why Patti Smith Matters sy’n mynd i’r afael â phwysigrwydd Patti fel artist, ac yn enwedig fel artist benywaidd.
Dw i wrth fy modd efo’r syniad fod Patti yn cerdded trwy strydoedd Talacharn efo cerddi Dylan Thomas yn chwyldroi yn ei phen cyn dewis y rhai llwyddiannus i gael eu hadrodd a’u rhannu efo cynulleidfa fach. Efallai un ddiwrnod, gobeithio, mi fydd hi’n dod yn ôl i chwarae yng Nghymru eto a fydda i’n lwcus i fod yn y gynulleidfa. Mi fyswn i wrth fy modd bod yna – y gig gorau allwn i ddychmygu: Patti Smith yng Nghymru!