Bydd wythnos nesaf, 3-9 Hydref, yn Wythnos Llyfrgelloedd: cyfle gwych i ddathlu pwysigrwydd llyfrgelloedd yn ein cymunedau ar draws Cymru. Fel arfer, mae yna thema benodol bob blwyddyn, a’r ffocws eleni yw Parhau i Ddysgu.
Os ydych chi wedi darllen un o fy ngholofnau o’r blaen, byddwch chi’n gwybod yn barod pa mor bwysig mae llyfrau a darllen yn fy mywyd. Mae llyfrgelloedd wedi chwarae rôl fawr yn fy mywyd hefyd, felly dw i’n edrych ymlaen at ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd bob blwyddyn.
Heb swnio’n rhy ddramatig, ond dw i wir yn meddwl byswn i ar goll heb fy ngherdyn llyfrgell. Dw i wedi bod yn aelod o’r llyfrgell ers roeddwn i’n blentyn. Mae’r cerdyn llyfrgell, i fi, yn debyg i goriad drws – ti byth yn gwybod pa lyfr sy’n disgwyl amdanat ti, neu beth wyt ti’n mynd i ddarganfod.
Trwy gydol fy mywyd, dw i wedi ffeindio hapusrwydd a chysur mewn llyfrgelloedd. Mae yna dair llyfrgell benodol sy’n arbennig i mi. Yr un yn yr Wyddgrug yn gyntaf: llyfrgell fy mhlentyndod, a lle dw i wedi gweithio dros y blynyddoedd diwethaf, hefyd. Yn ail, llyfrgell Shankland ym Mhrifysgol Bangor. Y llyfrgell fwyaf prydferth yn y byd! Treuliais oriau yn llyfrgell Shankland, yn ysgrifennu a darllen pan oeddwn i’n fyfyrwraig yn y brifysgol. Ac ers symud i Sir Ddinbych, dw i wedi mwynhau mynd i fy llyfrgell leol newydd, sef yr un yn Rhuthun. Mi ges i groeso cynnes iawn gan bawb yn y llyfrgell: rhywbeth pwysig pan ti’n symud i ardal newydd.
Un o’r pethau gorau am lyfrgelloedd yw’r ffaith eu bod nhw’n parhau i ddatblygu gwasanaethau gwerthfawr i gymunedau. Yn ystod y cyfnodau clo, er enghraifft, mi wnes i ddefnyddio’r gwasanaeth Dewis a Chasglu efo fy llyfrgell leol lle roeddwn i’n gallu cael pecyn o lyfrau mewn ffordd ddiogel, a chael bach o awyr iach wrth gerdded lawr i’r dre. Hefyd, mi wnes i ymuno gyda chlwb darllen y llyfrgell yn ystod y cyfnod clo, rhywbeth arall – fel y gwasanaeth Dewis a Chasglu – wnaeth fy helpu yn ystod amser anodd.
Dw i’n trio mynd i’r llyfrgell mor aml â phosib ac, oherwydd fy swydd efo gwasanaeth llyfrgelloedd Sir y Fflint, dw i’n gallu gadael y swyddfa a phori trwy’r silffoedd llyfrau cyn mynd adra. Wythnos yma, mi es i i’r llyfrgell ac, fel sawl tro, gadewais efo breichiau’n llawn llyfrau gan gynnwys dau gasgliad o straeon byrion: Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis a Rebel Rebel gan Jon Gower. Wnaeth copi o Pumed Gainc y Mabinogi gan Peredur Glyn neidio allan ata i hefyd. Dw i wedi clywed a darllen adolygiadau da iawn ac, o beth dw i’n dallt, mae’n llyfr addas iawn i ddarllen dros yr hydref ac yn enwedig o gwmpas Calan Gaeaf.
Rydyn ni wedi symud i ffwrdd o’r syniad o lyfrgelloedd fel llefydd tawel, dw i’n credu. Heddiw, mae llyfrgelloedd yn cynrychioli llefydd cyfeillgar a chymdeithasol. Awyrgylch croesawgar mewn llyfrgell yw’r peth pwysicaf i mi, lle mae pobol yn gallu cwrdd fel grŵp cymdeithasol, gofyn am help, neu eistedd ar ben eu hunain a mwynhau darllen llyfr, cylchgrawn neu bapur newydd. Hyd yn oed os ti ar ben dy hun mewn llyfrgell, ti byth yn unig efo llyfr.
Mae yna gymaint o resymau i ddathlu llyfrgelloedd, ac nid dim ond yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd. Mae’r drws wastad ar agor, yn enwedig y dyddiau yma efo adnoddau digidol fel e-lyfrau a llyfrau sain: i gyd ar gael am ddim efo aelodaeth llyfrgell. Felly, ewch i’ch llyfrgell leol wythnos nesaf, neu unrhyw bryd – does dim angen esgus – gallwn ni ddathlu trwy gydol y flwyddyn.