Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Pwysau mawr ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Teyrngedau o Gymru i Jimmy Carter
  • Neges Blwyddyn Newydd Prif Weinidog Cymru
  • Elusen achub anifeiliaid yn diolch i actores Gavin & Stacey am £34,950

Pwysau mawr ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod dan bwysau mawr dros y Nadolig.

Roedd wedi cyhoeddi digwyddiad critigol.

Roedd cannoedd o alwadau ffôn heb eu hateb, ambiwlansys yn aros tu allan i ysbytai, a chleifion yn aros i gael gofal.

Roedd hyn oherwydd galw mawr am wasanaeth 999 ac oedi mewn ysbytai.

Cafodd mesurau ychwanegol eu cyflwyno er mwyn ceisio lleihau’r pwysau ar wasanaethau.

Stephen Sheldon ydy pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae’n dweud: “Anaml iawn y byddwn yn cyhoeddi digwyddiad critigol, ond gyda galw mawr iawn ar ein gwasanaeth a mwy na 90 o ambiwlansys yn aros i drosglwyddo cleifion y tu allan i’r ysbyty, roedd wedi effeithio ar ein gallu i helpu cleifion.”

Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi galw ar bobl i ffonio 999 dim ond mewn achos o argyfwng sy’n bygwth bywyd fel ataliad y galon.

Dywedodd bod eu staff a gwirfoddolwyr wedi gwneud “gwaith gwych o dan amgylchiadau anodd”.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud bod y digwyddiad critigol ar ben erbyn hyn. Ond maen nhw’n dweud bod y pwysau yn parhau ar y gwasanaeth.


Jimmy Carter

Teyrngedau o Gymru i Jimmy Carter

Cafodd teyrngedau eu rhoi i Jimmy Carter, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau. Roedd wedi marw yn 100 oed ar 29 Rhagfyr.

Does yna’r un arlywydd arall yn hanes yr Unol Daleithiau sydd wedi byw’n hirach na fe. Roedd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed ym mis Hydref 2024.

Bu farw yn ei gartref yn nhalaith Georgia. Roedd wedi bod yn arlywydd rhwng 1977 ac 1981.

Roedd wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel am ei waith dyngarol.

Roedd Jimmy Carter yn hoff iawn o waith y bardd Dylan Thomas. Roedd wedi ymweld ag Abertawe sawl gwaith. Yn 1995 roedd wedi agor Canolfan Dylan Thomas yn y ddinas.

Mae’r rhai sy’n rheoli hen gartref Dylan Thomas yn Abertawe wedi talu teyrnged i Jimmy Carter.

“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth yr Arlywydd Jimmy Carter, oedd yn Noddwr Rhyngwladol Cartref Dylan Thomas.

“Roedd yr Arlywydd Carter yn ffan fawr o farddoniaeth Dylan. Roedd wedi darganfod ei waith pan oedd yn swyddog ifanc yn y Llynges yn 1953, ac yn gefnogwr mawr o adferiad y Cartref.

“Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cyfarfod ag e yng Nghanolfan Carter yn 2012, a recordio cyfweliad gyda gŵr bonheddig a hynod hoffus.

“Dyn aeth y tu hwnt i’r galw i greu gwaddol enfawr.”

Mae Jimmy Carter yn gadael pedwar o blant, 11 o wyrion ac 14 o or-wyrion.

Bu farw ei wraig Rosalynn yn 2023 ar ôl bod yn briod am 77 o flynyddoedd.


Eluned Morgan

Neges Blwyddyn Newydd Prif Weinidog Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi cyhoeddi neges Blwyddyn Newydd.

Mae hi’n dweud y bydd yn cario ymlaen i “ganolbwyntio ar y pethau rydych chi wedi dweud sydd fwyaf pwysig i chi” yn 2025.

Roedd mwy o help i’r Gwasanaeth Iechyd ar dop y rhestr, meddai.

“Felly, rydym yn gwella ein trefniadau gofal iechyd er mwyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gynt a’u gweld nhw yn gyflymach, drwy leihau’r amseroedd aros.”

Mae Eluned Morgan hefyd yn dweud ei bod eisiau sicrhau mai Cymru yw’r wlad “lle mae swyddi a thwf gwyrdd yn tyfu gyflymaf.”

Mae hi’n dweud bod cysylltu cymunedau yn hanfodol.

“Felly rydyn ni’n parhau i ddod â threnau newydd ar y traciau a gwella ein system drafnidiaeth. Byddwn yn dod â bysiau ’nôl o dan reolaeth leol ac yn rhoi dewis lleol i chi ar 20m.y.a.

“A byddwn ni hefyd yn parhau i greu cyfleoedd i bob teulu yng Nghymru. Rydyn ni’n buddsoddi lot i ddarparu tai mwy fforddiadwy, gwella ein hysgolion a’n colegau, a chefnogi ein dysgwyr i gael gyrfa lwyddiannus.”

Mae hi’n dweud: “Tu allan i Gymru, dw i’n gobeithio y bydd eleni yn dod â diwedd ar y gwrthdaro a’r trais ofnadwy sydd wedi ein dychryn ni i gyd.

“Mae 2025 yn ddechrau newydd i bob un ohonom. Mae llawer i fod yn obeithiol amdano. Gallwn gyflawni cymaint drwy weithio gyda’n gilydd.”


Georgie y Chihuahua yn Many Tears Animal Rescue sy’n chwilio am gartref newydd

Elusen achub anifeiliaid yn diolch i actores Gavin & Stacey am £34,950

Mae elusen achub anifeiliaid wedi diolch i’r actores Joanna Page am roi arian i helpu eu gwaith.

Mae Joanna Page yn actio Stacey Shipman yn y gyfres Gavin & Stacey.

Roedd hi wedi ymddangos ar y rhaglen Wheel of Fortune ar ITV. Roedd hi wedi ennill £34,950 ac wedi rhoi’r arian i Many Tears Animal Rescue.

Mae’r elusen yng Nghefneithin ger Llanelli. Maen nhw’n dod o hyd i gartrefi newydd i gŵn, cathod ac anifeiliaid eraill ar draws y Deyrnas Unedig.

Maen nhw’n dweud y bydd yr arian “yn gwneud byd o wahaniaeth i’r holl gŵn” maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.

Maen nhw’n dweud bod Joanna Page wedi creu Nadolig “crackin’” iddyn nhw, a’u bod nhw’n “chuffed”.