Dyma’r penawdau wythnos yma:
- The Traitors: Cynnydd mawr yn nifer y bobol sy’n edrych ar-lein am ‘ddysgu Cymraeg’
- Cyngor Gwynedd: Gwybodaeth ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain
- Cau ysgolion a Sw Mynydd oherwydd eira a rhew
- Michael Sheen yn lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd
The Traitors: Cynnydd mawr yn nifer y bobol sy’n edrych ar-lein am ‘ddysgu Cymraeg’
Mae cynnydd mawr o 223% wedi bod yn nifer y bobol sy’n edrych ar-lein am ‘ddysgu Cymraeg’.
Mae hyn ers i’r gyfres deledu The Traitors ddechrau eleni.
Y Gymraes Elen Wyn, oedd un o’r cystadleuwyr. Roedd hi wedi dweud yn Gymraeg ar y rhaglen ei bod hi’n un o’r Ffyddloniaid.
Mae cystadleuydd arall, Charlotte, yn esgus bod yn Gymraes. Mae hi’n siarad gydag acen Gymreig er mwyn i bobol ymddiried ynddi’n well. Mae hi wedi cael ei dangos ar y sgrin yn darllen llyfr i’w helpu i ddysgu Cymraeg.
Mae Elen wedi gadael y gyfres rŵan. Roedd y cystadleuwyr eraill wedi pleidleisio yn ei herbyn, a’i chyhuddo o fod yn ‘Fradwr’.
Maen Elen a Charlotte ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn y drydedd gyfres. Roedd wedi dechrau ar Ddydd Calan (Ionawr 1).
Mae ymchwil yn dangos fod tactegau Charlotte wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n trafod y Gymraeg ar-lein ac yn ceisio dysgu’r iaith.
Mae dysgu iaith newydd yn un o addunedau Blwyddyn Newydd llawer o bobol eleni, yn ôl ymchwil gan QR Code Generator.
Mae mwy o bobol erbyn hyn yn chwilio am y geiriau ‘dysgu iaith’ a ‘Duolingo’ ar y we.
Marc Porcar ydy Prif Weithredwr QR Code Generator.
Mae’n dweud: “Mae’r Traitors yn sicr wedi dod yn un o’r rhaglenni teledu realiti mae pobl yn edrych ymlaen ati yn fawr yn ystod y flwyddyn. Mae’n wych gweld bod y sioe yn parhau i arwain at gymaint o drafodaeth ar-lein.
“Ers i dair pennod gynta’r sioe gael eu rhyddhau’r wythnos ddiwethaf, un o bynciau trafod mwya’r sioe yw acen Gymreig ffug Charlotte, yn enwedig gan fod y cystadleuydd wedi honni bod pobl yn ymddiried mwy yn yr acen.
“Mae gwylwyr hefyd wedi tynnu sylw at eironi’r ffaith fod y cyfieithydd Cymraeg, Elen, wedi methu adnabod acen ffug Charlotte.
“Yn ystod ei hamser ar y sioe, roedd Elen wedi dweud yn rheolaidd ei bod eisiau rhoi Cymru ar y map ac i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.
“Fel sydd wedi’i weld yn y cynnydd yn nifer y rhai sy’n chwilio, mae’n glir fod The Traitors wedi tanio diddordeb mewn dysgu Cymraeg – er, nid yn y ffordd roedd Elen wedi’i disgwyl.”
Cyngor Gwynedd: Gwybodaeth ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod gwybodaeth am eu gwasanaethau nawr ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain.
Yn ôl y cyngor, mae’n “gam arall ymlaen” i “sicrhau tegwch i bawb”.
Cyngor Gwynedd ydy’r pedwerydd awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno gwybodaeth yn yr iaith arwyddion. Y tri arall ydy Cyngor Powys, Caerdydd a Chonwy.
Mae Iaith Arwyddion Prydain yn un o ieithoedd brodorol y Deyrnas Unedig. Mae’n cael ei defnyddio gan tua 150,000 o bobol sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.
Mae pobl sy’n byw yng Ngwynedd sy’n defnyddio iaith arwyddo yn gallu gwylio fideos ar wefan y Cyngor er mwyn cael gwybodaeth am eu gwasanaethau. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gasglu sbwriel ac ailgylchu, y gwasanaeth tai, gweithio i’r Cyngor, gwneud cais am fathodyn glas parcio, ac am greu cyfrif ar-lein gyda’r Cyngor.
Y Cynghorydd Llio Elenid Owen ydy Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaethau Corfforaethol.
Mae hi’n dweud ei bod hi’n “falch iawn” bod y fideos ar gael ar wefan y Cyngor.
“Rydym am roi sylw dyledus i gydraddoldeb, ac yn adnabod fod angen sicrhau fod y Cyngor yn trin pawb mewn ffordd sy’n deg,” meddai.
“Rydym yn gobeithio bydd y cam hwn o fudd i drigolion y sir sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i gael mynediad at wybodaeth am wahanol wasanaethau’r Cyngor.”
Mae Cyngor Gwynedd yn cael help gan Ganolfan Sain Golwg Arwyddion (The Centre for Sign Sight Sound) ar gyfer y prosiect hwn.
Cau ysgolion a Sw Mynydd oherwydd eira a rhew
Roedd tua 60 o ysgolion yng ngogledd a gorllewin Cymru wedi cau eto ddoe (Dydd Gwener, Ionawr 10) oherwydd yr eira a rhew.
Roedd y Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew mewn rhai rhannau o Gymru. Mae’r tywydd wedi effeithio ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth.
Roedd 28 o ysgolion wedi cau yng Ngwynedd,14 yn Sir Conwy, 21 yn Sir Ddinbych, 2 yn Sir y Fflint, a 2 yng Ngheredigion.
Roedd Sw Mynydd Bae Colwyn hefyd wedi bod ar gau ddoe oherwydd y tywydd rhewllyd.
Dywedodd y Sw fod eu “tîm ceidwad ymroddedig ar y safle yn gofalu am ein hanifeiliaid, ac mae staff wrthi’n gweithio i sicrhau diogelwch y safle.”
Mae’r Sw wedi cynghori pobl i gadw llygad ar eu cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y newyddion diweddaraf a phryd byddan nhw’n ail-agor.
Michael Sheen yn lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd
Mae Michael Sheen, yr actor o Bort Talbot, yn mynd i lansio cwmni theatr newydd yng Nghymru.
Roedd National Theatre Wales wedi dod i ben fis diwethaf. Roedd wedi colli cefnogaeth ariannol o £1.6m gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Michael Sheen yn dweud y bydd e’n ariannu’r cwmni newydd, Welsh National Theatre. Bydd e hefyd yn chwilio am fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat i’r cwmni theatr yn y dyfodol.
Bydd y cynhyrchiad cyntaf yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn yr hydref 2026. Bydd Michael Sheen yn perfformio yn y cynhyrchiad. Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.
Dywedodd yr actor bod Welsh National Theatre eisiau gweithio gyda chwmnïau theatr eraill gan gynnwys Theatr Cymru (Theatr Genedlaethol Cymru gynt).
Roedd Michael Sheen wedi actio yn y ddrama Nye y llynedd. Roedd yn chwarae rhan Aneurin Bevan, oedd wedi sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae Michael Sheen yn dweud ei fod wedi cael ei ysbrydoli i sefydlu’r cwmni newydd, ar ôl llwyddiant Nye.