Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Cymru’n cael £1.7bn ychwanegol yn y Gyllideb
- Dros 200 o bobl wedi marw mewn llifogydd yn Sbaen
- Cynnal angladd Alex Salmond
- Barti Rum o Sir Benfro yn ennill gwobr aur
Cymru’n cael £1.7bn ychwanegol yn y Gyllideb
Roedd Rachel Reeves, Canghellor San Steffan, wedi cyhoeddi ei Chyllideb gyntaf ddydd Mercher (30 Hydref).
Dyma Gyllideb gynta’r Blaid Lafur ers 14 o flynyddoedd.
Mae Rachel Reeves wedi cyhoeddi £1.7bn ychwanegol i Gymru. Mae’r arian yma’n dod drwy Fformiwla Barnett.
Dyma rai o brif bwyntiau’r Gyllideb:
£25m i ddiogelu tomenni glo.
£11.8bn o iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed halogedig.
£1.8bn i’r gweithwyr post oedd wedi eu cael yn euog ar gam o dwyll ariannol.
Bydd y prif drethi’n cael eu rhewi’r flwyddyn nesaf. Mae’n golygu bydd dim cynnydd yn y dreth incwm, y Dreth Ar Werth (VAT) nac Yswiriant Gwladol i weithwyr. Ond fe fydd cyfraniad cyflogwyr yn codi o 13.8% i 15%.
Bydd treth ar fêps o Hydref 2026, a bydd cynnydd o 10% yn y dreth ar dybaco.
Bydd ceiniog yn cael ei thorri oddi ar bris peint yn y dafarn.
Mae disgwyl i tua £1.5bn gael ei roi i gronfeydd pensiwn tua 112,000 o gyn-lowyr.
Liz Saville Roberts yw arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae hi’n dweud: “Bydd y Gyllideb yn dal i deimlo fel llymder i nifer.”
Mae hi’n dweud bod y Canghellor wedi methu a rhoi “biliynau o bunnoedd sy’n ddyledus i Gymru” o HS2, wedi cadw toriadau’r Torïaid i les, ac wedi methu â helpu pensiynwyr i gadw’n gynnes y gaeaf hwn.
“Bydd newidiadau trethi’n bwrw busnesau â gweithwyr ar gyflogau is galetaf, gan effeithio ar deuluoedd ledled Cymru.”
Anthony Slaughter ydy arweinydd y Blaid Werdd.
“Roedd pobol wedi pleidleisio dros adfer gwasanaethau cyhoeddus ond dydy Llafur ddim yn gwireddu eu haddewidion am newid.”
Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud y bydd y Gyllideb yn cael “effaith ddinistriol” ar Gymru.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud bod y Gyllideb yn dangos “diffyg gweledigaeth uchelgeisiol i Gymru”.
“Mae’r Canghellor wedi dewis cynyddu trethi ar fusnesau bach sy’n rhoi bywyd i economi Cymru, yn hytrach na thargedu elw enfawr y banciau a chewri olew, nwy a thechnoleg.”
Ond mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi croesawu’r Gyllideb.
Mae hi’n dweud: “Roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn y Gyllideb hon, ond mae Rachel Reeves wedi amlinellu ei chynllun i drwsio seiliau’r economi ac edrych tua’r dyfodol.”
Dros 200 o bobl wedi marw mewn llifogydd yn Sbaen
Mae o leiaf 200 o bobl wedi marw mewn llifogydd yn Sbaen.
Dyma’r llifogydd gwaethaf mewn cenhedlaeth yn y wlad.
Mae timau achub a’r gwasanaethau brys yn ardal Valencia yn chwilio am bobl sydd ar goll. Ond mae glaw trwm yn gwneud eu gwaith yn anoddach.
Mae disgwyl mwy o law trwm yn y wlad ac mae rhybudd coch mewn lle yn nhalaith Huelva.
Mae 1,700 o filwyr wedi cael eu hanfon i ardal Valencia i helpu gyda’r gwaith o glirio’r difrod.
Pedro Sánchez ydy Prif Weinidog Sbaen. Mae o wedi annog pobl i aros gartref. Mae’n dweud nad ydy’r gwaethaf drosodd eto. Mae’n dweud mai’r peth pwysicaf ydy achub cymaint o fywydau â phosib.
Mae Sbaen wedi cyhoeddi tri diwrnod o alaru cenedlaethol ac mae baneri ar hanner mast ar adeiladau’r wlad.
Mae llawer o bobl yn dal ar goll.
Cynnal angladd Alex Salmond
Cafodd angladd preifat Alex Salmond ei gynnal yn sir Aberdeen ddydd Mawrth (Hydref 29).
Alex Salmond oedd cyn-Brif Weinidog yr Alban. Roedd wedi marw yn 69 oed ar ôl cael trawiad ar y galon. Roedd o’n ymweld â Gogledd Macedonia bythefnos yn ôl pan fu farw’n sydyn.
Roedd wedi bod mewn cynhadledd yno.
Cafodd ei gorff ei gludo’n ôl adref ar awyren breifat ar 18 Hydref. Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod talu i’r Awyrlu ei gludo yn ôl i’r Alban.
Cafodd ei angladd ei gynnal yn eglwys plwyf Strichen.
Ymhlith y rhai oedd wedi talu teyrnged iddo roedd Kenny MacAskill, arweinydd dros dro plaid Alba; Fergus Ewing, Aelod yr SNP o Senedd yr Alban; a Christina Hendry, nith Alex Salmond.
Nid oedd y Prif Weinidog John Swinney na Nicola Sturgeon, olynydd Alex Salmond yn y swydd, wedi mynd i’r angladd. Roedd y teulu wedi gofyn iddyn nhw beidio mynd.
Yn ystod y gwasanaeth, fe wnaeth Kenny MacAskill ddisgrifio Alex Salmond fel “cawr o ddyn” ac fel “arweinydd”, ac roedd yn “ysbrydoliaeth, yn athrylith wleidyddol, yn areithiwr, yn ddadleuwr ac yn gyfathrebwr heb ei ail”.
Roedd Alex Salmond yn Brif Weinidog yr Alban rhwng 2007 a 2014. Roedd wedi arwain ymgyrch dros annibyniaeth i’r Alban.
Barti Rum o Sir Benfro yn ennill gwobr aur
Mae cwmni Barti Rum o Sir Benfro wedi ennill ‘gwobr aur’ yng Ngwobrau Bwyd Prydain eleni.
Roedd wedi ennill yng nghategori’r gwirodydd.
Mae Barti Rum yn cael ei ddisgrifio fel “y rỳm sbeislyd mwyaf blasus ar y farchnad” gan y cwmni sy’n gwneud y rỳm.
Mae Merlin Griffiths yn arbenigwr bwyd a phersonoliaeth teledu. Roedd e wedi rhoi’r wobr aur i Barti Rum.
Mae’n dweud bod Barti Rum yn “fendigedig”.
Cafodd Gwobrau Bwyd Prydain ei lansio yn 2014. Mae’n dathlu’r cynnyrch artisan gorau yn niwydiant bwyd a diod y Deyrnas Unedig.
Frank Barnikel ydy Rheolwr-Gyfarwyddwr Barti Rum. Mae’n dweud fod y wobr yn “anrhydedd enfawr” i’w rỳm.
“Mae cymaint o frandiau gwirodydd gwych ym Mhrydain heddiw, ac mae cael y gydnabyddiaeth hon yn genedlaethol yn arbennig iawn.
“Rydyn ni’n falch fod y beirniaid yn ei hoffi gymaint â ni!”
Mae llwyddiant Barti Rum wedi dod o fewn wythnosau ar ôl iddo ymddangos ar silffoedd Tesco yng Nghymru.
Roedd ‘Barti Spiced’ a ‘Barti Cream Liqueur’, wedi lansio ym mis Medi eleni.
Mae ‘Barti Spiced’ ar gael mewn llawer o siopau annibynnol ledled y wlad, mewn archfarchnadoedd ac ar wefan Barti Rum.