Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Donald Trump wedi ennill etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau
  • “Dydy America ddim yn barod i gael menyw’n arlywydd”
  • Teyrngedau i newyddiadurwr rygbi a chystadleuydd Dysgwr y Flwyddyn 2022
  • ‘Llyfr Glas Nebo’ ar restr fer am wobr newydd rhwng Ffrainc a Phrydain

Donald Trump wedi ennill etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau

Roedd pobl America wedi pleidleisio i ddewis Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau ddydd Mawrth (5 Tachwedd).

Donald Trump oedd ymgeisydd y Gweriniaethwyr. Yr Is-Arlywydd Kamala Harris oedd ymgeisydd y Democratiaid.

Roedd Donald Trump wedi ennill y ras ar ôl cael mwy na 270 o’r pleidleisiau etholiadol oedd eu hangen. Roedd wedi ennill y bleidlais mewn nifer o’r taleithiau allweddol fel Wisconsin, Pennsylvania, Georgia a North Carolina.

Fe fydd yn dod yn Arlywydd ym mis Ionawr. Bydd yn olynu’r Arlywydd presennol, Joe Biden.

Ar ôl iddo ennill, roedd Donald Trump wedi annerch ei gefnogwyr yn Florida. Dywedodd fod ei ymgyrch wedi “creu hanes” a’i fod yn “mynd i helpu’r wlad i wella“.

Mae wedi diolch i bobl yr Unol Daleithiau am y “fraint” o gael ei ethol yn Arlywydd rhif 47.

Mae Kamala Harris wedi annog pobl i “beidio rhoi’r gorau iddi, ac i barhau i frwydro.”


“Dydy America ddim yn barod i gael menyw yn arlywydd”

Mae’r newyddiadurwr Maxine Hughes yn dod o Gonwy yn wreiddiol. Rŵan mae hi’n byw yn yr Unol Daleithiau. Mae hi’n adnabyddus am roi gwersi Cymraeg i’r ddau seren Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Mae Maxine Hughes wedi bod yn rhoi ei hymateb i’r etholiad.

Mae hi’n dweud bod un prif reswm pam fod Donald Trump wedi ennill a Kamala Harris wedi colli.

“Dydy America ddim yn barod i gael menyw yn arlywydd,” meddai.

“Roedd hynny’n amlwg i fi wedi’r etholiad yn 2016 [pan gollodd Hillary Clinton] ac mae hynny’n amlwg i fi heddiw.

“Mae llawer iawn o hiliaeth yma – ond mae hyd yn oed yn fwy o rywiaeth; dw i wedi gweld hynny fy hunan, hyd yn oed yn Washington D.C.”

Kamala Harris oedd y fenyw ddu gyntaf i fod yn ymgeisydd arlywyddol.

“Roedd popeth yn ei herbyn hi o’r cychwyn,” meddai Maxine Hughes.

“Roedd lliw ei chroen a’i rhyw, yn anffodus, yn anfantais iddi.

“Hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, lle mae tair menyw wedi bod yn Brif Weinidog, menywod ar y dde sy’n ennill – felly mae menyw ar y chwith yn ymddangos yn llawer rhy eithafol.”

Dim ond un peth oedd yn bwysig i bleidleiswyr America, sef yr economi, meddai Maxine Hughes.

“Beth sy’n bwysig i bobol pan maen nhw’n sefyll yn y blwch pleidleisio ydy faint o arian sy’n eu waledi nhw.

“Roedd neges Kamala Harris ar yr economi wedi bod yn wan, ac roedd llawer o rwystredigaeth am chwyddiant a diffyg codiadau cyflog yn ystod arlywyddiaeth Joe Biden.

“Roedd Trump, ar y llaw arall, yn trafod yr economi o hyd ac o hyd, ac mae’r argraff gan lawer o Americanwyr ei fod e’n ddyn busnes craff.”


Stephen Bale

Teyrngedau i newyddiadurwr rygbi a chystadleuydd Dysgwr y Flwyddyn 2022

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Stephen Bale sydd wedi marw ar ôl salwch byr. Roedd  Stephen wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2022.

Roedd yn ohebydd rygbi uchel ei barch. Roedd e wedi gohebu ar fwy na 500 o gemau rhyngwladol, saith taith gyda’r Llewod a saith Cwpan Rygbi’r Byd.

Dechreuodd ei yrfa yn 1973. Roedd Stephen wedi dechrau gweithio i’r Neath Guardian, cyn symud i’r South Wales Evening Post, y South Wales Argus a’r Western Mail.

Wedyn, roedd wedi gweithio fel gohebydd rygbi i’r Independent am wyth mlynedd, cyn mynd i weithio i’r Sunday Express a’r Daily Express.

Roedd yn ohebydd rygbi Cymru i’r Sunday Times cyn ymddeol yn 2017.

Ar ôl ymddeol, roedd wedi ail-ddechrau dysgu Cymraeg.

Roedd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn y 1970au. Ond wedyn aeth i weithio yn Llundain ac yna Gwlad yr Haf am chwarter canrif cyn dod yn ôl i Sir Fynwy.

“Y peth cyntaf wnes i ar ôl ymddeol yn 2017 oedd ffeindio ffordd i ddysgu, neu ail-ddysgu Cymraeg,” meddai Stephen, pan gafodd ei enwebu ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn.

“Dysgu’r iaith yw’r ffordd orau i’w chefnogi, ynte?”

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd y Rugby Union Writers’ Club y byddan nhw’n “cofio’i dalent, ei gynhesrwydd, a’i ganu”.

Mae nifer o ohebwyr rygbi wedi talu teyrnged iddo fe hefyd.

Mae Stephen Jones yn ohebydd rygbi’r Times.

Mae’n dweud: “Ysgrifennodd yn hyfryd i nifer o bapurau newydd, ac roedd yn cael ei garu’n fawr drwy’r byd chwaraeon a thu hwnt.

“Fy mêt annwyl dros ddegawdau o deithio.”

Mae’r sylwebydd a chyn-chwaraewr rygbi, Jonathan Davies, wedi’i ddisgrifio fel “newyddiadurwr gwych”.


Y cyfieithiad o Llyfr Glas Nebo

‘Llyfr Glas Nebo’ ar restr fer am wobr newydd rhwng Ffrainc a Phrydain 

Mae cyfieithiad o’r nofel Llyfr Glas Nebo wedi cyrraedd rhestr fer gwobr newydd rhwng Ffrainc a Phrydain.

Mae nofel Manon Steffan Ros yn digwydd mewn byd ôl-apocalyptaidd ger pentref Nebo yn Arfon.

Cafodd gwobr yr Entente Littéraire Prize (Prix de l’Entente Littéraire) ei chyhoeddi ym mis Medi 2023. Mae’r wobr wedi’i hysbrydoli gan yr Entente Cordiale. Dyma’r cytundeb gafodd ei greu yn 1904 rhwng llywodraethau Prydain a Ffrainc er mwyn gwella’r berthynas rhwng y ddwy wlad.

Mae Llyfr Glas Nebo wedi ennill llawer o wobrau.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Roedd ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2019, ac wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2019.

Ym mis Mehefin 2023, fe enillodd fedal YOTO Carnegie. Dyma oedd y tro cyntaf i gyfieithiad ennill y wobr yma.

Mae hefyd wedi cael ei haddasu yn ddrama lwyfan gan gwmni’r Frân Wen, ac ar gyfer y radio.

Gwobr yr Entente Littéraire Prize

Y beirniaid ar y panel oedd dau awdur llyfrau i’r ifanc o Ffrainc, Marie-Aude Murail a Timothée de Fombelle, a’r awduron Patrice Lawrence a Joseph Coelho o Brydain.

Llywydd y beirniaid oedd yr awdur Joanne Harris, sy’n siarad Ffrangeg a Saesneg.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad mawr yn Llundain ddechrau mis Rhagfyr.

Dyma’r holl lyfrau sydd ar y rhestr fer:

  • Le Livre Bleu De Nebo, Manon Steffan Ros, wedi’i gyfieithu gan Lise Garond (Actes Sud Jeunesse)
  • Thieves, Lucie Bryon (Flying Eye Books)
  • Men Don’t Cry, Faïza Guène, wedi’i gyfieithu gan Sarah Ardizzone (Cassava Republic Press)
  • Jefferson, Jean-Claude Mourlevat, wedi’i gyfieithu gan Ros Schwartz (Anderson Press)
  • Par Le Feu (After The Fire), Will Hill, wedi’i gyfieithu gan Anne Guitton (Casterman)
  • Les Etincelles Invisibles (A Kind of Spark), Elle McNicoll, wedi’i gyfieithu gan Dominique Kugler (Ecole des loisirs).