Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Andrew RT Davies yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
  • Prifysgolion Cymru: Ffioedd dysgu yn codi £300 y flwyddyn
  • Teyrngedau i’r eicon snwcer Terry Griffiths
  • Tîm merched Cymru’n cyrraedd yr Ewros 2025

Andrew RT Davies yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Mae Andrew RT Davies wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Roedd o wedi ennill pleidlais hyder yn ei arweinyddiaeth ddydd Mawrth (Rhagfyr 3).

Roedd naw o aelodau wedi cefnogi Andrew RT Davies, a saith wedi pleidleisio yn ei erbyn.

Mae Andrew RT Davies wedi bod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru ers 2021. Roedd wedi arwain y blaid rhwng 2011 a 2018 hefyd.

Ond roedd llawer o anghytuno wedi bod am y ffordd roedd yn arwain y blaid.

Mewn llythyr at gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Andrew RT Davies fod ei swydd yn “anghynaladwy” gan fod rhai o’r aelodau ddim yn ei gefnogi.

Darren Millar ydy arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig. Fe oedd yr unig ymgeisydd.

Mae o wedi dweud ei bod yn “amser uno’n plaid” wrth baratoi at etholiadau Senedd Cymru yn 2026.


Prifysgolion Cymru: Ffioedd dysgu yn codi £300 y flwyddyn

Fe fydd ffioedd dysgu mewn prifysgolion yng Nghymru yn codi £300 y flwyddyn.

Mae hyn yn golygu y bydd ffioedd yn codi o £9,250 y flwyddyn i £9,535 yn 2025/26.

Roedd prifysgolion Lloegr wedi codi ffioedd dysgu fis diwethaf.

Vikki Howells ydy’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Mae hi’n dweud: “Roedd y penderfyniad i godi ffioedd dysgu yn anodd ond yn angenrheidiol.”

Mae hi’n dweud  bod angen i sefydliadau addysg uwch Cymru “gystadlu” gyda rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Bydd codi’r ffioedd yn rhoi mwy o arian i Brifysgolion Cymru wneud hyn, meddai’r Llywodraeth.

Mae Vikki Howells yn dweud bydd y cynnydd mewn ffioedd ddim yn golygu cynnydd yn y costau prifysgol y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn er mwyn cefnogi’r sector addysg uwch.


Terry Griffiths

Teyrngedau i Terry Griffiths, cyn-bencampwr snwcer y byd

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Terry Griffiths, cyn-bencampwr snwcer y byd.

Roedd wedi marw’n 77 oed ar ôl bod brwydro gyda dementia.

Roedd Terry Griffiths yn dod o Lanelli a fe oedd pencampwr y byd yn 1979.  Fe oedd y pencampwr cyntaf erioed i gyrraedd y twrnament trwy’r rowndiau cymhwyso – ar ôl curo Dennis Taylor o 24-16.

Roedd e hefyd yn bencampwr y Meistri yn 1980 a Phencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1982.

Ei gêm broffesiynol olaf oedd yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd yn erbyn Mark Williams.

Roedd hefyd wedi bod yn löwr, yn bostmon ac yn weithiwr yswiriant.

Ar ôl ymddeol o chwarae snwcer, daeth yn sylwebydd gyda’r BBC. Roedd hefyd wedi hyfforddi nifer o sêr snwcer, gan gynnwys Mark Williams a Stephen Hendry.

Roedd ganddo fe glwb snwcer yn Llanelli, y Terry Griffiths Matchroom.

Mae Jason Mohammad yn cyflwyno rhaglenni snwcer y BBC. Mae’n dweud ei fod “mor drist o glywed y newyddion”.

“Diolch Terry am roi Cymru ar y map chwaraeon – am eich sylwebaeth gain, y sgyrsiau a’r cynhesrwydd yn y stiwdio.

“Wna i fyth anghofio sut y gwnaethoch chi fy nghroesawu i’r teulu snwcer wrth ymuno â thîm teledu’r BBC.”


Tim merched Cymru’n dathlu

Tîm merched Cymru’n cyrraedd yr Ewros 2025

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi cyrraedd yr Ewros 2025.

Dyma’r tro cyntaf erioed iddyn nhw gymhwyso ar gyfer twrnament mawr.

Roedden nhw wedi ennill o 2-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth (Rhagfyr 3) gan ennill o 3-2 dros y ddau gymal.

Y gobaith ydy y bydd llawer mwy o bobl yn ymwybodol o dîm pêl-droed menywod Cymru a bydd mwy o gyfleoedd i ferched chwarae’r gêm.

Lowri Roberts ydy cyn-bennaeth pêl-droed merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae hi wedi dweud wrth BBC Cymru bod hyn yn “game changer i ni yng Nghymru.”