Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Gisèle Pelicot yn “ysbrydoliaeth i ferched ar draws y byd”
- Andrew RT Davies yn cwyno am enwau uniaith Gymraeg
- Cau porthladd Caergybi ar ôl Storm Darragh wedi achosi problemau
- Pwy fydd yn rhifyn Nadolig Gogglebocs Cymru?
Gisèle Pelicot yn “ysbrydoliaeth i ferched ar draws y byd”
Mae Gisèle Pelicot yn ysbrydoliaeth i ferched ar draws y byd, meddai Liz Saville Roberts.
Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ydy Liz Saville Roberts. Roedd hi’n siarad ar ddiwedd achos llys yn Avignon yn Ffrainc.
Roedd Gisèle Pelicot, 71 oed, wedi cael sylw ar draws y byd am benderfynu rhoi tystiolaeth yn y llys a pheidio aros yn ddienw.
Roedd hi wedi cyhuddo ei gŵr, Dominique Pelicot, o roi cyffuriau iddi a’i threisio. Roedd o wedi gwahodd degau o ddynion eraill i’w cartref i dreisio ei wraig. Roedd hyn wedi digwydd dros nifer o ddegawdau.
Cafodd Dominique Pelicot ei garcharu am 20 mlynedd. Dyma’r ddedfryd hiraf ar gyfer y troseddau roedd o wedi’u cael yn euog ohonyn nhw.
Roedd 50 o bobol eraill wedi eu cael yn euog o droseddau tebyg hefyd. Roedd y dedfrydau’n amrywio o dair i 15 mlynedd yn y carchar.
Ysbrydoliaeth
Roedd Gisèle Pelicot, sy’n fam i dri o blant, wedi mynnu fod y cyhoedd yn cael clywed yr achos. Roedd hi hefyd eisiau i fideos o’r gamdriniaeth gael eu dangos i’r llys.
Mae hi’n dweud ei bod yn gobeithio y bydd yr achos yn newid agweddau’r gymdeithas yn Ffrainc er gwell.
“Merci, Gisèle,” meddai Liz Saville Roberts ar X.
“Mae dewrder Gisèle Pelicot yn wyneb camdriniaeth gan ddyn a ddylai fod wedi ei hamddiffyn yn ysbrydoliaeth i ferched ar draws y byd.”
Andrew RT Davies yn cwyno am enwau uniaith Gymraeg
Mae Andrew RT Davies wedi cwyno am roi enwau uniaith Gymraeg ar etholaethau newydd Cymru.
Andrew RT Davies ydy cyn-arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.
Mae’n dweud y bydd yn “annheg” i siaradwyr uniaith Saesneg.
Daeth ei sylwadau ar ôl cyhoeddi’r cynigion newydd ar gyfer etholaethau newydd Cymru.
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi cynigion newydd ar gyfer etholaethau’r Senedd.
Mae’r cynigion newydd yn cynnwys nifer o enwau uniaith Gymraeg. Dim ond pedair etholaeth fydd ag enwau dwyieithog
– yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Enw uniaith Gymraeg fydd gan bob etholaeth, oni bai bod y Comisiwn yn penderfynu fel arall.
Maen nhw’n dweud y bydd enwau’n uniaith Gymraeg “lle bo hynny’n bosib”.
Mae Andrew RT Davies yn cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru. Mae o’n dweud bod y penderfyniad yn “annheg”.
“Mae Cymru’n ddwyieithog, a bydd y cam hwn yn annheg i siaradwyr uniaith Saesneg.”
Mae’n dweud mai “uniaith Saesneg yw llefydd fel Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr gan fwyaf, a dylai enwau’r etholaethau adlewyrchu hynny.”
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud: “Y Gymraeg yw priod iaith Cymru, a dylen ni ymfalchïo ynddi, ei defnyddio a’i hyrwyddo fel bod gweld a chlywed geiriau ac enwau Cymraeg yn dod yn arferol.”
Cau porthladd Caergybi ar ôl Storm Darragh wedi achosi problemau
Mae porthladd Caergybi wedi cau ar ôl cael ei ddifrodi yn Storm Darragh.
Bu’n rhaid cau’r porthladd oherwydd y difrod ar Ragfyr 6. Mae’n annhebygol y bydd yn ailagor cyn canol mis Ionawr gan fod angen llawer o waith atgyweirio.
Mae hyn wedi achosi llawer o broblemau ac oedi mewn porthladdoedd eraill.
Llinos Medi ydy Aelod Seneddol Ynys Môn. Mae hi’n dweud bod angen cefnogaeth frys.
Mae hi wedi ysgrifennu at Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Mae Caergybi yn un o borthladdoedd prysuraf y Deyrnas Unedig. Mae cerbydau a gyrwyr yn cael eu dargyfeirio o Gaergybi i nifer o borthladdoedd eraill. Mae’r rhain yn cynnwys Doc Penfro, Abergwaun, Lerpwl, a Cairnryan yn yr Alban.
Mae hyn wedi arwain at oedi mewn porthladdoedd eraill.
Mae Llinos Medi’n dweud bod cau’r porthladd am gael effaith ar y bobl sy’n dibynnu ar y porthladd ar gyfer eu gwaith.
“Mae nifer o fusnesau ar yr ynys wedi cael eu heffeithio’n enfawr, a nifer o unigolion wedi colli’u swyddi ar unwaith.”
Mae hi’n dweud bod angen cefnogaeth y llywodraeth ar frys.
Mae hi’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio â Llywodraeth Cymru i helpu busnesau sydd wedi cael eu heffeithio.
Mae Llinos Medi’n dweud bod y berthynas fasnach rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn bwysig iawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio gydag awdurdodau er mwyn lleihau effaith y storm. Ond nid yw masnach ryngwladol wedi cael ei ddatganoli.
“Mae’r porthladd yn llwybr masnach ryngwladol pwysig i’r Deyrnas Unedig i gyd.
“Rhaid i Lywodraeth San Steffan beidio ag aros yn dawel tra bo swyddi’n cael eu colli ac wrth i fusnesau ei chael hi’n anodd.”
Gareth Davies ydy Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn y gogledd. Mae o’n galw ar lywodraethau Cymru, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ymyrryd ar frys er mwyn ailagor y porthladd.
Mae’n dweud fod cau’r porthladd yn cael “effaith enfawr ar yr ardal”. Mae’n dweud y bydd yn cael effaith ar economi Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Pwy sydd yn rhifyn Nadolig Gogglebocs Cymru?
Mae S4C wedi cyhoeddi pa wynebau adnabyddus fydd yn cymryd rhan yn rhifyn Nadoligaidd o Gogglebocs Cymru ar Ragfyr 27.
Bydd y ffermwr adnabyddus Gareth Wyn Jones a’r arwr rygbi Scott Quinnell ymhlith y wynebau fydd yn ymddangos yn y rhifyn Nadoligaidd o Gogglebocs Cymru.
Mae Gareth Wyn Jones yn addo “dweud ei ddweud” wrth drafod rhaglenni gyda Scott Quinnell.
“Mae gwaith fferm yn golygu nad oes gen i lawer iawn o amser i wylio’r teledu,” meddai.
“Yn y gwanwyn a’r haf, dw i allan tan yn hwyr yn gofalu am yr anifeiliaid, ac yn y gaeaf mae pentwr o waith papur i’w wneud.
“Unrhyw beth efo stori neu raglenni da am fywyd ac anifeiliaid cefn gwlad… ond dw i’n edrych ymlaen at Gogglebocs ’Dolig.
“Dw i ddim wedi gweld Scott ers tro, a bydd yn wych i ddal i fyny efo fo.
“Mae gan Scott farn bendant ar rai pethau – fel fi – a dw i’n siŵr y bydd yna adegau pan fydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno.
“Mae’r ddau ohonon ni’n eitha’ di-flewyn-ar-dafod, felly dw i’n siŵr y bydd yna ychydig o dân gwyllt geiriol ar adegau – ond bydd y cyfan mewn ysbryd hwyliog!”
Hefyd ar y rhaglen bydd Llŷr Ifans, seren y ffilm Twin Town, a’i wraig, y gyflwynwraig Lisa Gwilym.
Mae Lisa Gwilym yn dweud ei bod hi ddim yn gwybod beth sydd i’w ddisgwyl ar S4C na sianeli eraill dros y Nadolig, ac felly y bydd y rhaglenni maen nhw’n gorfod gwylio yn “sypreis”.
“Dw i’n hoffi pob math o deledu, o raglenni dogfen dda i chwaraeon, ac wrth gwrs, dramâu.
“Dw i’n mwynhau gwylio pêl-droed, a bydda’i yn gwylio gemau efo Jacob.
“Dw i’n siŵr y bydd gennym ni rywbeth i’w ddweud am yr holl raglenni!
“Mae Llŷr yn barod iawn i gynnig sylw neu ddau!”
Mirain Iwerydd a Melanie Owen
Bydd y gyflwynwraig Mirain Iwerydd yn ymuno â’r ddigrifwraig Melanie Owen i roi eu barn onest yn ystod y rhaglen.
Mae Mirain Iwerydd yn gyffrous i ymddangos ar Gogglebocs ’Dolig.
“Dyma fydd fy sioe enwog gyntaf, ac alla i ddim aros!” meddai.
“Bydd yn llawer o hwyl!
“Fydd Gogglebocs ’Dolig ddim yn wahanol i be’ ydyn ni’n gwneud fel arfer pan rydyn ni’n ymlacio o flaen y teledu.
“Rydyn ni’n gwylio ac yn pasio sylwadau ar beth sydd ymlaen, a dw i’n siŵr y bydd digon o biffian!”
Euros Wyn ydy cynhyrchydd y gyfres. Mae’n dweud fod y lein-yp Nadoligaidd yn cynnwys sawl aelod o raglen arbennig Nadoligaidd y llynedd.
“Fe wnaeth y rappers Lloyd Lew a Dom James hefyd ymddangos y Nadolig diwethaf, a bydd eu ffrind a’u cyd-rapiwr Sage Todz yn ymuno y tro hwn,” meddai.
“A bydd y cyn-bêl-droedwyr Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones hefyd ar y sioe unwaith eto.
“Byddwn ni hefyd yn cael ein croesawu i gartref y gyflwynwraig a chantores Elin Fflur. Fe fydd hi’n ymuno â’i ffrind, yr actores Mari Wyn Roberts. Mae Mari yn chwarae’r blismones Siân Richards yn y gyfres ddrama Rownd a Rownd.
“O fyd coginio, ‘dyn ni wedi gwahodd Colleen Ramsey a’i chwaer Roisin unwaith eto a bydd y cyflwynwyr teledu a chantorion, sydd hefyd yn bartneriaid, Lisa Angharad a Rhys Gwynfor, yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf.”