Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Storm Darragh yn achosi llawer o ddifrod
- Cyllideb Ddrafft Cymru: £1.5bn ychwanegol i ‘gryfhau gwasanaethau’
- Dyn, 83, wedi marw mewn tân mewn tŷ
- Nessa a Smithy ar y radio ar Ddydd Nadolig
Storm Darragh yn achosi llawer o ddifrod
Roedd Storm Darragh wedi taro Cymru ddydd Sadwrn diwethaf (Rhagfyr 7) gan achosi llawer o ddifrod.
Roedd glaw trwm a gwyntoedd cryfion hyd at 90m.y.a. mewn rhai llefydd.
Fe fu miloedd o gartrefi heb drydan am ddyddiau ar ôl y storm. Roedd nifer o ysgolion wedi cau. Roedd coed wedi cwympo gan achosi problemau ar y ffyrdd ar draws y wlad. Cafodd llawer o wasanaethau trên a bysys hefyd eu canslo neu eu gohirio.
Cafodd pier hanesyddol Llandudno ei difrodi yn y storm. Mae apêl wedi dechrau i godi arian er mwyn trwsio’r pier. Maen nhw wedi cael bron i £15,000 hyd yn hyn.
Paul Williams ydy rheolwr cyffredinol Pier Llandudno. Mae’n dweud bod y difrod sydd wedi’i achosi’n “dorcalonnus”.
“Mae hyn am gymryd amser hir i’w drwsio, ar gost fawr,” meddai.
“Dydy’r pier heb ei yswirio ar gyfer y math yma o ddigwyddiadau (difrod mewn stormydd). Does dim yswiriant fel hyn ar gael ar gyfer pier.”
Mae Paul Williams wedi diolch i bobl am eu cefnogaeth.
Bydd y pier yn 150 oed yn 2027.
Cyllideb Ddrafft Cymru: £1.5bn ychwanegol i ‘gryfhau gwasanaethau’
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ddydd Mawrth (Rhagfyr 10).
Roedd £1.5bn ychwanegol i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau bach, a gyrru twf economaidd.
Mark Drakeford ydy Ysgrifennydd Cyllid Cymru.
Mae’n dweud bydd pob adran yn cael mwy o arian ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bydd buddsoddiad mewn ysgolion, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, tai a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r Llywodraeth yn dweud bod y Gyllideb Ddrafft yn mynd i:
- gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- creu swyddi a thwf
- cynnig cyfleoedd i deuluoedd
- cysylltu cymunedau
Mae’n cynnwys dros £600m ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn helpu i dorri’r amserau aros gwaethaf, gwella gwasanaethau iechyd meddwl, a chryfhau iechyd menywod.
Bydd arian ychwanegol i fynd i’r afael â thomenni glo. Mae llifogydd diweddar wedi effeithio ar y tomenni sydd yng Nghymru.
Bydd £81m ar gyfer adeiladu rhagor o dai cymdeithasol, gan helpu i leihau digartrefedd.
Bydd £100m ychwanegol ar gyfer addysg.
Bydd £181.6m ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd.
Mae Mark Drakeford yn dweud bod y gyllideb yn “cynnig dyfodol mwy disglair… ar ôl 14 o flynyddoedd anodd iawn.”
“Mae hon yn gyllideb dda i Gymru.”
Ond mae Plaid Cymru’n dweud bod y Gyllideb Ddrafft ddim yn ddigon “uchelgeisiol”.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Llafur “yn rhoi â’r naill law ac yn tynnu i ffwrdd â’r llaw arall.”
Bydd Aelodau’r Senedd yn craffu ar y Gyllideb Ddrafft cyn cynnal pleidlais derfynol ym mis Mawrth.
Dyn, 83, wedi marw mewn tân mewn tŷ
Mae dyn 83 oed wedi marw mewn tân mewn tŷ yng Ngheredigion.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn Nrefach ger Llanybydder ddydd Mercher, (Rhagfyr 11).
Aeth timau yno o Dregaron, Llanbed, Aberaeron ac Aberystwyth. Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Mae llawer o ddifrod wedi’i achosi i’r tŷ. Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Dydy Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin ddim yn ei drin fel digwyddiad amheus.
Nessa a Smithy ar y radio cyn y Nadolig
Bydd dau o sêr y gyfres Gavin & Stacey yn cyflwyno rhaglen arbennig ar BBC Radio 2 cyn y Nadolig.
Fe fydd Ruth Jones a James Corden yn actio’u cymeriadau Nessa a Smithy ar y rhaglen.
Bydd y rhaglen radio arbennig yn cael ei darlledu rhwng 6.30-9.30yb ddydd Llun, Rhagfyr 23.
Byddan nhw’n cael cwmni nifer o actorion eraill y gyfres yn ystod y sioe, gan gynnwys Joanna Page (Stacey), Matt Horne (Gavin), Rob Brydon (Bryn), Alison Steadman (Pam), Larry Lamb (Mick) a Rob Wilfort (Jason).
Bydd y bennod olaf erioed o Gavin & Stacey yn cael ei darlledu am 9yh ar Ddydd Nadolig.
Yn ystod y rhaglen radio, bydd Ruth Jones a James Corden yn datgelu llawer o gyfrinachau’r gyfres. Byddan nhw’n rhannu atgofion am y gyfres dros y blynyddoedd ac yn chwarae eu hoff ganeuon.
Bydd Alison Steadman hefyd yn westai arbennig ar raglen Gary Davies, Tracks of My Years, drwy gydol wythnos y Nadolig (Rhagfyr 23-27). Bydd hi’n dewis y caneuon sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar ei bywyd.